Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Llenyddiaeth a Drama

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Llenyddiaeth a Drama

Mae gan Archifau Richard Burton nifer o gasgliadau sy'n berthnasol i’r gwaith o astudio llenyddiaeth a drama. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o rai o'r casgliadau a'r mathau o ddeunydd llenyddol y maen nhw’n eu cynnwys megis nofelau, straeon byrion, barddoniaeth a drama.

Nofelau

Ymhlith y casgliadau y mae fersiynau drafft, diwygiadau, proflenni a phapurau eraill sy’n ymwneud â nofelau gan awduron amrywiol; mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Saesneg.

Ron Berry
Mae'r casgliad yn cynnwys nofelau cyhoeddedig a rhai heb eu cyhoeddi megis Flame and Slag, Hunters and Hunted, So Long, Hector Bebb, The Full Time Amateur, This Bygone, Travelling Loaded, Below Lord’s Head Mountain, Jonesy Makes Connections a More Guts Than Sense.
Catalog: Casgliad Ron Berry – Nofelau Cyhoeddedig (Cyf. WWE/1/1)
Catalog: Casgliad Ron Berry – Nofelau heb eu cyhoeddi (Cyf. WWE/1/2) 

Alun Richards
Mae'r casgliad yn cynnwys testun ar gyfer y nofelau morol Ennal’s Point a Barque Whisper.
Disgrifad o’r Casgliad: Casgliad Alun Richards (Cyf. WWE/4)

B L Coombes
Mae’r casgliad yn cynnwys The Singing Sycamore, The Ash a Castell Vale.
Catalog: B L Coombes (Cyf. SWCC/MND/14) 

Raymond Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys Border Country a’r nofel gysylltiedig Border Village, yn ogystal â The Fight for Manod, The Volunteers, The Grasshopper, People of the Black Mountains a llawer o nofelau eraill.
Catalog: Casgliad Raymond Williams - Nofelau (Cyf. WWE/2/1/1)

Straeon Byrion

Mae'r casgliadau'n cynnwys nifer fawr o straeon byrion gan awduron amrywiol; mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Saesneg. Maen nhw’n cynnwys fersiynau drafft, diwygiadau a phapurau eraill.

B L Coombes
Mae’r casgliad yn cynnwys: ‘The Opening Door’, ‘The Watch’, ‘The Dancing Ducks’, ‘One Touch’, ‘Tate’, ‘The Inheritance’, ‘The Warning’, ‘Always’, ‘The Stranger’, ‘Atmospherics’ ac ‘I Saw the Headless Horseman’.
Catalog: B L Coombes – Straeon Byrion (Cyf. SWCC/MND/14/1/2) 

Raymond Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘Red Earth’, ‘Sugar’, ‘Mother Chapel’, ‘I Live Through the War’, ‘The Writing on the Wall’, ‘The Liberation’, ‘While Men Worked’, ‘An Old Way to Pay Old Debts’ a straeon byrion eraill.
Catalog: Casgliad Raymond Williams – Straeon Byrion (Cyf. WWE/2/1/2) 

Ron Berry
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘A Hero of 1938’, ‘Blood Money’, ‘Comrades in Arms’, ‘End of Season’, ‘King of the Fo’c’s’le’, The Foxhunters’, ‘Family Lives’, ‘Routes from Roots’, ‘Boy and Girl’, ‘Natives’, ‘In Time, In Place’, ‘Jonah Raglan’, ‘Last of the Morgans’, ‘Micher’s Cover-up’, ‘Natives and Exiles’, ‘On Maintenance’, ‘Sarah-fach’, ‘The Disabled’ a llawer o straeon byrion eraill.
Catalog: Casgliad Ron Berry – Straeon Byrion Cyhoeddedig (Cyf. WWE/1/3)
Catalog: Casgliad Ron Berry – Straeon Byrion heb eu cyhoeddi (Cyf. WWE/1/4) 

