Ym Mhrifysgol Abertawe, cewch fynediad Mhrifysgol Abertawe, cewch fynediad i dros 400,000 o adroddiadau achosion yn y DU (cyfraith achosion) o 1220 hyd at heddiw, ar ffurf copïau electronig a phapur. Mae adroddiad achos yn drawsgrifiad o ddyfarniad llys lle codwyd pwynt o arwyddocâd cyfreithiol. Yn draddodiadol, mae'r nodiadau achos hyn wedi cael eu casglu ynghyd mewn cyfres o gyhoeddiadau o adroddiadau cyfraith unigol megis The Weekly Law Reports (WLR). Y dyddiau hyn, mae casgliadau anferth o amrywiaeth o gyhoeddiadau Adroddiadau Cyfraith ar gael mewn cronfeydd data mawr megis Westlaw UK a LexisLibrary.
Byddwch yn sylwi'n fuan bod cyfeirnod yn cael ei ddynodi i achosion i roi gwybod i chi ble i ddod o hyd iddynt. Fel rheol, mae hyn yn cynnwys byrfodd o'r gyfres o adroddiadau cyfraith sy'n cynnwys yr achos...
Os nad ydych yn gwybod beth yw ystyr y byrfodd, ewch i'r Cardiff Index to Legal Abbreviations .Bydd y wefan hon yn eich helpu i ddod o hyd i deitl llawn yr adroddiad cyfraith. Wedyn gallwch ddefnyddio iFind i chwilio am gopi papur o'r adroddiad yn y llyfrgell. Gallwch hefyd ddewis darllen fersiwn ar-lein o'r dyfarniad yn yr achos ar Westlaw UK neu LexisLibrary (mae'r ddau ar gael drwy iFind hefyd).
Os cewch unrhyw anhawster dod o hyd i'r gyfraith achosion sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â thîm pwnc y Gyfraith ar unwaith.
Dyma rai enghreifftiau o gyfeirnodi cyfraith achosion gan ddefnyddio arddull cyfeirnodi OSCOLA.
Y fformat yw Enw'r Achos, Dyfyniad Niwtral, Dyfyniad yr Adroddiad Cyfraith
Mae'r rhan fwyaf o adroddiadau cyfraith y DU ar gael ar-lein naill ai gan Westlaw UK neu LexisLibrary. Westlaw UK yw'r man cychwyn gorau ar gyfer achosion Lloegr a Chymru.
Mae Westlaw yn gronfa ddata fawr sy'n cynnwys deunyddiau cyfreithiol o'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd. Gallwch ddod o hyd i destun llawn cyfraith achosion a deddfwriaeth o'r awdurdodaethau hyn, ac mae testun llawn erthyglau ar gael o Adolygiadau'r Gyfraith yr Unol Daleithiau ynghyd â nifer cyfyngedig o gyfnodolion y gyfraith o'r DU.
Defnyddiwch y tab 'Cases' i chwilio am adroddiadau ar sail dyfyniad neu enw parti.
Mae Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon yn darparu mynediad cynhwysfawr i wybodaeth gyfreithiol gyhoeddus Prydain ac Iwerddon.
Mae fersiynau electronig a phapur o Gyfraith Achosion Ryngwladol o nifer o awdurdodaethau ar gael hefyd. Rhestrir rhai prif ffynonellau isod.
Gwasanaeth ar-lein cyflawn sy'n rhoi mynediad i holl wasanaethau LexisNexis Butterworths Online y mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio iddynt drwy ryngwyneb sengl. Sef All England Direct, Legislation Direct, Halsbury's Laws Direct, Employment Law Online, Family and Child Law Direct, Crime Online, Civil Procedure Online, Stone's Justice Manual Direct, Corporate Law Direct and Insolvency Law Direct, PI [Personal Injury] Online, Encyclopaedia of Forms and Precedents.
Mae Westlaw yn gronfa ddata fawr sy'n cynnwys deunyddiau cyfreithiol o'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd. Gallwch ddod o hyd i destun llawn cyfraith achosion a deddfwriaeth o'r awdurdodaethau hyn, ac mae testun llawn erthyglau ar gael o Adolygiadau'r Gyfraith yr Unol Daleithiau ynghyd â nifer cyfyngedig o gyfnodolion y gyfraith o'r DU.