Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Hanes Anabledd

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Anabledd

Mae cofnodion yn yr ArchiMatron and 4 miners on crutches outside rest homefau'n gallu bod yn adnodd defnyddiol ar gyfer cynrychioli pobl ag anableddau, afiechyd a chyflyrau iechyd meddwl. Maent yn gallu rhoi mewnwelediad i hanesion cudd, defnydd iaith, a sut mae pethau wedi newid (neu beidio). 

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys enghreifftiau o:

  • Gasgliad Maes Glo De Cymru
  • Casgliad Raissa Page
  • Casgliadau llenyddiaeth a theatr

Gwnaeth ymchwilwyr ar gyfer y Prosiect Anabledd a'r Gymdeithas Ddiwydiannol archwilio Casgliad Maes Glo De Cymru fel rhan o'r prosiect cydweithredol, a archwiliodd anafiadau a chlefydau diwydiannol yn y tri maes glo ym Mhrydain rhwng 1780 a 1948.

Cartref Gorffwys y Glowyr Porthcawl: llun o'r fetron a phedwar claf (Cyf.SWCC/PHO/NUM/6/7)

Achub

7 members of rescue team in a room holding equipment

Llun o aelodau tîm achub sy'n gwisgo eu cyfarpar anadlu ac yn dangos eu hoffer gwaith (Cyf. SWCC/PHO/COL/101)

Mae lluniau o dimau achub pyllau glo yng Nghasgliad Maes Glo De Cymru (Cyf. SWCC/PHO/COL) yn dangos datblygiadau yn y cyfarpar diogelwch arbenigol a ddefnyddiwyd gan dimau achub pyllau glo, megis y cyfarpar anadlu, cludwelyau, helmedau ac ambiwlansys.Yn aml, cynhelid cystadlaethau rhwng timau achub mewn gwyliau a ffeiriau lleol.

Damweiniau a Thrychinebau

Digwyddodd trychinebau sylweddol ym Maes Glo De Cymru, yn arwain at anafiadau difrifol a marwol. Mae cofnodion yn y casgliad yn manylu ar ymholiadau swyddogol;adroddiadau meddygol; hawliadau am iawndal;papurau personol sy'n dangos yr effaith ar deuluoedd a chymunedau; a cherddi coffa.

  • Ffrwydrad Glofa Universal, Senghenydd-
    • cardiau coffa tua'r flwyddyn 1913 (Cyf. SC/227)
    • napcyn coffa a gyflwynwyd i Morris Roberts, aelod o Dîm Achub Senghenydd.Mae'n cynnwys cerdd goffa i'r glowyr y collasant eu bywydau (Cyf. SC/372)
    • cofnodion yr ymchwiliad, 1914 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/7/1)
    • cerdd ddi-enw am y ffrwydrad - 'Tanchwa Echrydus Yng Nglofa yr Universal, Senghenydd', tua.1913 (Cyf. SC/388)
    • dogfennau ynghylch Cronfa Gymorth Senghenydd (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/7/4-8)
  • 'Recitation' - cerdd am drychineb Glofa Rhosamman gan Willie Lowe, yr 'Ocean Poet', 1924 (Cyf. SC/551)
  • Cerdd goffa gan Daniel Davies ar gyfer Dafydd Lewis, John Taulman, Thomas White, Thomas Bowen a Morgan Saunders, sy'n ymwneud â'u marwolaeth mewn ffrwydrad yng Nglofa Broadoak (Cyf. SC/435/2)
  • Adroddiadau meddygol Porthdy Glynrhedynog am weithwyr wedi'u hanafu, 1907-1931, 1936 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/33/67)
  • Llun (braslun argraffedig) o Lofa Abercarn ar ôl y ffrwydrad ym mis Medi 1878, sy'n dangos teuluoedd yn rhuthro i safle'r drychineb (Cyf. SWCC/PHO/COL/3)
  • Lluniau ar ôl y tirgwymp yn Aberfan, 1966 (Cyf.SWCC/PHO/TOP/1)

Cerdd ‘Calon Drom’ am y ffrwydrad yng Nglofa Universal , Senghenydd. tua'r flwyddyn 1913 (Cyf. SC/388) 

Raissa Page

Defnyddiodd Raissa Page, ffotograffydd a ddysgodd ei hun, luniau dogfen i ddal bywydau grwpiau wedi'u hymyleiddio ar adegau newid cymdeithasol yn ystod yr ugeinfed ganrif. Roedd hi'n un o aelodau sefydlu FORMAT Photographic Agency, sef asiantaeth arloesol menywod yn unig yn y 1980au. Yn bennaf, mae'r casgliad yn cynnwys printiau ffotograffig, negatifau a thryloywluniau a grëwyd rhwng 1977 a 1993.

