Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Llenorion Saesneg Cymru

This page is also available in English

Ron Berry

Cafodd Ronald Anthony [Ron] Berry (1920 - 1997) ei eni a'i fagu ym Mlaen-cwm, yng nghwm Rhondda Fawr, Morgannwg. Roedd ganddo amrywiaeth o swyddi yn ystod ei fywyd gan gynnwys mwyngloddio, gwasanaeth milwrol a bocsio. Roedd afiechyd cronig yn ei atal rhag dod o hyd i waith rheolaidd ond dechreuodd ysgrifennu traethodau, storïau a cherddi. Ei nofel gyntaf oedd Hunters and Hunted (1960), a ddilynwyd gan weithiau eraill.

Mae'r casgliad yn cynnwys nofelau sydd wedi’u cyhoeddi ac sydd heb eu cyhoeddi megis Flame and Slag, Hunters and Hunted, So Long, Hector Bebb, The Full Time Amateur, This Bygone, Travelling Loaded, Below Lord’s Head Mountain, Jonesy Makes Connections and More Guts Than Sense.

Elaine Morgan

Astudiodd Elaine Morgan (1920-2013) Saesneg yn Lady Margaret Hall, Rhydychen, ac aeth ymlaen i gael gyrfa hir ac amrywiol fel awdur. Yn ogystal â'r sgriptiau ar gyfer nifer o ddramâu ac addasiadau adnabyddus ar gyfer y teledu, roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei hysgrifennu ar anthropoleg fiolegol a cholofnau papur newydd. Derbyniodd nifer o wobrau, gan gynnwys dwy BAFTA, ac fe'i gwnaed yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth. Yn 2009 derbyniodd OBE am wasanaethau i lenyddiaeth ac addysg.

Mae'r casgliad yn cynnwys sgriptiau ar gyfer Dr Finlay’s Casebook, Marie Curie, Lil, Lloyd George, yn ogystal â llawer o deitlau eraill a ysgrifennwyd neu a addaswyd gan Elaine Morgan.

Raymond Williams

Mae Raymond Henry Williams (1921 – 1988) yn cael ei adnabod fel ysgolhaig a nofelydd llenyddol, ond ysgrifennodd hefyd nifer o straeon byrion. Mynychodd Ysgol Ramadeg Brenin Harri VIII yn y Fenni, ac yn ddiweddarach astudiodd Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Gwasanaethodd yn y Gatrawd ‘no. 21 anti-tank’ yn ystod yr ail ryfel byd. Bu'n dysgu fel tiwtor staff ar gyfer dirprwyaeth yr 'Extra-Muracy' ym Mhrifysgol Rhydychen (1946 – 1961) a dychwelodd yn ddiweddarach i Gaergrawnt. Roedd ei waith yn cynnwys gwaith academaidd, ffuglen ac adolygiadau llyfrau, yn ogystal â deunydd a ysgrifennodd ar gyfer ‘The Listener’. Ei nofel gyntaf oedd Border Country (1960).

Mae'r casgliad yn cynnwys Border Country ynghyd â’r Border Village cysylltiedig yn ogystal â The Fight for Manod, The Volunteers, The Grasshoppers a People of the Black Mountains.

Alun Richards

Roedd Alun Morgan Richards (1929-2004) yn ysgrifennwr toreithiog a phroffesiynol yr oedd ei waith yn cynnwys dramateiddiadau teledu, nofelau, straeon byrion, dramâu, a darnau ar gyfer radio. Cyn dechrau ysgrifennu'n llawn amser bu'n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol yn ogystal â gweithio fel athro yng Nghaerdydd a swyddog prawf yn Llundain. Roedd ei waith yn gysylltiedig yn arbennig â'r De di-gymraeg a themâu morwrol.

Mae'r casgliad yn cynnwys testun ar gyfer y nofelau morwrol Ennal’s Point a Barque Whisper.