Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Rhyfel Cartref Sbaen

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Rhyfel Cartref Sbaen

Mae archifau Richard Burton yn dal casgliadau amrywiol sy'n berthnasol i astudio Rhyfel Cartref Sbaen (1936-39). Mae'r casgliadau'n arbennig o gryf o ran adnoddau sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr o Gymru a aeth i ymladd yn y Brigadau Rhyngwladol a'r cymunedau glofaol a gefnogodd achos y Gweriniaethwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gohebiaeth bersonol rhwng gwirfoddolwyr a'u teuluoedd
  • cofiannau heb eu cyhoeddi
  • ffotograffau
  • Deunydd Cymorth i Sbaen

Yn ogystal, mae'r casgliadau'n rhoi safbwynt rhyngwladol ar y rhyfel drwy ffotonewyddiaduraeth, cylchgronau a phropaganda o ochr y Cenedlaetholwyr ac ochr Gweriniaethol y gwrthdaro.

Casgliadau Personol

Leo Price

Bu Leo Price yn gweithio fel glöwr yng Nglofeydd Cwmtyleri a Bedwas a bu'n aelod o Ffederasiwn Glowyr De Cymru. Ymunodd hefyd â'r Blaid Gomiwnyddol. Ym mis Ebrill 1937 teithiodd i Sbaen fel gwirfoddolwr a daeth yn aelod o'r Ail Gwmni, y Pumed Bataliwn ar Ddeg. Cafodd Leo ei saethu yn y frest ond wedi goroesi, ac ar ôl cael gofal meddygol teithiodd i Tarrazona lle cafodd swydd ddesg yn recriwtio milwyr newydd. Mae ei gasgliad yn cynnwys

  • llythyrau at ei wraig a'i chwaer
  • cofiannau hunangofiannol
  • ei gerdyn adnabod Sbaenaidd
  • cardiau post
  • ffotograffau o'r rhyfel yn Sbaen
  • pamffledi a gyhoeddwyd gan Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr.

(Cyf. SWCC/MNA/PP/93, SC/309, SC/164)

Part of handwritten letter.

Rhan o lythyr mewn cerdyn post atgof gan Leo Price at ei wraig (SWCC/MNA/PP/93/4)

David (Dai) Francis

Ganwyd David Francis (a adnabyddid yn aml fel 'Dai') ym 1911 ym Mhantyffordd, ger Onllwyn yng Nghwm Dulais. Ym 1926 dechreuodd weithio yng Nglofa Onllwyn Rhif 1. Ym 1937 ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol. Bu'n aelod o Gyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru, 1943-1959; penodwyd yn Brif Swyddog Gweinyddol Undeb Cenedlaethol y Glowyr (yr NUM) (Ardal De Cymru) ym 1959; gan ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUM ym 1963. Ym 1974 fe'i hetholwyd yn Brif Gadeirydd Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC).

Mae ei gasgliad yn cynnwys llyfr cofnodion Pwyllgor Cymorth i Sbaen Onllwyn (bu'n ysgrifennydd), 1937-1938.

Catalog: David Francis (Cyf: SWCC/MNB/PP/24) 

Jack Jones

Ganwyd Jack Jones yn Nhrealaw, Canol y Rhondda, ym 1898 ac ym 1912 dechreuodd weithio yng Nglofeydd Cambrian. Roedd yn un o sylfaenwyr y Blaid Gomiwnyddol ym 1920. Ym mis Mawrth 1938 gwirfoddolodd Jack Jones ar gyfer Bataliwn Prydain y Frigâd Ryngwladol, gan ddod yn Gymro hynaf Bataliwn Prydain. Fodd bynnag, ym mis Mai yr un flwyddyn cafodd ei gipio gan luoedd Franco ac aethpwyd ag ef i wersyll-garchar yn San Pedro de Cardena, Burgos, lle bu'n aros tan fis Ionawr 1939. Dychwelodd adref i dde Cymru ac ym 1940 daeth yn Asiant y Glowyr ar gyfer ardal y Rhondda.

Mae'r casgliad yn cynnwys llythyrau gan Jack Jones at deulu a ffrindiau, yn manylu ar ei fwriad i ymuno â'r Brigadau Rhyngwladol, ei brofiadau yn Sbaen a'i brofiadau fel carcharor yn Sbaen.

