Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Yr Amgylchedd a Thirwedd

This page is also available in English

Yr Amgylchedd a Thirwedd

Mae Archifau Richard Burton yn cadw ffynonellau ar gyfer ymchwilio i newidiadau i dirwedd a'r amgylchedd, yn enwedig o ran y diwydiannau metel a glo yn ardal Abertawe a de Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Adroddiadau ac arolygon o Brosiect Cwm Tawe Isaf
  • Lluniau o Faes Glo De Cymru
  • Papurau cyfreithiol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r diwydiant copr
  • Darnau o bapurau newydd

Prosiect Cwm Tawe Isaf

Ym 1961, lansiwyd Prosiect Cwm Tawe Isaf â'r nod o ymchwilio i ardal a'i hadfer i fod yn gwm deniadol fel y bu cyn datblygu'r diwydiant mwyndoddi copr ar ddechrau'r 18fed ganrif, a diwydiannau metel eraill ar ôl hynny. Noddwyd y prosiect gan sefydliad Nuffield, y Swyddfa Gymreig, Cyngor Abertawe a'r cyn-Adran Ymchwil Weinyddol a Diwydiannol. Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Abertawe fel yr oedd ar y pryd arolygon o'r cwm er mwyn cael darlun a dadansoddiad cywir o'r cwm o ran yr amgylchedd ffisegol, yr amgylchedd cymdeithasol a'r sefyllfa economaidd. Lluniwyd adroddiad terfynol ym 1967 ac mae gwaith datblygu ac adfywio'r ardal wedi bod ar waith ers hynny.

Mae'r casgliad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o 1936 i 1967 ac mae'n cynnwys eitemau megis:

Disgrifiad catalog: Prosiect Cwm Tawe Isaf (Cyf. LAC/69)

Dysgwch ragor am y casgliad hwn yng nghanllaw gwe Prosiect Cwm Tawe Isaf a luniwyd gan fyfyrwyr MA o Brifysgol Abertawe. Mae'r wefan yn archwilio'r prosiect a'r ffigyrau allweddol, cyfranogiad y Brifysgol a'r gymuned leol, a llawer mwy.

Y Diwydiannau Copr a Metel

Mae'r deunydd hwn yn cynnwys cofnodion busnes rhai o'r teuluoedd a'r sefydliadau allweddol a ddatblygodd y diwydiant copr yn rhanbarth Abertawe. Mae'r cofnodion yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad y diwydiant copr, cysylltiadau â chwmnïau mewn gwledydd eraill, datblygiadau ariannol, patentau cynhyrchu a phroblemau cymdeithasol mwg copr.

  • Copi o adroddiad Corfforaeth Dur Prydain ar lygredd atmosfferig yn y safle sintro yng ngweithfeydd East Moors, 1971 a 1973 (Cyf. SWCC/MNC/ISTC/D5/2/14-15).
  • Briff ar gyfer y diffynyddion mewn ditiad ar gyfer niwsans [mwg copr]. J.H. a Sir R.H. Vivian ynghylch erlyniad Thomas David, 1833 (Cyf. LAC/126/D/1)
  • Papurau sy'n ymwneud ag anghydfod rhwng Baldwins Limited a'r Elba Tinplate Company, a Chorfforaeth Abertawe, ynghylch llygredd yng Nghamlas Tennar, 1944-1946 (Cyf. LAC/16/5)
  • Prydlesu Tomen y Garreg Wen ym Mhentre-chwyth gan Vivian and Sons i Evan Thomas and Sons Ltd, 3 Rhagfyr 1936 (Cyf. LAC/122/C/58)

Cynllun o weithfeydd Hafod, 1916 (Cyf. LAC/126/C/16)

Ffotograffau

Casgliad Raissa Page

Mae'n cynnwys eitemau ffotograffig megis:

  • tryloywluniau o "Ecology/National Parks USA, Red Canyon, Bryce Canyon, Utah", 1980s (Cyf. DC3/7/3/36)
  • llun o "Mountain pine killed by acid rain, followed by Pine Beetle infestation, North East Utah", 1980s (Cyf. DC3/7/1/72)
  • lllun o 'GB/Society/Environment/Industrial Pollution "ICI Billingham", 1980s (Cyf. DC3/11/1/11)
  • llun o "Smoke and dust clouds nr Consett Co Durham", 1980s (Cyf. DC3/29/1/31) 
  • llun o "Untreated waste discharged into sea beside traditional fishing village resettled at Madras/Tamil Nadu", 1981-1982 (Cyf. DC3/33/1/33)

Casgliad Maes Glo De Cymru 

Enghreifftiau o eitemau a allai fod o ddiddordeb yw: 

