Mae Llyfrgell y Gyfraith yn cadw deddfwriaeth o'r canol oesoedd hyd at heddiw. Y darn o ddeddfwriaeth hynaf sydd mewn grym o hyd yw Statud Marlborough a ddeddfwyd ym 1267. Gallwch weld copi papur ohono yn y llyfrgell neu ar-lein unrhyw le yn y byd drwy gyrchu ein cronfeydd data ar-lein. Yn ogystal â fersiynau cyfredol o ddeddfwriaeth, gallwch weld fersiynau hanesyddol o gyfreithiau a ddiddymwyd a allai fod yn hanfodol i'ch astudiaethau a'ch ymchwil. Byddwch hefyd yn gallu dilyn cynnydd Biliau wrth iddynt symud drwy'r Senedd cyn dod yn gyfraith gwlad o bosib.
Yn y cronfeydd data a restrir ar yr ochr, cewch chwilio am ddeddfwriaeth ar sail teitl, pwnc neu allweddair. Fel rheol, mae Deddfwriaeth Sylfaenol ar ffurf Deddf Gyffredinol sy'n cael ei chytuno gan y Senedd ond ceir Deddfau Preifat a Deddfau Lleol a Phersonol hefyd. (Gall Gorchmynion a Mesurau amrywiol eraill gael eu hystyried yn ddeddfwriaeth sylfaenol hefyd). Weithiau, cyfeirir at Ddeddfwriaeth Eilaidd fel Deddfwriaeth Ddirprwyedig hefyd. Y ffurf fwyaf cyffredin yw Offerynnau Statudol ond gall fod ar ffurf Gorchmynion, Rheolau neu Reoliadau hefyd.
Dyma rai enghreifftiau o Ddeddfau ac Offerynnau Statudol (SI) wedi'u dyfynnu yn arddull gyfeirnodi OSCOLA.
Pe byddech am ddarllen Deddf Hawliau Dynol 1998, gallech fewngofnodi i Westlaw a chwilio am Human Rights Act 1998.
Byddwch yn ofalus bob amser i sicrhau bod y fersiwn rydych yn ei chyrchu mewn grym...mae'n bosib bod y ddeddf wedi'i diddymu neu ei diwygio.
Mae Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon yn darparu mynediad cynhwysfawr i wybodaeth gyfreithiol gyhoeddus Prydain ac Iwerddon.
Mae deddfwriaeth.gov.uk yn cynnwys y rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth y DU, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol (statudau) a deddfwriaeth eilaidd (offerynnau statudol) ar gyfer Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Cymru. Mae'r cynnwys testun llawn yn dyddio yn ôl i ddiwedd yr 20fed ganrif ac mae peth gynnwys o'r 19eg ganrif ar gael hefyd.
Gwasanaeth ar-lein cyflawn sy'n rhoi mynediad i holl wasanaethau LexisNexis Butterworths Online y mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio iddynt drwy ryngwyneb sengl. Sef All England Direct, Legislation Direct, Halsbury's Laws Direct, Employment Law Online, Family and Child Law Direct, Crime Online, Civil Procedure Online, Stone's Justice Manual Direct, Corporate Law Direct and Insolvency Law Direct, PI [Personal Injury] Online, Encyclopaedia of Forms and Precedents.
Biliau cyfredol a blaenorol ger bron y Senedd.
Mae’r safle hwn yn cynnwys casgliad mawr o gyhoeddiadau Seneddol Prydain o’r 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys trafodion, adroddiadau, biliau a chofrestrfeydd seneddol. Mae’n cwmpasu holl feysydd polisi cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a thramor. Mae hefyd nawr yn cynnwys y casgliad digidol cyntaf o Bapurau Seneddol Tŷ’r Arglwyddi o’r 19eg ganrif.
Mae Westlaw yn gronfa ddata fawr sy'n cynnwys deunyddiau cyfreithiol o'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd. Gallwch ddod o hyd i destun llawn cyfraith achosion a deddfwriaeth o'r awdurdodaethau hyn, ac mae testun llawn erthyglau ar gael o Adolygiadau'r Gyfraith yr Unol Daleithiau ynghyd â nifer cyfyngedig o gyfnodolion y gyfraith o'r DU.
Mae fersiynau electronig a phapur o Gyfraith Achosion Ryngwladol o nifer o awdurdodaethau ar gael hefyd. Rhestrir rhai prif ffynonellau isod.