Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Casgliad Raissa Page

This page is also available in English

Casgliad Raissa Page

Daeth Raissa Page (1932-2011) yn ffotograffydd dogfennol hunan-addysgedig ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol. Mae ei ffotograffiaeth yn dangos bywydau grwpiau ymylol ar adegau o newid cymdeithasol ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd hi hefyd yn un o sylfaenwyr yr Asiantaeth Ffotograffig arloesol, a chwbl fenywaidd, ‘FORMAT’ yn y 1980au.

Wedi'i gatalogio yn 2019, a’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Wellcome, mae Casgliad Raissa Page yn ymestyn o 1978 i 2010 ac mae'n cynnwys ffotograffau, tryloywluniau, negatifau, sleidiau, llyfrau nodiadau, a deunydd sain a phrint. Mae'n cynnwys -

  • Lluniau o brotestiadau a gwrthdaro gwleidyddol fel Comin Greenham (DC3/14) a Streic y Glowyr (DC3/6)
  • Lluniau sy'n dangos gofal sefydliadol - o'r henoed (DC3/21), plant (DC3/25), a'r rhai a oedd yn dioddef o iechyd meddwl gwael (DC3/30)
  • Portreadaeth (DC3/16)
  • Deunydd tramor, megis Israel, Ciwba, India, Tsieina, UDA a Gwlad Groeg

Posibiliadau ymchwil

Mae’r casgliad yn hawlio diddordeb eang, rhyngddisgyblaethol (e.e. heneiddio, anabledd, gwyddor gymdeithasol, daearyddiaeth ddynol), yn ogystal â'r meysydd mwy amlwg o ffotograffiaeth, a hanes cymdeithasol a gwleidyddol yr 20fed ganrif.

Ceir enghreifftiau pellach o'i ddefnydd ar gyfer meysydd ymchwil yn ein canllawiau pwnc -

‘Dancing on the silos, Greenham Common’, 1 Ionawr 1983 (Cyf. DC3/14/1/67) 

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Arddangosfa ar-lein 'Life Through a Different Lens'

Ym mis Tachwedd 2020 croesawyd 80 o westeion i ddigwyddiad ar-lein 'Raissa Page: Life Through a Different Lens' fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Bod yn Ddynol Prifysgol Abertawe. Yn bresennol oedd yr archifydd David Johnston-Smith, a fu’n catalogio’r casgliad, ac fe roddodd drosolwg cynhwysfawr o fywyd Raissa o’i phlentyndod hyd nes ei gyrfa mewn ffotograffiaeth, yn ogystal â ffotograffydd a chyfaill Raissa, Anita Corbin, a roddodd gyfrif personol o yrfa ac effaith ffotograffig Raissa.

Darganfyddwch luniau mwyaf ysgogol Raissa Page drwy lygaid haneswyr, ffotograffwyr, archifyddion, ac yn bwysicaf oll, dros eich hunan

Lansiodd y digwyddiad ein harddangosfa ar-lein, sy'n arddangos lluniau a ddewiswyd gan haneswyr, academyddion, ffotograffwyr, archifyddion a chyfeillion Raissa Page, a hefyd eu hymatebion iddynt. Gwnaethom hefyd annog pobl i adael eu hymatebion a'u sylwadau  ar dudalennau'r arddangosfa.

Ceir recordiad o'r digwyddiad isod.

Cerdyn post a grëwyd ar gyfer ymgyrch Archwiliwch eich Archifau 2021

Oriel

”Pensioners at Greenham Common” 20 Mai 1984 (Cyf. DC3/14/1/20)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

"Islington councillors descend into flood emergency sewers being constructed 86-87" (Cyf. DC3/11/1/10)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

'Two boys in the Hammer district Shankill - area cleared for motoroway development (Cyf. DC3/10/1/2)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

Nimrod Workman, glöwr wedi ymddeol a chanwr gwerin, 92 oed (Cyf. DC3/7/1/35)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

Cyhoeddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd mae'r archifydd a'r awdur, David-Johnston Smith, yn gweithio ar lyfr am Raissa Page, a fydd yn llyfr elfennol am ei bywyd, ei gwaith a'i chasgliad ffotograffig.

Mae’r gwaith ymchwilio ac ysgrifennu ar gyfer y prosiect bellach wedi'u cwblhau, a bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn 2022. Y gobaith yw y bydd yn waith rhagarweiniol a fydd yn annog ymchwil ac archwilio pellach am y ffotograffydd a'i ffotograffau.

Bydd y llyfr yn cynnwys ystod eang o ffotograffiaeth Raissa o ddiwedd y 1970au hyd at ddechrau'r 1990au ynghyd â’r canlynol-

  • adrannau bywgraffiadol
  • myfyrdodau ar ei galluoedd artistig a thechnegol
  • dadansoddiad o sut y gellid defnyddio ei gwaith mewn ymchwil academaidd
  • cyflwyniad i Format, yr asiantaeth ffotograffig arloesol, a chwbl fenywaidd, a sefydlodd gydag eraill.

Twitter Raissa Page

Oriel

'Child watching army display' 1981-82 (Cyf. DC3/33/1/19)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

'Maternity Unit, Chang Cha Hospital, China' 1978 (Cyf. DC3/35/1/2)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

'Women Live Festival, June 82, Jubilee Gardens' (Cyf. DC3/22/1/10)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

'Going to church Christmas morning, St Lawrence’s Hospital for the mentally handicapped, Caterham, Surrey.' tua. 1980 (Cyf. DC3/30/1/160)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

Ffynonellau eraill

Cyfathrebu Hanes

Defnyddiwyd casgliad Raissa Page fel sail ar gyfer 'Cyfathrebu Hanes', modiwl MA Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae myfyrwyr yn archwilio casgliad archifol ac yn cyfleu ei botensial i'r cyhoedd. Creodd y myfyrwyr wefan ar y cyd ar gyfer gynulleidfa nad yw’n academaidd yn ogystal â rhoi cyflwyniadau llafar unigol, ac adroddiad myfyriol ar y cyd am eu profiadau.

Addysgir y modiwl fel arfer yn Ystafell Ddarllen yr Archifau, lle gall myfyrwyr gael gafael ar ddeunydd, ond oherwydd pandemig Covid-19 roedd yn rhaid iddynt ddibynnu'n llwyr ar y catalog ar-lein, eitemau digidol dethol, a sesiynau Zoom.

Gellir gweld gwefan y myfyrwyr yma.

Cynhesodd y myfyrwyr at ffotograffiaeth Raissa Page a'r prosiect ar unwaith. Llwyddasant i ganfod themâu o ddiddordeb personol a dangos eu gallu i ddadansoddi'r lluniau digidol o'r Archifau a oedd ar gael, ac i weithio gyda ffynonellau ar-lein eraill yn ogystal â'u cyd-fyfyrwyr.'

Dr Jonathan Dunnage, Athro Cysylltiol Hanes Ewropeaidd Modern, Prifysgol Abertawe