Skip to Main Content

Y Gyfraith: Canfod Llyfrau

This page is also available in English

Canfod Llyfrau cyfraith

Mae miloedd o lyfrau testun a monograffau'r gyfraith yn Llyfrgell y Gyfraith, ar bapur ac yn electronig.

Chwilio am Lyfrau Electronig y Gyfraith

Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad at nifer o lyfrau testun electronig llawn ar-lein. Gellir dod o hyd i rai llyfrau drwy iFind fesul gair allweddol (am lyfrau ar bwnc penodol), awdur neu deitl.

Mae gan gronfeydd data cyfreithiol eraill megis LexisPlus, Westlaw UK a Heinonline gasgliadau o lyfrau ar-lein lle gallwch eu chwilio'n unigol ar ôl mewngofnodi i'r gwasanaethau hynny.

Llyfrau newydd ar gyfer eich pwnc!

Cliciwch ar glawr y llyfr yr hoffech ei weld (uchod) ac yna roliwch dros y ddelwedd i ddatgelu’r cyswllt (fel sydd i’w weld yn y blwch coch yma) i gatalog Llyfrgell Abertawe

Youtube - Dod o hyd i lyfr yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe

Cyfeirnodi Llyfrau'r Gyfraith gan ddefnyddio OSCOLA

Dangosir y fformat sylfaenol ar gyfer cyfeirnodi llyfr gan ddefnyddio OSCOLA isod. Mae'r canllaw cyflawn i OSCOLA ar gael ar y tab Cyfeirnodi uchod.

Rhifau Llyfrau - Lleoliad y llyfrau yn y llyfrgell

Mae llyfrau a chyfnodolion y Gyfraith i’w cael yn y Llyfrgell ar Lefel 4 (a 3) Gorllewin Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Parc Singleton.

Mae rhif galw yn cynrychioli maes pwnc eitem ac mae'n nodi lleoliad yr eitem ar y silffoedd. Mae'r rhif galw fel rheol yn gyfuniad o lythrennau a rhifau. Mae'r llythyren K yn cynrychioli'r Gyfraith yn ein llyfrgell ac ychwanegir llythrennau a rhifau i ddangos lleoliad penodol pob eitem. Mae'r llun isod yn dangos rhai llyfrau testun y Gyfraith a'r rhifau galw a ddynodwyd iddynt fel y gellir dod o hyd iddynt yn llwyddiannus. DS: Mae'r dotiau coch ar y meingefn yn golygu y gellir benthyca'r llyfr am wythnos yn unig - pythefnos yw'r cyfnod benthyca arferol. Mae llawer o lyfrau'r Gyfraith yn perthyn i gategori benthyciad arbennig, sef y casgliad benthyciad byr. Cedwir hyn y tu ôl i'r Ddesg Wybodaeth ar lefel  y fynedfa - gofynnwch yno am eich eitem.

Dyma rai o'r prif adrannau:

K1 Cyfnodolion gyfraith KL System Gyfreithiol 
KA Cyfreitheg KM Cyfraith Gyhoeddus (Troseddol, Gweinyddol ac ati)
KB Cyfraith Gymharol   KN Cyfraith Breifat (Contract, Camweddau ac ati)
KC Cyfraith Ryngwladol KW Cyfraith UE 

Awgrymu llyfr i’r llyfrgell ei brynu

Efallai yr hoffech i ni ychwanegu llyfr at Lyfrgell y Gyfraith. Gallwch bellach argymell ein bod yn prynu copi at ddibenion astudio neu ymchwil. Ewch amdani - awgrymu llyfr!