Alun Richards
Ystyrir ei gasgliadau o straeon byrion Dai Country a The Former Miss Merthyr Tydfil and Other Stories ymhlith rhai o’i weithiau gorau. Mae’r casgliad yn cynnwys ‘The Former Miss Merthyr Tydfil’, ‘Going to the Flames’, ‘Dream Girl’, ‘Fly Half’, ‘The Scandalous Thoughts of Elmyra Mouth’ a ‘The Monument’; teipysgrifau ar gyfer ‘The Bass’, ‘The Girls in their Winter Woollies’, ‘Stop press’ a ‘A Short and Troubled History of One’s Life and Times’.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad Alun Richards (Cyf. WWE/4)

John Wade
Mae'r straeon byrion am fywyd ym meysydd glo Cymru gan John Wade o Sutton, Surrey, yn cael eu cadw yng nghasgliad Harold Finch. Mae’r casgliad yn cynnwys ‘Body and Soul’, ‘Jerry’, Bones and Widows a ‘Nat o’ the Glen’.
Disgrifiad o’r Casgliad: Harold Finch (Cyf. SWCC/MNB/PP/22)

D G ac Islwyn Williams
Mae’r casgliad cyn cynnwys ‘Y Potsier’ a ‘Saron’ gan D G Williams a ‘Rhaglunieth’ by Islwyn Williams.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad D G ac Islwyn Williams (Cyf. SWCC/MNC/PP/29)

L Baker
Y straeon byrion sy’n cael eu dal yw 'The Year that Cardiff City Won the F.A. Cup. The 1926-1927 Season' a 'Just William'. 
Disgrifiad o’r Casgliad: L Baker (Cyf. SC341)

Awduron

Ron Berry, Elaine Morgan, Alun Richards a Raymond Williams

Am ragor o wybodaeth am Raymond Williams, Ron Berry, Elaine Morgan ac Alun Richards, ewch i’r dudalen Ysgrifenwyr o Gymru yn Saesneg.

               

B L Coombes
Ganwyd Bertie Lewis Coombes Griffiths (1893-1974) yn Wolverhampton, cafodd ei fagu yn Swydd Henffordd ond symudodd yn ddiweddarach i dde Cymru. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n gweithio yn y pyllau glo. Yn ei bedwardegau? trodd at ysgrifennu a daeth yn rhan o gylch John Lehmann. Roedd gweithiau Coombes yn ymateb i ddigwyddiadau ac agweddau a daeth yn warcheidwad hunan-benodedig y gwirionedd am y diwydiant glo a chymunedau. Mae’n rhaid deall y cyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a diwydiannol yr oedd yn byw ynddo er mwyn deall ei ysgrifau a'u heffaith a'u harwyddocâd. Y gweithiau y mae'n fwyaf adnabyddus amdanyn nhw yw These Poor Hands: The Autobiography of a Miner Working in South Wales (1939), These Clouded Hills (1944), a Miners Day (1945).
Catalog: B L Coombes (Cyf. SWCC/MND/14)

D G ac Islwyn Williams
Awdur Cymraeg o ddramâu a straeon byrion yng nghanol yr ugeinfed ganrif oedd D G Williams. Addysgwyd Islwyn Williams (1903-1957) yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac ysgrifennodd ar ffurf dafodieithol Cwm Tawe. Ei ddwy gyfrol o straeon byrion enwog yw Cap Wil Tomos (1946) a Storïau a Portreadau (1954). Ysgrifennwyd llawer o'i ddramâu a'i straeon byrion i’w darlledu ar y radio.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad D G ac Islwyn Williams (Cyf. SWCC/MNC/PP/29)

Jack Jones
Ganwyd Jack Jones (1884-1970) yn ardal Tai-Harri-Blawdd, ym Merthyr Tudful. Yn ystod ei fywyd bu’n gweithio mewn pyllau glo, gan ymuno â’i dad yn 12 oed, yn ogystal â gwasanaethu ym Mataliwn y Milisia Cymreig. Bu hefyd yn Ne Affrica a’r India, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd ar y rheng flaen yn Ffrainc a Gwlad Belg, cyn cael ei anfon adref yn glaf.

