Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Sut gallwn ni helpu?

This page is also available in English

Sut mae gwneud apwyntiad?

Dyma oriau agor ein hystafell ddarllen:

Dydd Mawrth 9.15am-4.15pm
Dydd Mercher 9.15am-4.15pm 
Dydd Iau 9.15am-4.15pm 

Rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â'r Archifau - cysylltwch â ni drwy e-bostio archives@abertawe.ac.uk neu drwy ffonio 01792 295021 er mwyn trefnu apwyntiad. Rydym yn gofyn i ddarllenwyr roi manylion am y deunyddiau y maent am eu defnyddio o leiaf dri diwrnod gwaith cyn ymweld. Mae'r Swyddfa Archifau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer ymholiadau cyffredinol.

Mae Archifau wedi’i leoli ar lefel 1 (Gorllewin) o Lyfrgell Parc Singleton ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe (adeilad 7, Map 4 ar gynllun y campws).

Os na allwch ddod o hyd i ni, gofynnwch wrth y ddesg diogelwch a bydd un o'n tîm yn dod i gwrdd â chi

Pam mae gennych reolau ar gyfer defnyddio’r archifau?

Rydym am i chi fwynhau'r profiad o ddefnyddio deunydd archifol unigryw. P'un a yw'n weithred o'r 15fed ganrif ar femrwn neu lun o'r 1980au, mae angen eu trin yn ofalus. Gall rhai fod yn fregus iawn. Os caiff rhywbeth ei ddifrodi mae'n anodd iawn (ac weithiau'n amhosibl) ei drwsio. Dydy prynu un newydd ddim yn opsiwn!

Mae'r dogfennau hyn hefyd yn rhai gwreiddiol; fel ymchwilydd mae angen i chi fod â’r sicrwydd nad ydynt wedi cael eu newid neu wedi eu diwygio drwy dwyll yn ystod eu hamser yn yr archifau.

Mae angen eich help arnom i ofalu am y deunyddiau hyn er mwyn eu diogelu, eu cynnal a'u cadw'n hygyrch ar gyfer cenedlaethau o ymchwilwyr y dyfodol. Dyma pam mae gan bob ystafell ddarllen yn Archifau set o reolau am sut i weithio gyda deunydd archifol, a gallwch ddod o hyd i'n rhai ni ar y ddolen isod.

Teithiau

Oes angen i mi gofrestru ar gyfer Tocyn Darllenwr?

Mae Archifau Richard Burton yn rhan o Gynllun Cerdyn Archifau y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (ARA) a bydd yn rhaid i ymwelwyr wneud cais am gerdyn er mwyn gweld deunydd yr archif. Mae’r cynllun yn rhoi mynediad i chi at bob archif ledled y DU sy’n rhan o’r cynllun.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda chynllun tocyn darllen Archifau Cymru, sylwer bod hyn wedi cau ac y bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gerdyn Archifau hefyd.

I arbed amser wrth gyrraedd, rydym yn argymell eich bod chi’n dechrau’r broses gofrestru ar-lein cyn eich ymweliad. Os ydych chi eisoes wedi derbyn cerdyn gan wasanaeth arall sy’n cymryd rhan, dewch â’r cerdyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld.

Rhagor o wybodaeth am y Cerdyn Archifau a sut i wneud cais.

Ydych chi'n caniatáu ffotograffiaeth?

Ar gyfer ffotograffiaeth hunan-wasanaeth, gellir defnyddio camera digidol bach, llechen, neu ffôn symudol gan lynu wrth y c Canllawiau Ffotograffiaeth Hunanwasanaeth.

Mae gennym wasanaeth reprograffeg. Bydd gofyn i chi lenwi ffurflen sy'n cynnwys rhif cyfeirnod yr eitem(au) yr hoffech gael copi ohoni ynghyd â datganiad am hawlfraint.

Gallwn fel arfer ddarparu copïau ar gyfer astudiaethau preifat ac ymchwil anfasnachol. Fodd bynnag, cofiwch, os ydych yn bwriadu cyhoeddi (gan gynnwys ar wefannau, cyfryngau cymdeithasol ac ati), byddai'n rhaid i ni edrych i mewn i'r hawlfraint.

