Mae Canllaw Llyfrgell Prifysgol Abertawe i Arddull Vancouver yn seiliedig ar Citing Medicine: the NLM style guide for authors, editors & publishers.[1] Citing Medicine yw'r canllaw swyddogol i arddull Vancouver. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i arddull Vancouver neu weld amrywiadau ar yr arddull mewn cyfnodolion gwahanol. Yn benodol, gellir ymdrin â dyfyniadau eilaidd yn wahanol. Bydd cyfnodolion hefyd yn pennu rheolau gwahanol ynghylch a ddylai rhifau yn y testun fod y tu mewn i atalnodau neu'r tu allan iddynt. Dilynwch y cyngor isod a chyfeiriwch at Citing Medicine neu cysylltwch â'r Llyfrgell am ragor o gyngor.
Mae arddull Vancouver yn system rifiadol. Cafodd ei datblygu mewn cyfarfod o olygyddion cyfnodolion biofeddygol ym 1978, ac mae wedi cael ei mabwysiadu'n helaeth gan gyfnodolion mewn sawl disgyblaeth, yn enwedig y gwyddorau ffisegol.
Dynodir rhif (Arabaidd) i bob cyfeiriad y tro cyntaf iddo ymddangos yn y testun. Y rhif a roddir fydd y dynodwr unigryw ar gyfer y cyfeiriad hwnnw felly, os caiff ei ddyfynnu eto yn y testun, bydd yr un rhif ganddo. Y cyfeiriad cyntaf a ddyfynnir fydd rhif 1 bob tro a dyrennir rhifau yn eu trefn.
Mae'n bosibl na fydd rhywfaint o'ch deunydd, yn enwedig fformatau mwy newydd, wedi cael arddull cyfeirio benodol eto. Mewn achosion fel y rhain mae'n well edrych ar nifer o fformatau tebyg ac yna dewis y fformat sy'n nodi eich cyfeirnod yn well. Mae fformat sylfaenol cyfeirnod Vancouver yn edrych fel hyn:
Awdur(on)
Teitl.
Lle Cyhoeddi:
Cyhoeddwr;
Blwyddyn Cyhoeddi.
Os yw'n electronig yn cynnwys
Teitl [fformat ee nodiadau darlith, rhyngrwyd]
[nodi mis mis diwrnod h.y. pan oeddech yn edrych ar y deunydd]
Ar gael o
Gellir ysgrifennu rhif y cyfeiriad mewn cromfachau crwm (1), cromfachau sgwâr neu [1] neu fel uwchnod1. Os ydych yn defnyddio meddalwedd llyfryddiaethol EndNote i reoli'ch cyfeiriadau, byddwch yn gweld bod arddull Vancouver EndNote yn defnyddio cromfachau crwm yn awtomatig.
Brookfield S. Understanding and facilitating adult learning: a comprehensive analysis of principles and effective practices. Buckingham: Open University Press; 1998.
Cyfeiriadau
1. Patrias, K. Citing medicine: the NLM style guide for authors, editors and publishers [Internet]. 2nd ed. Wendling, DL, technical editor. Bethesda (MD): National Library of 1. Medicine (US); 2007 – [updated 2015 Oct 2; cited 2018 May 31]. Ar gael yn: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/books/NBK7256/
2. Y Sefydliad Safonau Prydeinig BS 5605. Recommendations for citing and referencing published material. Llundain: BSI; 1990.
3. Llyfrgell Prifysgol Birmingham.. Vancouver Referencing Handbook [Internet]. Birmingham: Birmingham University Library; 2016 [cited 2018 April 27]. Ar gael yn: https://intranet.birmingham.ac.uk/as/libraryservices/library/referencing/icite/referencing/vancouver/index.aspx