  • albwm lluniau sy'n cynnwys Onllwyn a'r tomemnau glo'n cael eu gwastatáu a'u hailddatblygu, 1984-1986 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/57)
  • llun panoramig o Ddowlais sy'n dangos ffatrïoedd, simneiau a thai, tua 1900 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/31)
  • cerdyn post sy'n dangos Tŷ-Melin, safle Glofa'r Navigation, Oakdale, cyn yr adeiladwyd y pwll glo, heb ddyddiad (Cyf. SWCC/PHO/COL/71)
  • cerdyn post sy'n dangos Tŷ-Melin, safle Glofa'r Navigation, Oakdale, cyn yr adeiladwyd y pwll glo, heb ddyddiad, 1911 (Cyf. SWCC/PHO/COL/63)
  • llun o dirlithriad ym Mhentre, sy'n rhoi golygfa o'r tirlithriad a'r difrod a achoswyd, gyda'r cwm yn y cefndir, 1916 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/61)

Oriel

Black and white photograph of mountain pine after acid rain and pine beetle infestation

Llun gan Raissa Page o "Mountain pine killed by acid rain, followed by Pine Beetle infestation, North East Utah", 1980s (Cyf. DC3/7/1/72)

Llun heb ddyddiad o'r Green ym Mhorthcawl, sy'n dangos pobl yn cerdded ar hyd y morlin (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/66)

2 men in pit sinking Markham Colliery, 1911

Llun o'r gwaith o gloddio Pwll Glo Markham, 1911 (Cyf. SWCC/PHO/COL/63)

Llun gan Raissa Page o "Islington councillors descend into flood emergency sewers being constructed [19]86-87" (Cyf. DC3/11/1/10)

Llun heb ddyddiad o olygfa ar draws y bont a'r parc yn Rhydaman (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/6)

Ffynonellau eraill yn yr Archifau

Casgliad Raymond Williams
Mae'n cynnwys gwahanol bapurau gan Gymdeithas Sosialaidd yr Amgylchedd ac Adnoddau (SERA), megis newyddlenni, cofnodion a chylchlythyrau yn ogystal â fersiynau o 'Socialism and Ecology' gan Raymond Williams, a gyhoeddwyd fel pamffled SERA ym 1982 (Cyf. WWE/2/1/15/1/7).

Casgliad Ron Berry
Mae'n cynnwys cyfres o ddyddiaduron gwylio adar a gwaith ysgrifennu adareg o'r 20fed ganrif (Cyf. WWE/1/7/2), yn ogystal â llythyron ac eitemau eraill sy'n ymwneud â Phrosiect Coedwig Hamdden y Rhondda, 1973-1979 (Cyf. WWE/1/10/14). 

Lewis Llewellyn Dillywn 
Mae'n cynnwys cyfres o ddyddiaduron (Cyf. LAC/26/D), y ceir trawsgrifiadau ar-lein ar eu cyfer. Er enghraifft, mae'r dyddiadur cyntaf, 1833-1834, yn cynnwys manylion am y tywydd a'r bywyd gwyllt.

Eitemau unigol o'r Casgliadau

  • Llungopi o gopi o'r 'Cromwellian Survey of Gower' o'r ddeunawfed ganrif  (Cyf. LAC/77/1)
  • Prisiadau a gohebiaeth ynghylch hawliadau yswiriant ar gyfer difrod yn sgîl stormydd a thân yng Ngweithfeydd Peirianyddol Millbrook, 1923-1923 (Cyf. LAC/76/A/28)
  • Llythyr at Lewis Llewellyn Dillwyn oddi wrth Syr Edwin Chadwich ynghylch carthffosiaeth, 14 Awst 1852 (Cyf. LAC/26/D/61)
  • Darn o bapur newydd y 'South Wales Evening Post' ynghylch y bygythiad amgylcheddol i Afon Clydach Uchaf gan Lofa Abertawey (Cyf. SC/62/1)

Ffynonellau eraill ym Mhrifysgol Abertawe

Llyfrgell Glowyr De Cymru
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru'n gartref i gasgliadau o lyfrau argraffedig a phamffledi, yn ogystal â darparu mynediad at gopïau o recordiadau hanes llafar o Gasgliad Maes Glo De Cymru, a allai ymwneud ag amgylchedd a thirwedd Maes Glo De Cymru.

Meysydd Glo De Cymru

Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn darparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion undebau llafur, yn bennaf Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol.

Mae'r Casgliad wedi'i rannu ar draws dau safle.

Gallwch bori drwy gynnwys Casgliad Meysydd Glo De Cymru a chwilio yno drwy ddefnyddio'r wefan Coalfield Web Materials a gwefan Casgliad Meysydd Glo De Cymru.