Y gost gyfredol o lungopïo at ddibenion anfasnachol/astudio preifat yw £0.35 y ddalen (A4/A3), ynghyd â TAW (at ddibenion addysgol ni chodir TAW arnoch).

Gall cais o’r fath gymryd ychydig wythnosau i'w baratoi, yn enwedig os yw'r dogfennau'n arbennig o fregus, neu os yw'r sefyllfa hawlfraint yn gymhleth. O ganlyniad, ceisiwch gynllunio a chyflwyno unrhyw geisiadau llungopïo cyn gynted â phosibl yn ystod neu ar ôl eich ymweliad â'r archifau er mwyn rhoi amser i ni ddelio â nhw cyn eich terfyn amser.

Mae gen i ddiddordeb mewn gyrfa mewn archifau, oes gennych chi unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli?

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cynnal rhaglen ffurfiol o gyfleoedd gwirfoddoli. Weithiau, mae gennym gyfleoedd gwaith ad hoc i fyfyrwyr ar gyfer rhai prosiectau. Byddai'r rhain yn cael eu hysbysebu trwy ein tudalen Twitter @SwanUniArchives neu wefan Academi Cyflogadwyedd Abertawe.

Byddem yn hapus iawn i wneud apwyntiad i chi ymweld â’r archifau. Gallwn roi taith tu ôl i'r llenni i chi ac egluro'r math o waith rydym yn ei wneud, i roi cipolwg i chi ar yrfa fel archifydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ble i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli, mae'r Gymdeithas Archifau a Chofnodion wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol.

Sut ydw i’n gallu gweld pa gasgliadau sydd gennych?

Edrychwch ar ein canllaw i’n casgliadau yma

Dyma restr o'n catalogau-

Pam dylwn i ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol?

  • Maent yn gyfoes â'r digwyddiadau a ddisgrifir; adroddiadau uniongyrchol o’r amser dan sylw
  • Maent yn darparu tystiolaeth o'r hyn a ddigwyddodd, a grëwyd fel arfer gan y bobl dan sylw
  • Byddant yn helpu i ddatblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol
  • Gallwch roi rhywbeth newydd a diddorol i'r darlithydd ei ddarllen. Mae siawns hyd yn oed nad yw eich darlithydd yn ymwybyodol o lawer o’r ffynonellau yn yr Archifdy felly gallai’r wybodaeth fod yn annisgwyl iddo! (gallai arwain efallai at farc hyd yn oed well*)
  • Mae archifwyr wrth law i'ch helpu i ganfod a defnyddio deunydd cyffrous
  • Rydym ar eich stepen drws! Gwnewch y mwyaf o’r adnodd​

* Does gennym ni ddim prawf bod hyn yn gweithio ond mae'n werth ystyried!

Rwy'n cael trafferth meddwl am syniadau ar gyfer traethawd estynedig, allwch chi helpu?

Gallwn, byddem wrth ein boddau! Os oes gennych eisoes syniadau o’r pwnc yr hoffech ysgrifennu amdano, anfonwch e-bost atom i archives@abertawe.ac.uk a byddwn yn cysylltu â chi gyda rhestrau o ffynonellau (neu awgrymiadau o ffynonellau sydd ar gael mewn lleoliadau eraill os nad oes gennym unrhyw beth sy'n berthnasol).

I gael syniadau o bynciau traethawd posibl nawr, edrychwch ar ein canllawiau ymchwil neu’r crynodeb o’n casgliadau. Efallai y byddan nhw'n tanio ychydig o ysbrydoliaeth!

Mae'n werth ystyried eich lleoliad a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi wrth ddewis pwnc traethawd. A yw eich pwnc yn gofyn i chi deithio dramor? Oes gennych chi'r amser a'r cyllid i wneud hyn? Os gallwch ddewis pwnc lle mae'r prif ffynonellau ar eich stepen drws yn lle, bydd trefnu eich ymchwil llawer yn haws i chi.