Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Casgliadau Prifysgol

This page is also available in English

Prosiect catalogio'r canmlwyddiant

Ar hyn o bryd mae un o'n harchifwyr wrthi'n gweithio ar brosiect ar raddfa fawr â'r nod o gatalogio casgliadau archifau'r Brifysgol a hwyluso mynediad atynt. Mae'r casgliadau'n cynnwys deunyddiau megis llyfrau cofnodion swyddogol, cofnodion adrannol, ffotograffau, papurau newydd Undeb y Myfyrwyr, deunydd clyweledol a phapurau personol cyn staff a myfyrwyr.

Cadwch lygad ar y tudalennau hyn a'n Catalog Archifau; bydd rhagor o ddisgrifiadau o ddeunydd y Brifysgol ar gael ar-lein wrth i'r prosiect ddatblygu.

Ar ben y deunydd hynod ddiddorol sydd eisoes yn yr Archifau, y gobaith yw y caiff rhagor o ddeunydd archifol ei ddarganfod i gyfoethogi a datblygu'r casgliadau presennol. Os oes gennych chi neu eich adran ddeunydd sy'n ymwneud â hanes y Brifysgol, byddai'n wych pe gallech gysylltu â ni!

Cofnodion Prifysgol Abertawe

Sefydlwyd Coleg Prifysgol Abertawe ym 1920 gan y Siarter Frenhinol i fod yn bedwerydd coleg Prifysgol Cymru. Gosododd Brenin Siôr V garreg sylfaen y Brifysgol ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (gan gynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno.

Mae'r llun uchod – ‘The Foundation Stone Ceremony, 19 July 1920’ gan Percy Gleaves - yn rhan o gasgliad celf y Brifysgol. Mae wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant yn ddiweddar ac mae bellach yn cael ei arddangos yn Abaty Singleton i bawb ei weld.

Ym 1996 newidiodd y Brifysgol ei henw i Brifysgol Cymru Abertawe, cyn mabwysiadu'r enw Prifysgol Abertawe yn swyddogol yn 2007.

Mae cofnodion corfforaethol y Brifysgol yn cynnwys;

  • Cofnodion y Llys, y Cyngor a'r Senedd, 1920-2015
  • Cofnodion Cyfadrannau a Byrddau Academaidd, 1920-2012
  • Ffeiliau gohebiaeth a gedwid gan Gofrestryddion y Brifysgol, 1920-1959
  • Lluniau a deunyddiau cyhoeddusrwydd gan yr Adran Farchnata, 1920-2000au

Cofnodion Undeb y Myfyrwyr

Mae cofnodion Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys llyfrau cofnodion y Cyngor, ffeiliau polisi, cofnodion yr Undeb Athletau rhwng 1932 a 2010 a chyhoeddiadau Undeb y Myfyrwyr.

Casgliad papurau newyddion Undeb y Myfyrwyr

Mae'r Archifau'n gartref i gylchgronau myfyrwyr ers dechrau'r Brifysgol yn y 1920au. Mae erthyglau, cartwnau, barddoniaeth a hysbysebion yn cynnig cipolwg gwych ar fywyd myfyrwyr yn Abertawe. Mae gennym y canlynol hefyd (gyda rhai bylchau);

  • The Undergrad (1921-1925)
  • Dawn (1925-1968)
  • Bleep (1957; cyfuniad o Focus a Crefft)
  • Crefft (1949-1978)
  • DoubleTake (1981-1986; o 1981 daw hyn yn gyhoeddiad wythnosol ac yn gyfuniad o Double Take a Free News)
  • Bad Press (1986-1994)
  • Waterfront (1995-2011)

Oriel papurau newydd y myfyrwyr

Casgliadau Personol

Roedd Ruby Graham (Joseph cyn priodi) (ganwyd ym 1905) yn fyfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Abertawe rhwng 1922 a 1925. Aeth ymlaen i fod yn gynhyrchwr yn Theatr Fach Abertawe. Mae ei chasgliad yn cynnwys lluniau, cardiau dawns ar gyfer y Ddawns Flynyddol ym Mhafiliwn Patti Abertawe, rhaglenni ar gyfer yr Wythnos Ryng-golegol, sylwadau a phapurau arholiad. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys sylwadau o'i chyfnod diweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ganwyd Rush Rhees yn Efrog Newydd ym 1905. I ddechrau bu'n astudio Athroniaeth ym Mhrifysgol Rochester ond cafodd ei ddiarddel o'r brifysgol honno am ei ddull anghonfensiynol o ofyn cwestiynau. Ym 1924 teithiodd i Gaeredin lle graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1928. Roedd e'n gynorthwy-ydd i JL Stocks, astudiodd gydag Alfred Kastil, ac roedd yn fyfyriwr ymchwil gyda GE Moore yng Nghaergrawnt lle cwrddodd â Ludwig Wittgenstein. Ar y cyd â GEM Anscombe a GH von Wright, cafodd ei benodi'n weithredwr llenyddol Wittgenstein. Gwnaeth Rhees ymroi llawer o'i fywyd i gyhoeddi gweithiau nas cyhoeddwyd gan Wittgenstein.

Penodwyd Rhees yn gynorthwy-ydd dros dro yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ym 1940, a gwnaed ei swydd yn barhaol ym 1946. Parhâi fel darlithydd tan iddo ymddeol ym 1966, ac wedi hynny bu'n byw yn Llundain am gyfnod byr a bu'n Athro Gwadd yng Ngholeg y Brenin. Wedi hynny dychwelodd i Abertawe lle daeth yn athro er anrhydedd ac yn un o gymrodyr y coleg. Bu farw yn Abertawe ar 22 Mai 1989.

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau personol Rush Rhees, ynghyd â nodiadau, trawsgrifiadau a gohebiaeth sy'n ymwneud â chyhoeddi gwaith gan Ludwig Wittgenstein a gwaith a oedd yn perthyn iddo, yn ogystal â gweithiau gan Rush Rhees. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys:

  • gohebiaeth rhwng Rush Rhees ac eraill gan gynnwys Elizabeth Anscombe, Maurice O'Connor Drury, Brian McGuinness a Dewi Zephaniah Phillips
  • ymchwil a nodiadau darlith yn ymwneud ag athronwyr ac agweddau penodol ar athroniaeth