Ac yntau’n ymwybodol yn wleidyddol ac yn weithgar trwy gydol ei oes, roedd yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, y Blaid Lafur a'r Blaid Ryddfrydol yn ogystal â bod yn siaradwr dros Blaid Newydd Mosley yn y 1930au.

Yn ystod ei 20au datblygodd Jack Jones ei gariad tuag at y theatr ac ysgrifennu. Ysgrifennodd nofelau, dramâu a gweithiau hunangofiannol a oedd yn aml yn defnyddio pobl cymoedd de Cymru a'r maes glo yn ysbrydoliaeth, megis yn ei nofel 'Rhondda Roundabout' a'r ddrama 'Land of My Fathers'. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n darlithio yn UDA ac yn annerch milwyr ar rengoedd blaen y gad. Cafodd ei urddo’n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaethau i'r gymuned ac i lenyddiaeth ac ym 1970 enillodd wobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am 'ei gyfraniad nodedig i lenyddiaeth Cymru'.

Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad Jack Jones (Cyf. SWCC/MNC/PP/16)

Amy Dillwyn
Elizabeth Amy Dillwyn (1845-1935) oedd y drydedd o bedwar o blant a anwyd i deulu cyfoethog a nodedig o Abertawe. Yn ystod ei thridegau a'i phedwardegau cyhoeddodd saith nofel gan gynnwys The Rebecca Rioter: A Story of Killay Life (1880), Chloe Arguelle (1881), A Burglary, or Unconscious Influence (1883), a Jill (1884). Ysgrifennodd hefyd lond llaw o straeon byrion a cherddi ac roedd hi'n adolygydd rheolaidd ar gyfer 'The Spectator' (1880-1896), yn ogystal â chyfrannu at y cyfnodolyn byrhoedlog 'The Red Dragon: The National Magazine of Wales' (1882 -1887).


Yn ogystal â’i gyrfa lenyddol, roedd Amy Dillwyn yn fenyw fusnes graff, gan etifeddu gwaith sinc ei thad, ei achub rhag mynd i ddyled a’i werthu yn y pen draw am swm sylweddol i gwmni meteleg o’r Almaen ym 1905. Bu’n gwasanaethu mewn amryw o rolau dinesig yn Abertawe, bu’n weithgar yng ngwleidyddiaeth y Blaid Ryddfrydol, a bu’n eirioli dros ryddfreinio menywod, gan wasanaethu’n ddiweddarach yn Llywydd Cangen Abertawe yr NUWSS.


Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o ddyddiaduron sy'n rhoi manylion am ei bywyd personol a’i bywyd fel menyw fusnes.

Barddoniaeth

Mae’r casgliadau yn cynnwys nifer o gerddi gan nifer o awduron; mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Saesneg.

Casgliad Wishart
Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau ar ffurf llawysgrif o farddoniaeth a gafodd eu cyfansoddi, eu llunio a’u casglu gan nifer o unigolion, mewn cyfrolau pwrpasol yn ogystal â llyfrau lloffion a llyfrau cyffredin.
Catalog: Casgliad Ralph Wishart, gwerthwr llyfrau (Abertawe) (Cyf. LAC/125)

Dylan Thomas
Mae'r Archifau yn cadw fersiynau drafft y cerddi 'Unluckily for a Death' ac 'Into her Lying Down Head' a gyhoeddwyd ill dwy yn 'Deaths and Entrances' (1946). Mae'r papurau'n dangos y bardd yn adolygu’i ddelweddau a’i ddewis o eiriau, ac yn datrys strwythurau rhythmig, gan gynnwys hyd yn oed ddiagramau o'i gynllun odli petrus a’i ddarluniau bach lle’r ymddengys ei fod yn gosod ei ddelweddau ar ffurf weledol. Ysgrifennodd Dylan am y ddwy gerdd yn ei lythyrau at Vernon Watkins. Yn y rhain anfonodd fersiwn ddrafft gynnar o bob cerdd hefyd. Mae llyfr nodiadau “coll” Dylan Thomas, a werthwyd mewn arwerthiant yn 2014, hefyd yn rhan o’r Archifau.