Catalog: Jack Jones (Cyf. SWCC/MNB/PP/41)

Harry Dobson

Roedd Harry Dobson yn löwr yng Nglofa Blaenclydach a wirfoddolodd i ymladd gyda'r Frigâd Ryngwladol. Arddangoswyd y llun isod gan Weithwyr y Cambrian Combine a ffrindiau fel arwydd o'u parch at ei 'Aberth Goruchaf dros Ddemocratiaeth'. Fe'i lladdwyd ym mrwydr Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo gyrraedd Sbaen.

Handwritten letter.

Headshot of Harry Dobson.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llun o Harry Dobson (Cyf. SWCC/PHO/SWC/14) a llythyr a anfonodd at ei chwaer Irene, 26 Rhagfyr 1937 (Cyf. SC/182)

Llythyron Personol 

Mae ein casgliadau'n cynnwys llawer o lythyrau personol gan y gwirfoddolwyr gan gynnwys:

  • Tom Picton (Cyf. SC/163, 2000/13)
  • Harry Dobson (Cyf. SC/182)
  • Tom Jones (Cyf. SC/210)
  • Alwyn Skinner (Cyf. SC/286, 1995/14, 1994/20)
  • Jack Jones (Cyf. SC/306-308)

Mae hefyd yn cynnwys llythyrau gan wragedd ac aelodau eraill o'r teulu gan gynnwys:

  • Iris a Dora Cox (Cyf. SC/167)
  • Lil Price (Cyf. SC/168)

Eitemau eraill

  • heb eu cyhoeddi o Ryfel Cartref Sbaen gan Cyril P. Rule, “The Spanish Civil War: A Personal Viewpoint”, 1975 (Cyf. SC/158)
  • Llyfr lloffion Rhyfel Cartref Sbaen a luniwyd gan Harry Straton, gyda disgrifiad o weithgarwch i gefnogi Llywodraeth Weriniaethol Sbaen, gan gynnwys cyfnod ym Mataliwn Prydain y Frigâd Ryngwladol (Cyf. SC/159)
  • Nifer o raglenni coffa, gan gynnwys un i James Strangward a laddwyd mewn brwydr ym 1938(Cyf. SC/177)
  • Llyfr nodiadau a grëwyd gan Jack Roberts tra’r oedd yn Ysgol Hyfforddi Swyddogion y Frigâd Ryngwladol, Tarrazona, Sbaen ym 1937 (Cyf. SC/269)

Page in notebook with handwritten text and drawings about battlefield tactics.

Mae'r llyfr nodiadau gan Jack Roberts yn cynnwys darluniau a nodiadau manwl am arfau, tactegau a thopograffeg Sbaenaidd, 1937 (Cyf. SC/269) 

Deunydd Ffotograffiaeth

Children in costume as part of a Basque Refugee dancing troupe.

Llun o aelodau o grŵp dawnsio Ffoaduriaid o wlad y Basg a deithiodd o amgylch y cymoedd, tua1937-1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)

Mae'r casgliad (cyf. SWCC/PHO/SCW) yn cynnwys ffotograffau o gofebau a seremonïau i

  • wirfoddolwyr Rhyfel Cartref Sbaen
  • i goffáu'r rhai a fu’n ymladd yn y rhyfel cartref
  • Ymsefydlwyr o Sbaen yng Nghymru
  • Plant o wlad y Basg a ffoaduriaid eraill o Ryfel Cartref Sbaen
  • delweddau o gymorth i Sbaen o leoedd yng Nghymru.

Oriel - Ffotograffau

Cymry yn y Brigadau Rhyngwladol.

Cymry yn y Brigadau Rhyngwladol, gan gynnwys Harry Dobson, Blaenclydach, a laddwyd yn Sbaen (Cyf. SWCC/PHO/SCW/3)

Platŵn Prydeinig cyn Ymgyrch yr Ebro

Platŵn Prydeinig cyn Ymgyrch yr Ebro. Mae Tom Glyn Evans o Fynydd Cynffig yn sefyll yn y canol gyda'r beret, a Morris Davies o Dreharris yn penlinio ar y dde bell. (Cyf. SWCC/PHO/SCW/6)

