Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein)

This page is also available in English

E-gyhoeddiadau neu erthyglau 'ar-lein yn gyntaf'

Cyhoeddir yr erthyglau hyn ar-lein cyn iddynt gael eu hargraffu a chyn y dynodir rhif cyfrol a rhifyn iddynt. Mae'n bosib hefyd y cânt eu diwygio cyn cyhoeddi'r argraffiad terfynol. Felly, mae'n ddefnyddiol cydnabod eu statws drwy roi e-gyhoeddiad cyn y dyddiad cyhoeddi ar-lein, a ddylai gynnwys y dyddiad llawn yn yr achos hwn (blwyddyn, mis dydd). Bydd DOI hefyd yn helpu'r darllenydd i ddod o hyd i'r erthygl.

Wrth ddyfynnu e-gyhoeddiadau ac erthyglau ar-lein yn gyntaf ar ôl iddynt gael eu hargraffu a dynodwyd rhifau cyfrol a rhifyn iddynt, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfeirnodi'r fersiwn o'r erthygl a ddarllenwyd gennych. Os dymunwch, gallwch ychwanegu nodyn ar ddiwedd y cyfeiriad i nodi mai e-gyhoeddiad ydoedd.

Fformat

Awdur(on). (Cyfenw ac wedyn blaenlythyren neu flaenlythrennau).
Teitl yr erthygl.
Enw'r cyfnodolyn [Rhyngrwyd].
E-gyhoeddiadau  Blwyddyn cyhoeddi e.e. E-gyhoeddiad 2024 Gor 24
[dyddiad dyfynnu];
Rhif cyfrol y cyfnodolyn:
(Rhif y rhifyn):
Os yw ar gael Rhif(au) tudalen cynhwysol yr erthygl.
Ar gael o:

Enghraifft:

Wright D B, Wolff S.M (2024). Justifying responses affects the relationship between confidence and accuracy. Experimental Psychology [Rhyngrwyd]. E-gyhoeddiad 2024 Gor 2 [dyfynnwyd 2024 Aws 30]. Ar gael o: doi:10.1027/1618-3169/a000612