Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Casgliad Richard Burton

This page is also available in English

Casgliad Richard Burton

Actor llwyfan a sinema o Gymru oedd Richard Walter Burton (1925-1984). 

Mae'r casgliad yn cynnwys ystod amrywiol o ddeunydd sy'n dogfennu ei yrfa gyfan ym myd theatr a ffilm. Mae'n dwyn ynghyd bapurau a greodd a deunydd sy'n ymwneud ag ef a gasglwyd ganddo, gan ffurfio adnodd ymchwil cynhwysfawr.  

Mae'r casgliad yn cynnwys: 

  • Dyddiaduron Burton yn cwmpasu'r blynyddoedd 1940, 1960, 1965-1972, 1975, 1977, 1980 a 1983
  • llawer iawn o ohebiaeth broffesiynol a phersonol (er nad oes llawer o enghreifftiau o ochr Burton o'r ohebiaeth yn y casgliad) 
  • ffotograffau gan gynnwys printiau o Burton mewn gwisgoedd, lluniau llonydd o ffilmiau, printiau portreadau stiwdio a phrintiau teuluol 
  • deunydd clyweledol sy'n cynnwys recordiadau ar gyfer ffilm, teledu a radio 
  • posteri ffilmiau 
  • toriadau i'r wasg 
  • sgriptiau 
  • Llyfr cyfeiriadau Burton ac eitemau personol amrywiol megis ei fag llyfrau, stamp enw a gwobrau drama amrywiol. 

O fewn y casgliad mae llyfrgell bersonol Burton, sy'n cynnwys llyfrau sy'n adlewyrchu ei ddiddordebau a'i weithgareddau ei hun ynghyd â bywgraffiadau a chyhoeddiadau eraill yn ymwneud ag ef, a chasgliad o recordiau finyl. 

Dyddiaduron cyhoeddedig

Mae dyddiaduron Richard Burton, a gedwir yn yr Archifau, wedi cael eu trawsgrifio. Maent wedi cael eu golygu gan yr Athro Chris Williams, a'u cyhoeddi gan Yale University Press. Am fwy o fanylion ewch i wefan Yale