Mae'r casgliad (Cyf. DC3) yn adnodd sylweddol ar gyfer hanes anabledd, meddygaeth, gwaith cymdeithasol, iechyd meddwl a heneiddio. Mae lluniau Raissa Page yn cyfleu anabledd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • Delweddau o'r rhai ag anabledd mewn gwahanol leoliadau gan gynnwys plant, canolfannau dydd a marchogaeth ar gyfer pobl anabl (Cyf. DC3/26
  • Delweddau sy'n ymwneud ag iechyd corfforol. Mae'n cynnwys delweddau o ysbytai, staff nyrsio a meddygon (Cyf. DC3/28)
  • Delweddau sy'n ymwneud â'r rhai sy'n byw ag iechyd meddwl gwael, a'u gofal. Mae disgrifiadau'r asiantaeth ar gefn y printiau'n dangos sut mae'r iaith a ddefnyddir ynghylch meysydd fel hyn wedi newid, hyd yn oed dros gyfnod gweddol fyr (Cyf. DC3/30

Gallwch ddysgu rhagor am y llun hwn  yma drwy ymateb yr Athro David Turner,  Adran Hanes, Prifysgol Abertawe.

Back of man in wheelchair outside, between hospital buildings

“Early morning, an ‘aimless walk’ in the grounds of the hospital....” Llun gan Raissa Page. Diogelwyd gan hawlfraint (Cyf. DC3/30/1/213)

Codi Arian

Mae Casgliad y Theatr Gludadwy (Cyf. LAC/106/E) yn cynnwys sawl poster sidan sy'n datgelu materion a oedd yn gyffredin yng nghymunedau'r meysydd glo.Mae'r poster hwn, gan Ebley's Olympic Theatre, yn amlygu'r rôl bwysig yr oedd nyrsys ardal yn ei chwarae ym maes glo De Cymru cyn dyddiau'r GIG (Cyf.LAC/106/E/22).

Poster sidan gan Ebley's Olympic Theatre ar gyfer perfformiad yn Aberpennar ar 21 Ebrill 1892, er budd nyrsys ardal (Cyf. LAC/106/E/22) 

Llenyddiaeth a drama

Mae anabledd yn ymddangos mewn ffyrdd gwahanol yn llenyddiaeth y meysydd glo. Mae enghreifftiau o'n casliadau'n cynnwys -

  • Casgliad Ron Berry (Cyf. WWE/1)
    • 3 drafft teipysgrif o The Disabled (Cyf.WWE/1/4/20)
    • Proflenni o'r nofel 'Flame and Slag' - 'a richly comic story about insular people in a decaying environment'. Mae'n digwydd ar adeg trychineb Aberfan, mae un o'r prif gymeriadau sef Rees yn cael ei anafu mewn damwain pwll go (Cyf. WWE/1/1/1
  • B.L.Coombes, 'These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales' (Cyf. SWCC/MND/14/1/4/2)

Adsefydlu

Black and white view of Porthcawl rest home on top of hill

Golygfa o Gartref Gorffwys y Glowyr Porthcawl, 1920 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/6/6)

Gallai glowyr a oedd yn adfer o ddamweiniau a salwch gael rhywle i wella mewn cartrefi 'Gorffwys' ym Mhorthcawl ac yn Nhalygarn, ac mewn mannau eraill.Byddent yn cael mynediad â thocynnau gan sefydliad a oedd yn tanysgrifio, megis undeb llafur, cymdeithas les, neu Gymdeithas Gydweithredol. Gallai ymgeiswyr ofyn am docynnau i'w hunain neu eu dibynyddion (ond nid plant), er nad oeddent yn sicr o gael mynediad. Roedd y meini prawf derbyn yn seiliedig ar wella a gorffwys; ni fyddai pobl a chanddynt salwch difrifol neu glefydau heintus yn cael mynediad. Fel arfer, byddai preswylwyr yn aros am wythnos neu ddwy, ac roedd rhaid glynu wrth reolau llym o ran eu harferion beunyddiol a'u hymddygiad.

  • Llun o gleifion yng Nghartref Gwella 'The Rest', Porthcawl, tua'r flwyddyn 1920 (Cyf.SWCC/PHO/NUM/6/6-9)
  • Lluniau o Gartref Gorffwys y Glowyr Talygarn (Cyf. SWCC/PHO/NUM/6/10-15), gan gynnwys y seremoni agoriadol ym 1923 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/6/10) a glowyr yn y gerddi, yn chwarae bowls, ac yn ymarfer yn y gampfa (Cyf. SWCC/PHO/NUM/6/12)
  • Cofrestr o gleifion Cartref Gorffwys Talygarn, 1924-1936 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/5/31)
  • Deunydd sy'n ymwneud â chreu 'A Time to Heal', sef ffilm gan Derrick Knight ynghylch adsefydlu glowyr anafedig sy'n seiliedig ar lowyr yn Nhalygarn.Mae'n cynnwys lluniau o adsefydlu'r glowyr (Cyf. SWCC/MND/52)
  • Tystysgrifau meddygol Porthdy Caerau ynglŷn â chartrefi gorffwys, 1909-1933 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/19/116)

Cyfansoddiad a rheolau ar gyfer 'The Rest', Porthcawl, 1898 (Cyf. SWCC/MNA/COP/7/69)

Cefnogaeth

Yn aml, cafodd glowyr anabl neu lowyr wedi'u hanafu gymorth gwirfoddol neu wladol, neu gyfuniad o'r ddau. Mae Casgliad Maes Glo De Cymru'n cynnwys cofnodion o gymdeithasau lles, cymdeithasau cyfeillgar, cynlluniau meddygol glowyr a chronfeydd eraill ar gyfer salwch (Cyf. SWCC/MNA/I a SWCC/MNB/I). Roedd y rhain yn dibynnu'n bennaf ar roddion gan y gymuned ac arian tanysgrifio. Gellid talu arian cymorth i aelodau a'u teuluoedd, ac roedd rhai cynlluniau'n darparu nwyddau a gwasanaethau meddygol, e.e. breichiau a choesau artiffisial.

