Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am aseiniadau, mynediad at ddogfennau ac adnoddau digidol i'ch helpu i gynllunio ymchwil cyfreithiol yn effeithiol, a sut i ddefnyddio'r Llyfrgell a'i chyfleusterau yn effeithiol.
Os oes angen cyfrinair arnoch ar gyfer cronfa ddata gyfreithiol, neu os cewch unrhyw broblemau wrth fewngofnodi i gronfa ddata, e-bostiwch lawlib@swansea.ac.uk a byddwn yn ateb cyn gynted â phosib. Mae croeso i chi gynnwys cipluniau er mwyn ein helpu i ddatrys y broblem.
Caiff cyflwyniad PowerPoint Sefydlu a Sesiynau Hyfforddi ei ychwanegu yma...
Mae Law PORT yn gasgliad o adnoddau hyfforddi mynediad agored ar-lein sydd â’r nod o wella sgiliau llythrennedd gwybodaeth myfyrwyr doethuriaeth yn y gyfraith. Cafodd y tiwtorialau eu creu gan Lyfrgell Sefydliad Astudiaeth Uwch yn y Gyfraith i gefnogi ymchwilwyr ledled y DU gydag ymchwil mewn cyfraith ryngwladol genedlaethol a’r defnydd o OSCOLA.
Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i nifer o adnoddau digidol megis e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data ar-lein a fydd yn eich helpu i gael mynediad at wybodaeth ysgolheigaidd o ansawdd uchel.
I fewngofnodi, defnyddiwch eich rhif myfyriwr fel yr enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arferol.
Defnyddiwch iFind am fynediad at yr adnoddau digidol rydym wedi tanysgrifio iddynt er mwyn sicrhau y cewch eich adnabod fel defnyddiwr o Brifysgol Abertawe.
Gellir cael mynediad at bron y cyfan o'n adnoddau electronig cyfreithiol (ac eithrio i-law.com) oddi ar y campws gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair y Brifysgol. Gydag eraill, fodd bynnag, weithiau gall fod yn anos dod o hyd i'r llwybr cywir i fewngofnodi. Y peth gorau i'w wneud yw chwilio am y cyfnodolyn neu'r gronfa ddata yn iFind a dilyn y ddolen yno. Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Bydd y dolenni yn y blwch hwn yn eich helpu ag adran gyntaf ymarferion ymchwil GDL y Llyfrgell.