Vernon Watkins
Bardd o fri rhyngwladol ac yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe (Cymrawd Calouste Gulbenkin mewn Barddoniaeth) oedd Vernon Watkins (1906-1967). Roedd yn gyfaill i Dylan Thomas.
Catalog: Papurau Vernon Watkins (Cyf. LAC/120)

Raymond Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘Dance of the Prospectuses’, ‘Ederyn’s Song’, ‘Nijmegen Bridge’, ‘On first looking in “New Lines”, a ‘The Vision’ ar gyfer Wolf Mankowitz, ynghyd â cherddi dideitl.
Catalog: Casgliad Raymond Williams - Barddoniaeth (Cyf. WWE/2/1/5)

Ron Berry
Mae’r casgliad yn cynnwys fersiynau drafft o ‘Child, Mother, Father’ a ‘The Breaking in the Making: Sample One’ yn ogystal â theipysgrif cerdd gan Kenneth Rexroth, ‘Thou Shalt Not Kill: a memorial to Dylan Thomas’.
Catalog: Casgliad Ron Berry - Barddoniaeth (Cyf. WWE/1/6)

Islwyn Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys cerdd gan Islwyn Williams o’r enw ‘Y Beddau a Wlych y Glaw’.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad D G ac Islwyn Williams (Cyf. SWCC/MNC/PP/29)

Drama

Ceir nifer o gasgliadau sy'n cynnwys dramâu ar gyfer y llwyfan, y radio, y teledu a byd ffilmiau; mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn Saesneg. 

Elaine Morgan
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘Dr Finlay’s Casebook’, ‘Marie Curie’, ‘Lil’, ‘Lloyd George’, yn ogystal â llawer o deitlau eraill a gafodd eu hysgrifennu neu’u haddasu gan Elaine Morgan.
Catalog: Papurau Elaine Morgan (Cyf. WWE/3)

Ron Berry
Mae’r casgliad yn cynnwys fersiynau o ‘But Now They Are Fled’ a ‘Death of a Dog’, ‘Everybody Loves Saturday Night’, ‘Merrily, Merrily, Merrily Shall I Live’, ‘Uncle Rollo’ a ‘Where Darts the Gar, Where Floats the Wrack’ yn ogystal â dramâu eraill.
Catalog: Ron Berry – Dramâu ar gyfer y teledu a’r radio (Cyf. WWE/1/5)

B L Coombes
ae’r casgliad yn cynnwys 'I Stayed a Miner', 'Eight Pointed Star' ac 'All Roads Blocked' yn ogystal â dramâu eraill.
Catalog: B L Coombes - Dramâu (Cyf. SWCC/MND/14/1/3)

Raymond Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘King Macbeth’, ‘KOBA’ (a ysgrifennwyd fel rhan o ‘Modern Tragedy’), ‘Liberation’, ‘Public Enquiry’, a ‘Revolt in Rome’, yn ogystal â gweithiau dideitl.
Catalog: Casgliad Raymond Williams - Dramâu (Cyf. WWE/2/1/3)

D G ac Islwyn Williams
Mae’r casgliad yn cynnwys tri chopi o ddramâu dideitl.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad D G ac Islwyn Williams (Cyf. SWCC/MNC/PP/29)

William Henry Harris
Mae’r casgliad yn cynnwys ‘Squire Hay’, ‘Arransmeyer’, ‘The Story I Shall Tell My Son’, ‘The White Slaves of England’, ‘Paul Colette’ a ‘Jane Douglas’.
Disgrifiad o’r Casgliad: William Henry Harris (Y Barri) (Cyf. SWCC/MNA/PP/42)

Jack Jones
Mae’r casgliad yn cynnwys cynyrchiadau dramatig a gohebiaeth, 1937-1981, gan gynnwys llythyr at B.H. Thomas ynghylch y ddrama ‘Land of My Fathers'.
Disgrifiad o’r Casgliad: Casgliad Jack Jones (Cyf. SWCC/MNC/PP/16)

