Wrth baratoi rhestrau darllen ar gyfer modiwlau partneriaeth, mae'n hanfodol sicrhau bod yr holl adnoddau ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae hyn yn golygu osgoi deunyddiau print a sicrhau bod adnoddau electronig wedi’u trwyddedu’n briodol i'w defnyddio'n fyd-eang. Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu sut i addasu eich rhestrau darllen i fodloni'r gofynion hyn a sicrhau cydymffurfiaeth.
☐ Gwnewch gopi dyblyg o'ch rhestr wreiddiol (os oes angen) a'i hailenwi gydag amrywiad o rif y rhestr wreiddiol.
☐ Tynnwch yr holl adnoddau print o’r rhestr bartneriaethau.
☐ Tynnwch unrhyw e-lyfrau EBSCO
☐ Defnyddiwch iFind i ddod o hyd i fersiynau electronig neu destunau amgen.
☐ Gwiriwch drwyddedau cronfeydd data ar gyfer mynediad rhyngwladol drwy gysylltu â'r Llyfrgell.
☐ Cyflwynwch eich rhestr ddarllen a rhifau modiwlau drwy’r ffurflen hon.
☐ Cysylltwch â'r Llyfrgell os oes gennych ymholiadau:library@abertawe.ac.uk