Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Hanes LHDT+

This page is also available in English

Hanes LHDT+

Mae'r oriel hon yn cynnig cipolwg o’r deunydd sydd gennym mewn perthynas â hanes LHDT+. Mae'n cynnwys -

  • Cofnodion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, sy'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd myfyrwyr, megis profiadau myfyrwyr ac agweddau at ryw, rhywioldeb, perthnasoedd, a materion cyfoes a gwleidyddiaeth, gan gynnwys hawliau LHDT+.
  • Deunydd o Gasgliad Meysydd Glo De Cymru mewn perthynas â'r Grŵp Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (LGSM), a'u cefnogaeth a'u cydsafiad â chymunedau glofaol yn ystod streic y glowyr ym 1984-85.
  • Eitemau sy'n ymwneud ag awduron, ffotograffwyr a ffigurau amlwg eraill LHDT+

UNI/SSO/1/2/5/21: ‘There’s a lot of us about’. Papur newydd y myfyrwyr ‘Bad Press’, 4 Tachwedd 1988

DC3/16/1/180: Casgliad Raissa Page - Llun o Jill Posener, ffotograffydd a dramodydd Prydeinig, sy'n adnabyddus am ei harchwiliad o hunaniaeth lesbiaidd ac erotica. 1980au

Black and white portrait image of Jill Posener

UNI/SSO/1/2/3: Erthygl ym mhapur newydd myfyrwyr ‘Crefft’, 8 Mai 1969

Amy Dillwyn a'i chi, o bapurau David Painting (Trwy garedigrwydd Kirsti Bohata)

Black and white image of Amy Dillwyn sat posed on a chair, with dog infront

Mae nofelau Amy Dillwyn (megis Jill, 1884) yn archwilio cariad a rhamant rhwng menywod, enghraifft gynnar o ffuglen lesbiaidd mewn print. Mae ei chyfnodolion ei hun (cyf. DC6/1) hefyd yn rhoi manylion am ei pherthynas agos â'r aristocrat Cymreig Olive Talbot.
Am ragor o wybodaeth am Amy Dillwyn gweler ein blog ‘Take me as you find me … I am not ashamed of being myself’

SWCC/PHO/PC/9/3: Ffotograff o faner LGSM yn streic 1985-1985, o gasgliad personol Kim Howells

Black and white image of protesters holding banner 'Lesbians and Gays support the miners'

UNI/SSO/1/1/35: Ffeil Polisi Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar Hawliau Hoywon a Lesbiaid, Chwefror 1986

LAC/96/E/4: 'He was born gay' gan Emlyn Williams, Theatr Fach Abertawe, Chwefror 1940 ( © Theatr Fach Abertawe)

Awdur, dramodydd ac actor Cymreig oedd Emlyn Williams (1905-1987). Ysgrifennodd am ei ddeurywioldeb yn ei hunangofiant (George,1961 ac Emlyn,1973). Perfformiwyd ei ddrama 'He was born gay' yn Theatr Fach Abertawe ym 1940 - er y tybir bod 'hoyw' yn y cyd-destun hwn yn golygu 'hapus' i'r rhan fwyaf o bobl ar y pryd.
Mae enghreifftiau gwreiddiol o hyn, a phosteri eraill y cynhyrchiad, i’w gweld wedi’u harddangos yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe

UNI/SSO/1/2/4/76: 'Glad To Be Gay' ym mhapur newydd y myfyrwyr 'Double Take', 12 Hydref 1984