Mae angen cyhoeddi Rhestrau Darllen er mwyn i’ch myfyrwyr allu eu gweld.
Bydd gan restr nad yw wedi’i chyhoeddi statws drafft.
I gyhoeddi rhestr, dewiswch yr opsiwn Mae fy rhestr yn barod ar frig y sgrin.
Bydd gan y Rhestr statws yn nodi ei bod wedi’i chyhoeddi.
Bydd myfyrwyr nawr yn gallu dod o hyd i'r rhestr ac ychwanegu eitemau at eu Ffefrynnau, bydd hefyd i'w weld ar eich modiwl Canvas.
(I ddat-gyhoeddi rhestr, dewiswch y ddewislen Opsiynau Rhestr Ddarllen a dewis Dat-gyhoeddi'r rhestr).
Gallwch edrych ar Restr Ddarllen fel y bydd yn ymddangos i’ch myfyrwyr.
Dewiswch y ddewislen opsiynau a dewis Gweld y rhestr fel myfyriwr.
Bydd y rhestr ddarllen bellach yn ymddangos fel y bydd i’r myfyrwyr.
I gau hyn, dewiswch yr opsiwn 'Yn ol at olwg yr hyfforddwr' ar frig y sgrin.