Lle nad yw'r cyfathrebiad personol wedi'i archifo neu'n adalw, er enghraifft sgyrsiau neu lythyrau personol, yna nid oes angen rhestru'r cyfathrebiad yn y rhestr gyfeirio. Yn lle hynny, rhowch y wybodaeth mewn cromfachau yn y testun.
Mae cyfrinachedd claf yn golygu y bydd angen i chi ddefnyddio ffugenw ar gyfer y claf.
Er enghraifft:
… a phrofwyd bod modd trin y rhan fwyaf o’r afiechydon hyn (sgwrs 2018 rhwng HJ Lewis a’r awdur; heb gyfeiriadau) tra bod yr ychydig a…
Os oes modd adalw'r wybodaeth, defnyddiwch y fformat hwn ar gyfer y rhestr gyfeiriadau:
Enw(au) yr Awdur, Cyfenw ac wedyn enw cyntaf. Defnyddiwch flaenlythyren ar gyfer yr enw canol cyntaf - anwybyddwch unrhyw enwau canol eraill.
(lleoliad gwaith yr awdur).
Ymadrodd Cysylltiol: e.e. Sgwrs gyda:
Enw(au)'r parti arall, Cyfenw ac wedyn enw cyntaf. Defnyddiwch flaenlythyren ar gyfer yr enw canol cyntaf - anwybyddwch unrhyw enwau canol eraill.
(Gwaith y parti arall).
Os yw ar ffurf dogfen, ychwanegwch
Nifer y tudalennau.
Lle y gellir adalw'r eitem.
Enghraifft o lythyr:
Anfinsen, Christian B. (Adran Bioleg, Prifysgol Johns Hopkins, Baltimore, MD). Llythyr at: Cyril Ponnamperuma (Prifysgol Maryland, College Park, MD). 2018 Ebr 23. 1 ddalen. Lleolir yn: Y Casgliad Llawysgrifau Modern, Adran Hanes Meddygaeth, Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol, Bethesda, MD; MS C 496, Blwch 8, Ffolder 3.
Enghraifft o sgwrs:
Patrias, Karen (Adran Gwasanaethau Cyhoeddus, Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol, Bethesda, MD). Sgwrs gyda: Margaret Madison (Adran Gyfeirio, Prifysgol Arkansas ar gyfer y Gwyddorau Meddygol, Little Rock, AR). 2018 Maw 3.