Lle nodir mwy nag un lle, rhowch flaenoriaeth i'r lleoliad yn y DU os yw wedi'i nodi; fel arall, rhowch y lle cyntaf sy'n cael ei nodi.
Os nad yw'r lle yn cael ei nodi, ond mae modd ei wybod o fewn rheswm, rhowch y lle mewn cromfachau sgwâr, e.e. [Caerdydd]. Fel arall, nodwch [lle anhysbys]. Yn yr un modd, os nad yw enw'r cyhoeddwr yn amlwg, rhowch [cyhoeddwr anhysbys].