2 men in pit sinking Markham Colliery, 1911

Llun o'r gwaith o gloddio Pwll Glo Markham, sy'n dangos dynion mewn twll enfawr a fydd yn dod yn siafft y pwll glo yn y pen draw, 1911 (Cyf. SWCC/PHO/COL/63)

Prosiect Tŷ Toronto

Dechreuodd y prosiect mewn ymateb i drychineb Aberfan ym 1966, pan lithrodd domen gwastraff glo i lawr mynydd gan ladd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant. Mae enw'r prosiect yn deillio o'r gymuned Gymreig yn Toronto, y gwnaeth eu rhoddion helpu i sefydlu canolfan yn Aberfan dan arweiniad y Parchedig Erastus Jones. Ym mis Mawrth 1973, bu nifer o gynadleddau a digwyddiadau o ganlyniad i 'The Call to the Valleys', a'u nod oedd amlygu pryderon cymunedau'r cymoedd a'r materion a oedd yn effeithio arnynt.Ceir un adran sy'n ymwneud â 'Chynhadledd y Cymoedd a'r Amgylchedd', sy'n cynnwys gohebiaeth, papurau a chofnodion cofrestru, 1974-1975 (Cyf. SWCC/MNC/TT/13)

Disgrifiad o'r casgliad: Prosiect Tŷ Toronto (Cyf. SWCC/MNC/TT)

Casgliad Haydn Evans

Trafodion yr Ymchwiliad i Drychineb Aberfan 1966, gan gynnwys nifer o adroddiadau a phapurau yn ogystal â chopïau o ohebiaeth a memoranda sy'n ymwneud â chwynion am berygl tomennau glo, llifogydd a llygredd yn Aberfan (Cyf. SWCC/MNA/PP/26/3).

Disgrifiad o'r casgliad: Haydn Evans (Cyf. SWCC/MNA/PP/26)

Mae eitemau o Gasgliad Maes Glo De Cymru a allai fod o ddiddordeb yn cynnwys:

  • Amlinelliad o gynllun o dir o gwmpas Llanelly Hill, gan gynnwys hen weithfeydd glo, tua'r 1950au (Cyf. SWCC/MNA/PP/32/1)
  • Copïau o ddadl Pwyllgor Sefydlog B ar Fil Lofeydd a Chwareli [Tomennau], a gadwyd gan S.O. Davies, AS, a oedd yn aelod o'r pwyllgor (Cyf. SWCC/MNA/PP/16/11/29-31)
  • Llun o'r tŷ dirwyn yn y Pîl ar ôl iddo gau, tua 1980 (Cyf. SWCC/PHO/COL/83)
  • Cynigion y Cwmni Adeiladu Diwygio Tai am adeiladu yn Ynysybwl, tua.1910 (Cyf. SWCC/MNA/PP/81/48)
  • Nodiadau a chynlluniau'r arolygydd glofeydd, a'i lythyr ynghylch glofeydd wedi'u gadael yng Ngelligaled ac ym Mhenygraig, 1918-1919 (Cyf. SWCC/MNA/PP/55/6)

Straeon Myfyrwyr o Aberfan

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Trafnidiaeth yn ne Cymru

Ym 1807, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls oedd gwasanaeth rheilffordd cyntaf y byd i deithwyr.

Mae casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls yn adnodd cynhwysfawr ar gyfer trafnidiaeth bws, rheilffordd a thramffordd yn ne Cymru, o ran Abertawe a'r cyffiniau yn bennaf.Maent yn cynnwys cofnodion o'r holl gwmnïau sy'n gysylltiedig â Rheilffordd y Mwmbwls a Phier y Mwmbwls -

  • Cwmni Trafnidiaeth De Cymru
  • Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls Cyfyngedig
  • Cwmni Rheilffordd a Phier y Mwmbwls
  • Cwmni Gwelliannau a Thramffyrdd Abertawe 

Mae'r casgliad yn cynnwys llawer o fathau gwahanol o ddogfen, gan gynnwys mapiau a chynlluniau, papurau cyfreithiol a gohebiaeth, a gall ddangos effaith trafnidiaeth ar Abertawe a'r cyffiniau. Mae'r cofnodion yn cynnwys:

  • Argraffiadau cyntaf o fapiau Arolwg Ordnans Morgannwg y ceir ffyrdd tramiau ceffyl arnynt mewn pensil, ynghyd â diwygiadau'n ddiweddarach i ddangos llinellau ychwanegol a phileri porthi pan gynhaliwyd y gwaith trydaneiddio, diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif (Cyf. LAC/10/2/4)
  • Papurau ynghylch Cangen Cwm Clun o Reilffordd y Mwmbwls, gan gynnwys copi o ohebiaeth ynghylch gwaith Corfforaeth Abertawe i ehangu'r heol yng Nghwm Clun, 1841-1939 (Cyf. LAC/10/1/3/1)
  • Llythyr gan Nevill, Druce a'r Cwmni Cyf. sy'n datgan eu bod yn derbyn gwaith adeiladu ffens a waliau, 17 Mai 1939 (Cyf. LAC/10/1/6/7/15)
  • Poster ynghylch rheolau a rheoliadau'r rheilffordd o ran 'ffrwydradau' a Rheilffordd y Mwmbwls, 1893 (Cyf. LAC/85/E/36)

Llun â'r geiriad 'MUMBLES TRAIN NEARLY FULL', 1906 (Cyf. LAC/85/A/19)