Mae Llyfrgell y Gyfraith yn tanysgrifio i dros 100 o gyfnodolion/adolygiadau print y gyfraith, a thros 1,500 ar ffurf electronig. Mae'r rhain yn gyhoeddiadau ysgolheigaidd a gynhyrchir yn rheolaidd sy'n canolbwyntio ar faterion cyfreithiol. Caiff yr erthyglau yn y cyfnodolion hyn eu hadolygu gan gymheiriaid, hynny yw, cânt eu gwerthuso gan weithwyr proffesiynol eraill yn yr un maes. Gallai fod cyfnodolion y mae eich tiwtoriaid yn eu hargymell ar eich rhestr ddarllen. Efallai y cewch restr lawn o erthyglau penodol hefyd, neu efallai y gofynnir i chi ymchwilio erthyglau ar bwnc penodol. Bydd y dudalen hon yn dangos eich opsiynau ar gyfer dod o hyd i'r deunydd darllen y mae ei angen arnoch.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Gall Google Scholar fod yn ffynhonnell ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i erthyglau o ddiddordeb, ond ni fydd yn rhoi mynediad i bopeth sydd yng nghronfeydd data tanysgrifiad y llyfrgell ac nid yw popeth sy'n cael ei ddangos wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Dylech hefyd edrych ar y tab 'Adnoddau Allweddol' uchod i gael rhestr gynhwysfawr o gronfeydd data.
Mae'n darparu mynediad ar-lein i destun llawn amrywiaeth enfawr o gyfnodolion y gyfraith ac mae'n cynnwys casgliadau prin ac allan o brint.
i-Law yw’r gwasanaeth gwybodaeth ac ymchwil ar-lein gan Informa Law. Mae gennym fynediad i’w hadrannau Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forwrol uchel eu bri.
Gwasanaeth ar-lein cyflawn sy'n rhoi mynediad i holl wasanaethau LexisNexis Butterworths Online y mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio iddynt drwy ryngwyneb sengl. Sef All England Direct, Legislation Direct, Halsbury's Laws Direct, Employment Law Online, Family and Child Law Direct, Crime Online, Civil Procedure Online, Stone's Justice Manual Direct, Corporate Law Direct and Insolvency Law Direct, PI [Personal Injury] Online, Encyclopaedia of Forms and Precedents.
Mae Westlaw yn gronfa ddata fawr sy'n cynnwys deunyddiau cyfreithiol o'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd. Gallwch ddod o hyd i destun llawn cyfraith achosion a deddfwriaeth o'r awdurdodaethau hyn, ac mae testun llawn erthyglau ar gael o Adolygiadau'r Gyfraith yr Unol Daleithiau ynghyd â nifer cyfyngedig o gyfnodolion y gyfraith o'r DU.
Mae cyfnodolion rhyngwladol o lawer o awdurdodaethau ar gael ar ffurf papur ac electronig hefyd. Mae ffynonellau allweddol yn cynnwys...
Mynediad i Achosion (Rhyngwladol gan Westlaw UK- Services- International Materials)
Mae'n darparu mynediad ar-lein i destun llawn amrywiaeth enfawr o gyfnodolion y gyfraith ac mae'n cynnwys casgliadau prin ac allan o brint.
Gwasanaeth ar-lein cyflawn sy'n rhoi mynediad i holl wasanaethau LexisNexis Butterworths Online y mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio iddynt drwy ryngwyneb sengl. Sef All England Direct, Legislation Direct, Halsbury's Laws Direct, Employment Law Online, Family and Child Law Direct, Crime Online, Civil Procedure Online, Stone's Justice Manual Direct, Corporate Law Direct and Insolvency Law Direct, PI [Personal Injury] Online, Encyclopaedia of Forms and Precedents.
i-Law yw’r gwasanaeth gwybodaeth ac ymchwil ar-lein gan Informa Law. Mae gennym fynediad i’w hadrannau Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forwrol uchel eu bri.
Byddwch yn sylwi'n fuan bod cyfeirnod ynghlwm wrth erthyglau mewn cyfnodolion i roi gwybod i chi ble i ddod o hyd iddynt. Fel rheol, mae hyn yn cynnwys byrfodd o'r cyfnodolyn sy'n cynnwys yr erthygl...y fformat yw...
Os nad ydych yn gwybod beth yw ystyr y byrfodd, ewch i Cardiff Index to Legal Abbreviations. Bydd y wefan hon yn eich helpu i ddod o hyd i deitl llawn y cyfnodolyn cyfreithiol. Enghraifft syml yw Yale LJ, sy'n sefyll am Yale Law Journal. Gallwch fynd i iFind a chwilio am Yale Law Journal i weld a oes gennym fynediad i'r fersiynau argraffedig, electronig neu'r ddwy fersiwn. Cedwir copïau papur o gyfnodolion y Gyfraith yn Llyfrgell y Gyfraith (Adain y Dwyrain, lefel 4 a lefel 3) ac maent i gyd at ddiben cyfeirio yn unig.
Yn aml, bydd yn gynt ac yn haws chwilio'n uniongyrchol am eich erthygl yn adrannau cyfnodolion cronfeydd data (ar y chwith) megis Westlaw, LexisLibrary a Hein gan ddefnyddio allweddeiriau ar sail enw'r awdur, y teitl neu'r pwnc. Dyma enghraifft...
Os cewch unrhyw anhawster wrth ddod o hyd i erthygl benodol mewn cyfnodolyn, cysylltwch â thîm y llyfrgell ar gyfer y Gyfraith ar unwaith.
Dangosir y fformat sylfaenol ar gyfer cyfeirnodi cyfnodolyn y gyfraith mewn OSCOLA isod. Mae'r canllaw cyflawn i OSCOLA ar gael ar y tab Cyfeirnodi uchod.