  • Undeb Dewi Sant yr Iforiaid (Cyf.SWCC/MNA/NUM/I/34) gan gynnwys -
  • Lily of the Valley Lodge of the Unity of Oddfellows / Porthdy Undod Odyddion Lili'r Dyffryn, Ystrad Rhondda, tystysgrifau iechyd, 1899, 1930, 1950 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/I/19/3)
  • Gweithred Ymddiriedolaeth a Chynllun Trefn ar gyfer Cronfa Ffrwydrad Senghenydd a Glynea, 1913, 1914 (Cyf. SWCC/MNB/PP/2)
  • Cronfa Feddygol Maesteg, mantolenni 1925 a 1947 (Cyf. SWCC/MNA/I/22)
  • Cofnodion Cronfa Salwch Glofa Abercraf 1909-1952; llyfr rheolau (yn Gymraeg) tua'r flwyddyn 1920 (Cyf. SWCC/MNB/I/1)

Rules for Artificial Limb Fund, Maesteg Dictrict of the South Wales Miners Federation

Rheolau Cronfa'r Breichiau a'r Coesau Artiffisial, Ardal Maesteg, Ffederasiwn Glowyr De Cymru, 1928 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/8/7) 

Lawndal

Mae cofnodion yng Nghasgliad Maes Glo De Cymru'n rhoi syniad ynghylch sut gwnaeth deddfwriaeth ar gyfer iawndal am anafiadau diwydiannol (e.e.Deddf Digolledu Gweithwyr 1897) helpu i ddarparu cymorth ariannol i weithwyr anabl y pyllau glo.

  • Ardal Y Rhondda Rhif 1, Ffederasiwn Glowyr De Cymru, Canllaw i'r Ddeddf Digolledu Gweithwyr, 1906-1923 (Cyf.SWCC/MNA/NUM/3/8/10a)
  • Llyfrau iawndal Porthdy Caerau sy'n cynnwys hysbysiadau o anafiadau a hawliadau am iawndal, 1902-1949 (Cyf. SWCC/MNA/L/19/121/187)
  • Cofnodion tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Comisiwn Brenhinol ar Ddigolledu Gweithwyr ar ddiwrnodau 8 i 12 yr ymchwiliad, gan gynnwys trafodaeth am silicosis, 1936 (Cyf. SWCC/MNA/PP/34/11)
  • Papurau amrywiol ynghylch hawliadau cymorth yn unol â Deddf y Tlodion ym 1932 a chyfraniadau ardal Dowlais i Gronfa Yswiriant Digolledu'r Ffederasiwn 1937 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/D/27)

Ffynonellau ym Mhrifysgol Abertawe

Baner glowyr 'Help in time of need': Llyfrgell Glowyr De Cymru

Ffynonellau mewn Mannau Eraill

Artwork for Legacy of Longfields project, title surrounded by handprints

 

  • Legacy of Longfields- Prosiect yn 2018 a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i archwilio a rhannu treftadaeth Cymdeithas Longfields, sef elusen anabledd arloesol a sefydlwyd yn Abertawe ym 1952. Blwyddlyfrau wedi'u digideiddio sydd ar gael drwy Gasgliad y Werin Cymru
  • Yr Archifau Cenedlaethol - canllaw ar gyfer chwilio am gofnodion sy'n ymwneud â hanes anabledd.
  • Archif Anabledd y DU - rhoi mynediad i bobl anabl, myfyrwyr ac ysgolheigion sydd â diddordeb yn y maes hwn a meysydd cysylltiedig, at waith ysgrifennu'r actifyddion, yr awduron a'r cynghreiriaid ym myd anabledd na fyddai eu gwaith ar gael yn hwylus yn gyhoeddus o hyd.
  • Llyfrgell Wellcome - canllawiau pwnc ar gyfer themâu sy'n ymwneud ag iechyd a meddygaeth.
  • Casgliad Wellcome: In My Own Words- platfform ar gyfer pobl anabl i rannu eu blaenoriaethau, eu pryderon a'u profiadau o fyw ag iechyd, drwy straeon wedi'u hadrodd ganddynt hwy.
  • Swyddfa Ystadegau Gwladol - mae'n cynnwys adroddiadau a setiau data sy'n ymwneud ag anabledd
  • Y Llyfrgell Brydeinig - casgliadau o hanesion llafar o anabledd, iechyd personol ac iechyd meddwl