Casgliad Richard Burton
Mae’r rhan fwyaf o eitemau yn y casgliad hwn yn sgriptiau o brosiectau nad ymgymerodd Burton â nhw wedi hynny. Ymhlith y teitlau mae 'Camelot', '1984' ac 'The Honorary Consul'.
Catalog: Casgliad Richard Burton - Sgriptiau (Cyf. RWB/1/8)

Casgliadau Prifysgol

Mae archifau'r Brifysgol yn cynnwys cyhoeddiadau mewn papurau newydd a chyhoeddiadau RAG Undeb y Myfyrwyr. Roedd y cyhoeddiad cyntaf, sef 'The Undergrad', yn cynnwys gohebiaeth rhwng y colegau gwahanol yng Nghymru, ynghyd â barddoniaeth a llenyddiaeth, yn ogystal â newyddion clecs y gymdeithas. Cyhoeddiad bob yn ail flwyddyn oedd hwn, ond roedd teitlau dilynol yn fwy rheolaidd, gan gymryd fformat papur newydd. Yr eithriad i’r rhain yw 'Dawn' a oedd yn gyhoeddiad a ganolbwyntiai’n fwy ar y celfyddydau. Ewch i weld ein canllaw ar Gasgliadau’r Brifysgol am ragor o wybodaeth.

Ffynonellau Eraill ym Mhrifysgol Abertawe

Llyfrgelloedd Sefydliad y Glowyr a’r Neuadd Les

Mae Archifau Richard Burton yn cadw llawer o ddogfennau sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd a oedd yn rhan o sefydliadau a neuaddau lles ym maes glo de Cymru.

Ar y cyd â’r archifau hyn, mae cynnwys llyfrgelloedd mwy na 60 o sefydliadau glowyr a neuaddau lles o bob rhan o faes glo de Cymru bellach yn cael eu cadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru. Mae'r llyfrgelloedd hyn yn rhoi cipolwg ar y llyfrau 'yr oedd gweithwyr a'u cymunedau yn rhoi gwerth arnyn nhw'.

Llun o Lyfrgell Sefydliad Glowyr Oakdale, 1945 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/4/9)

Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru (CREW)

Mae Canolfan CREW, a gydnabyddir fel yr arweinydd rhyngwladol yn y maes hwn o astudiaeth lenyddol a diwylliannol, wedi datblygu rhaglen helaeth o addysgu ac ymchwil. Mae’r gwaith ysgolheigaidd yn rhychwantu nifer fawr o ddisgyblaethau, gan gynnwys hanes diwylliannol, diwylliant gweledol, cysylltiadau trawsatlantig, astudiaethau ôl-drefedigaethol, theori feirniadol ac astudiaethau canoloesol. Ymhlith yr ysgrifenwyr unigol a astudiwyd y mae Dylan Thomas, R. S. Thomas, Margiad Evans, Arthur Machen, Raymond Williams ac Amy Dillwyn.

Llyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig
Mae'r Casgliad o Lyfrau Prin yn cynnwys mwy na 1,700 o lyfrau a phamffledi printiedig o 1473 hyd heddiw. Rhestrir yr holl eitemau yn y casgliad Llyfrau Prin yng nghatalog y llyfrgell iFind Discover (mireiniwch eich chwiliad gan ddefnyddio hidlydd LIC Rare Books).

Mae'r Casgliadau Arbennig yn cynnwys casgliad o lyfrau o lyfrgell y diweddar Glyn Jones (1915-1995), y bardd Eingl-Gymreig, ysgrifennwr straeon byrion a nofelydd, cyfieithiadau o rai o weithiau barddoniaeth a rhyddiaith Dylan Thomas, a Chymynrodd Llewellyn sy'n cynnwys llyfrau a phamffledi, o ddiddordeb Cymreig yn bennaf.

Llyfrgell Richard Burton

Mae Llyfrgell Richard Burton ar gael yn yr Archifau, ynghyd â'r bag yr oedd yn cario'i lyfrau ynddo pan fyddai’n teithio o amgylch y byd.

'I shall read and read and read' Richard Burton, Tachwedd 1968