Skip to Main Content

Y Gyfraith: Dechrau arni

This page is also available in English

Croeso i Ganllaw Pwnc y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe

Croeso i dudalennau'r Llyfrgell ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr Ysgol y Gyfraith. Mae Llyfrgell y Gyfraith yn Adain y Dwyrain ar Lawr 4 Llyfrgell Campws Parc Singleton – mae lifft ar gael. Diben y canllaw hwn yw eich cynorthwyo â'ch aseiniadau ac wrth gynnal ymchwil i'r gyfraith. Gall eich Tîm Llyfrgell y Gyfraith eich helpu gyda'r canlynol:

  • cymorth i ddod o hyd i ddeunyddiau yn y llyfrgell ac ar y we ar gyfer eich aseiniadau a'ch traethodau hir
  • cymorth gyda meddalwedd llyfryddiaethol megis EndNote
  • cymorth i ddod o hyd i wybodaeth arbenigol
  • cymorth i ddod o hyd i wybodaeth arbenigol

Mae peth gwybodaeth sylfaenol hanfodol ar y dudalen isod. Cliciwch ar y tabiau unigol uchod am wybodaeth am feysydd penodol o Ymchwil ac Astudio'r Gyfraith.

Mae croeso i chi anfon e-bost atom, trydar neu drefnu apwyntiad i siarad â ni – mae manylion llawn isod 

Mwy o help a fideos ar-lein

Dewch o hyd i ragor o gefnogaeth ar-lein, fideos ac arweiniad ar ymchwil ar Hwb Llyfrgell y Gyfraith ar Canvas 

Llyfrgellwyr y Gyfraith

 

 

 

 

 

 

 


Ch-D Sean Barr (Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd) Katherine Jones, Sian Neilson (Llyfrgellwyr Pwnc) 

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.

Dosbarthiadau Sgiliau Llyfrgell Ar-lein

Cronfeydd data allweddol

Holi Llyfrgellydd

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence