Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein)

This page is also available in English

Dyfyniadau

Yn achos dyfyniadau o 40 gair neu lai, defnyddiwch ddyfynodau dwbl i amgáu'r testun uniongyrchol.

Er enghraifft: Yn y testun: Fel y pwysleisia Neville , “you should cite all sources and present full details of these in your list of references."1(t37)

Dyfyniadau o fwy na 40 gair

Yn achos dyfyniadau o fwy na 40 gair, mae angen paragraff ar wahân, wedi'i fewnosod. Er enghraifft:

Mae Smith (7) yn crynhoi pwysigrwydd mathemateg i gymdeithas a'r economi wybodaeth, gan ddweud:

000000 Mathematics provides a powerful universal language and intellectual toolkit for abstraction, generalization and synthesis. It is the language of science and technology. It enables us to probe the natural universe and to develop new technologies that have helped us control and master our environment, and change societal expectations and standards of living.(t11) 000000

 

Pryd dylwn i ddefnyddio rhifau tudalen?

Yn anaml iawn y mae cyfeiriadau at rifau tudalen yn cael eu cynnwys wrth ddyfynnu yn nhestun aseiniad neu draethawd wrth ddefnyddio arddull Vancouver. Fodd bynnag, yn achos dyfyniadau, neu os hoffech fod yn benodol ynglŷn â ffynhonnell gwybodaeth, dyfyniadau neu ystadegau, gellir rhoi rhifau tudalennau neu ffigurau fel isod.

The incidence of the syndrome was rare.[12(fig4)]