Croeso i dudalennau'r Llyfrgell ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr Coleg y Gyfraith. Mae Llyfrgell y Gyfraith yn Adain y Dwyrain ar Lawr 4 Llyfrgell Campws Parc Singleton – mae lifft ar gael. Diben y canllaw hwn yw eich cynorthwyo â'ch aseiniadau ac wrth gynnal ymchwil i'r gyfraith. Gall eich Tîm Llyfrgell y Gyfraith eich helpu gyda'r canlynol:
cymorth i ddod o hyd i ddeunyddiau yn y llyfrgell ac ar y we ar gyfer eich aseiniadau a'ch traethodau hir
cymorth gyda meddalwedd llyfryddiaethol megis EndNote
cymorth i ddod o hyd i wybodaeth arbenigol
cymorth i ddod o hyd i wybodaeth arbenigol
Mae peth gwybodaeth sylfaenol hanfodol ar y dudalen isod. Cliciwch ar y tabiau unigol uchod am wybodaeth am feysydd penodol o Ymchwil ac Astudio'r Gyfraith.
Mae croeso i chi anfon e-bost atom, trydar neu drefnu apwyntiad i siarad â ni – mae manylion llawn isod - Sean Barr - Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd
Dewch o hyd i ragor o gefnogaeth ar-lein, fideos ac arweiniad ar ymchwil ar Hwb Llyfrgell y Gyfraith yn Canvas - https://canvas.swansea.ac.uk/courses/22592
Ch-D Sean Barr (Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd) Katherine Jones, Sian Neilson (Llyfrgellwyr Pwnc)
Bydd y wefan Ask yn eich helpu i fod yn drefnus wrth gwblhau aseiniad. Teipiwch ddyddiad cyflwyno’r aseiniad a byddwch yn cael llinell amser i’ch helpu chi.
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
I gael cyfrinair i-Law e-bostiwch lawcrimlib@swansea.ac.uk
iFind yw’r man galw cyntaf i ganfod unrhyw beth yn y llyfrgell. Gallwch chwilio am lyfrau, cronfeydd data a rhagor.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.