Mae Coleg y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n defnyddio Oxford University Standard for Citation of Legal Authorities (OSCOLA) at ddibenion cyfeirnodi.
Wrth ysgrifennu aseiniad neu draethawd hir, mae eich meddyliau a’ch syniadau eich hun yn adeiladu ar waith ysgrifenwyr ac ymchwilwyr eraill. Mae’n hanfodol eich bod yn cydnabod y ffynonellau gwybodaeth hynny trwy:
EndNote
Mae EndNote yn rhaglen sy'n eich galluogi i storio, rheoli a chwilio am gyfeiriadau yn eich cronfa ddata eich hun. Mae modd gosod cyfeiriadau o'ch cronfa ddata mewn dogfen Word a chaiff y llyfryddiaeth ei llunio yn awtomatig gan EndNote. Mae modd copïo cyfeiriadau gan gronfeydd data ar-lein megis Web of Science i mewn i EndNote heb orfod aildeipio. Mae hefyd fersiwn ar-lein o feddalwedd Endnote sydd ag ymarferoldeb sydd wedi'i leihau ychydig ac sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio yn y tŷ.
I dderbyn cymorth llawn ar ddefnyddio EndNote, darllenwch y Canllaw Llyfrgell ar gyfer EndNote.
Go brin y caiff OSCOLA ei gynnwys gan feddalwedd rheoli cyfeiriadau ond gall eich helpu i gadw trefn ar eich ymchwil. Cysylltwch â'ch tîm pwnc y Gyfraith os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch defnyddio Endnote neu Gyfeiriadu.
Pam y mae cyfeirnodi'n bwysig?
Dyma rai enghreifftiau o gyfeirnodi OSCOLA mewn traethawd.
Bydd angen i chi gyfeirnodi eich gwaith fel hyn...
Llên-ladrad
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. gyfeirnodi'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol.
Mae croeso i chi gysylltu â'ch tîm pwnc ar gyfer y Gyfraith gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am gyfeirnodi neu lên-ladrad.