Gwirfoddolwyr Bataliwn Prydain ar y blaen

Gwirfoddolwyr Bataliwn Prydain ar y blaen, gan gynnwys Jack Murray o Faesteg, yn sefyll yn drydydd o'r chwith. (Cyf. SWCC/PHO/SCW/10)

Aelodau Clwb Pêl-droed Cymdeithas Bechgyn Gwlad y Basg

Aelodau Clwb Pêl-droed Cymdeithas Bechgyn Gwlad y Basg, Caerllion, 1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/31)

Y Wasg a Phropaganda

  • Photo-History a Picture Post (Cyf. SC/844/1-3)
  • Rhifynnau Photo History, 1937, ac erthyglau Picture Post, 1938-1939, yn ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen, 1938-1939. (Cyf. SWCC/MNA/PP/103/12)
  • Cylchlythyron y Brigadau Rhyngwladol ym Mhwyleg, Saesneg a Sbaeneg (Cyf. SC/100)
  • Cylchlythyr We saw In Spain  (Cyf. SC/843)
  • Our Fight, Cyfnodolyn y Bumed Frigâd Ryngwladol ar Ddeg (Cyf. SC/209)
  • taflenni propaganda o Ryfel Cartref Sbaen o ochrau'r Cenedlaetholwyr a'r Gweriniaethwyr, 1938 (Cyf. SWCC/MNA/PP/103/12)

Eitemau Gweledol

Kerchief with image of a female combatant and text 'Pro-victimas del Fascismo', and acronyms AIT, FAI and CNT.

Ffunen gyda delwedd o ymladdwr benywaidd (Cyf. 1999/22)

  • Ffunen gyda delwedd o ymladdwr benywaidd (Cyf. 1999/22)
  • Cardiau post ac ailargraffiad cerdyn post a anfonodd Tom Jones adref o Ryfel Cartref Sbaen. Tri cherdyn post lliw i gyd yn dangos milwyr yn ymladd. Mae gan un o'r cardiau post yr arysgrif ganlynol ar y cefn "Long live the victorious Spanish Peoples Army", tua 1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/5)
  • Cartwnau Rhyfel Cartref Sbaen (Cyf. SC/231)
  • Visions de Guerra I de Reraguarda: cyfnodolyn lluniau o Ryfel Cartref Sbaen (Cyf. SC/517)

Oriel

Cronfa Fwyd Nadolig Rhyfel Cartref Sbaen

Cronfa Fwyd Nadolig Rhyfel Cartref Sbaen (Cyf. SWCC/MND/65)

Cerdyn post gan Alwyn Skinner at Dilys

Cerdyn post gan Alwyn Skinner at Dilys (Cyf. 1994/14)

Tocyn gêm ar gyfer gêm bêl-droed

Tocyn gêm ar gyfer gêm bêl-droed, Bechgyn Gwlad y Basg yn erbyn Clwb Bechgyn Pontypridd, 1938 (Cyf. SC/681)

Rhestr anrhydedd o raglen ar gyfer Cyfarfod Coffa Cenedlaethol Cymru

Rhestr anrhydedd o raglen ar gyfer Cyfarfod Coffa Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 1938 (Cyf. SC/176/1)

Ffederasiwn Glowyr De Cymru

Mae cofnodion sy'n ymwneud â Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ymateb yr undeb i Ryfel Cartref Sbaen:

  • Mae cofnodion Cyfrinfa Penllwyngwent yn cynnwys cyfeiriad at gasgliadau elusennol, megis Cymorth i Sbaen a'r Frigâd Ryngwladol(Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/3/60)
  • Mae cofnodion Cydbwyllgor Cambrian Combine yn cynnwys cyfeiriadau at Harry Dobson cyn ac yn ystod ei gyfnod fel gwirfoddolwr, 1935 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/8/22A)
  • Mae gohebiaeth Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn cynnwys materion rhyngwladol, yn ymwneud yn bennaf â Rhyfel Cartref Sbaen, 1934-1939 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/3/3/60)

Ffynonellau eraill ym Mhrifysgol Abertawe

Llyfrgell Glowyr De Cymru

Yn Llyfrgell y Glowyr, mae casgliad pellgyrhaeddol ar draws deunyddiau amrywiol yn tynnu sylw at arwyddocâd gwleidyddol Rhyfel Cartref Sbaen i gymunedau dosbarth gweithiol ym Mhrydain.Mae'r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys: