Skip to Main Content
It looks like you're using Internet Explorer 11 or older. This website works best with modern browsers such as the latest versions of Chrome, Firefox, Safari, and Edge. If you continue with this browser, you may see unexpected results.

Archifau Richard Burton: Hanes Menywod

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Menywod

Mae gan Archifau Richard Burton nifer o gasgliadau sy'n berthnasol i’r astudiaeth o hanes menywod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • addysg, gan gynnwys bod yn athrawon proffesiynol yn ogystal â bywyd fel myfyrwraig Prifysgol
  • bywyd gwaith a busnes
  • protest, gan gynnwys yr ymgyrch dros y bleidlais i fenywod a Chomin Greenham
  • gwleidyddiaeth, fel aelodau o bleidiau gwleidyddol
  • cymryd rhan mewn sefydliadau gwirfoddol megis lloches i fenywod

Dawnsio ar y silos, Comin Greenham, 1 Ionawr 1983. O Gasgliad Raissa Page. Hawlfraint Adrianne Jones (Cyf. DC3/14/1/67)

Addysg

Cymdeithas Athrawesau Gwyddoniaeth (Cangen Cymru)

Sefydlwyd y gangen hon yn y 1920au gan grŵp o athrawesau gwyddoniaeth. Mae'r casgliad hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1921 a 1965 ac mae'n cynnwys:

  • llyfrau cofnodion blynyddol, cyffredinol a phwyllgorau (1921-1962)
  • agendâu a chylchlythyrau (1929 -1962)
  • adroddiadau (1947)
  • Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu (1949)
  • Gohebiaeth yr Ysgrifennydd (1930-1955)

Ymhlith y cofnodion mae llyfr cofnodion cyntaf y Gymdeithas. Cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol yng Ngholeg Prifysgol Abertawe (Prifysgol Abertawe erbyn hyn) ar 7 Mai 1921. Mae'r llyfrau cofnodion yn dangos y parch a gafodd y Gymdeithas gan fyd diwydiant lleol a'r diddordeb a ddangoswyd gan yr aelodau yn y ffyrdd yr oedd gwyddoniaeth yn cyfrannu at lwyddiant busnesau bryd hynny.

Llyfrau Cofnodion Cymdeithas Athrawesau Gwyddoniaeth (Cangen Cymru), 1950au (Cyf. SWCC/MNA/TUG/12)

Ruby Graham

Roedd Ruby Graham (a anwyd yn Joseph) (g.1905) yn fyfyrwraig yng Ngholeg Prifysgol Abertawe rhwng 1922 a 1925. Mae ei chasgliad personol yn rhoi cipolwg ar fywyd academaidd a chymdeithasol myfyrwyr yn y 1920au ac mae'n cynnwys:

  •  lluniau
  • cardiau mynediad ar gyfer y Ddawns Flynyddol ym Mhafiliwn Patti yn Abertawe
  • rhaglenni ar gyfer yr Wythnos Ryng-golegol
  • tystlythyrau a phapurau arholiad

Mae hefyd yn cynnwys tystlythyrau o'i chyfnod diweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd. Aeth hi ymlaen i fod yn gynhyrchydd yn Theatr Fach Abertawe.

Gweler y canllaw i Gasgliadau’r Brifysgol i gael mwy o wybodaeth am archifau sefydliadol, undeb y myfyrwyr ac archifau personol.

Delweddau o Gasgliad Ruby Graham (a anwyd yn Joseph)

Gwleidyddiaeth

undefined

Aelodau o Grŵp Menywod Plaid Lafur Annibynnol Caerdydd yn ymgyrchu mewn Etholiad Bwrdeistrefol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, tua 1905 (Cyf. SWCC/PHO/PC/10/4)

Annie Powell

Athrawes, cynghorydd a maer oedd Annie Powell (1906-1986). Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr gan sefyll yn ymgeisydd y blaid Gomiwnyddol mewn etholiad ar sawl achlysur. Ym 1979 cafodd ei phenodi yn faer comiwnyddol cyntaf Cymru ar gyfer ardal Rhondda.

Ymhlith y cofnodion y mae:

  • Toriadau papur, 1978-1979 yn ymwneud â rôl Annie Powell fel Maer Comiwnyddol ardal y Rhondda (Cyf. SWCC/MNC/PP/23)
  • Taflen etholiadol ar gyfer etholaeth seneddol Dwyrain Rhondda, 1955 (Cyf. SWCC/MNA/PP/35/36/2)
  • Anerchiad etholiadol ar gyfer etholiad Cyngor Bwrdeistref Rhondda, 1970 (Cyf. SC/776)
  • Llun grŵp sy’n cynnwys Lew Mills (Blaendulais), Annie Powell, Idris Cox, Betty Bartlett ac Edgar Evans, 1924 (Cyf. SWCC/PHO/PC/2/1)

Plaid Lafur Casnewydd

Sefydlwyd Plaid Lafur Casnewydd a'r Cylch (a elwid yn ddiweddarach yn Blaid Lafur Casnewydd) ym mis Chwefror 1913 fel rhan o'r mudiad llafur cynyddol yng Nghymru. Denodd y Blaid gefnogaeth gan nifer o grwpiau a oedd wedi ymrwymo i gyfansoddiad a chynnydd y Blaid Lafur. Denodd Plaid Lafur Casnewydd aelodau o groestoriad mawr o'r boblogaeth leol drwy ei phwyslais ar ddigwyddiadau cymdeithasol megis dawnsfeydd. Arweiniodd hyn at ganran uchel o fenywod yn aelodau, a daeth hyn yn fuan yn brif ysgogydd y Blaid.

Ymhlith y cofnodion y mae:

  • Llyfr cofnodion Ffederasiwn Menywod Llafur, Rhanbarth Caerffili, 1934-1953 (Cyf. SWCC/MNA/POL/6/6)
  • Llyfrau cofnodion Menywod Llafur Casnewydd, isadran Sain Silian, 1954-1957 (Cyf. SWCC/MNA/POL/14/6-7)

Galeri - Protest

Diwydiant a Busnes

Amy Dillwyn

Nofelydd, menyw busnes a chymwynaswraig gymdeithasol oedd Amy Dillwyn (1845-1935). Pan fuodd ei thad farw, etifeddodd waith sinc gan achub y busnes yn llwyddiannus. Cyflogodd Dillwyn reolwr ond byddai’n mynychu’r swyddfa ei hun, gan ddelio â gohebiaeth a goruchwylio'r cyllid. Arweiniodd daith i Algeria ym 1905 i chwilio am galamin o ansawdd uchel. Ymgyrchai dros y bleidlais i fenywod ac roedd yn gymwynaswraig i nifer o sefydliadau lleol megis Cymdeithas Nyrsio De Cymru.

Ymhlith ei phapurau y mae ei dyddiaduron a'i llyfrau nodiadau yn ogystal â gohebiaeth bersonol. Mae'r casgliad (Cyf. 2012/11) heb ei gatalogio ar hyn o bryd ond gall y tîm Archifau roi cyngor am ei gynnwys.

Mae post blog gan Dŷ’r Cwmnïau yn disgrifio’i phwysigrwydd fel menyw fusnes gynnar.

undefined

Cofnodion yn nyddiadur Amy Dillwyn sy’n ei chofnodi’n mynd i mewn i'r swyddfa a'r busnes, 1898 (Cyf. 2012/11/6)

Cofnodion eraill sy’n ymwneud â menywod mewn diwydiant

  • Adroddiadau Pwyllgor Gwaith Abertawe ar gyfer Cronfa Lleddfu Caledi Genedlaethol Tywysog Cymru ynghylch diweithdra lleol, ffoaduriaid o Wlad Belg, gwaith i fenywod ac ati, 17 Rhagfyr 1914 a 15 Ionawr 1915 (Cyf. LAC / 64 / 1-2, copïau digidol ar gael ar Cymru1914)
  • Llythyr agored gan Gydbwyllgor Swyddogion Undeb Girling at aelodau’r undeb ynghylch cyflwyno gweithwyr o fenywod i’r trac cludo newydd yn Ffatri Girling yng Nghwmbrân, 28 Gorffennaf 1964 (Cyf. SWCC / MNA / PP / 67/63)
  • Llun o agorwraig yng Ngwaith Tunplat Clayton, c.1930 (Cyf. SWCC / PHO / PORT / 58)
  • Ffeil gohebiaeth yn ymwneud â chyflogi menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, 1941-1942, gan gynnwys taflen o’r enw ‘The Employment of Women: Suggestions to Employers’ (Cyf. SWCC / MNA / TUG / 7 / B / 37)
  • Adroddiadau Cymdeithas Gweithwyr Ffatrïoedd Tun a Dalennau, 1917-1919, gan gyfeirio at gyflogi menywod a merched (Cyf. SWCC/MNA/TUG/6/10)

Cymdeithas

Lloches Cwmdoncyn, Abertawe

Agorwyd Lloches Cwmdoncyn ar 7 Mai 1886. Lloches dros dro i ferched beichiog, tlawd ac amddifad oedd y Lloches ac roedd yn cael ei chynnal gan fenywod blaenllaw yng nghymdeithas Abertawe (Pwyllgor y Menywod). Ei nod oedd achub a diwygio ond hefyd atal merched rhag cwympo i demtasiynau. Cafodd merched eu hachub rhag y dociau, llysoedd yr heddlu a'r wyrcws a bydden nhw’n cael eu derbyn waeth beth fyddai’u crefydd. Byddai’r merched yn dysgu sgiliau ymarferol, bydden nhw’n cael eu helpu i ddychwelyd i'w cymunedau, eu hanfon i gartrefi hyfforddi arhosiad hir neu’u hanfon i ymfudo i Ganada i ddechrau bywyd newydd. Yn sgîl effaith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thwf gwasanaethau cymdeithasol, datblygodd y Lloches yn gartref ar gyfer y fam a’r babi. Caeodd y Lloches ym 1970.

Mae’r casgliad yn cynnwys:

  • rheolau arfaethedig (c 1887)
  • llyfrau cofnodion (1867-1970)
  • adroddiadau blynyddol (1921-1965)
  • cofnodion ariannol (1947-1965)

undefined

Darn o ddatganiad cenhadaeth Lloches Cwmdoncyn, 1922 (Cyf. LAC/22/B/2)

Cymdeithas Nyrsio Eastside

Sefydlwyd Cymdeithas Nyrsio Ardal Eastside ym 1905. Byddai nyrsys ardal yn darparu gwasanaeth nyrsio amgen i'r rheiny nad oeddent yn gallu fforddio nyrsio cartref preifat. Cyfrifoldeb Swyddog Meddygol Iechyd y sir ac uwch-arolygydd nyrsio Cymdeithas Nyrsio’r Sir, a oedd yn aml yn ‘Nyrs y Frenhines’, oedd gweinyddu nyrsys ardal cyn 1948.

Gellir gweld adroddiadau a chrynodebau’r gwaith a wnaed gan y Gymdeithas yng nghasgliad Henry Leyshon. Roedd Henry Leyshon o Abertawe yn aelod o'r pwyllgor, 1906-1912.

Unigolion

Margaret Kirkland (Cynghrair Rhyddid y Menywod)

Roedd Miss Margaret Kirkland yn aelod o Gangen Abertawe Cynghrair Rhyddid y Menywod yn yr 1930au. Hi oedd Llywydd cangen leol y Soroptimyddion a Llywydd Siambr Fasnach Abertawe ym 1934. Mae'r casgliad yn adnodd cyfoethog er mwyn ymchwilio i'r frwydr dros y bleidlais i fenywod gan gynnwys deunydd sy'n gysylltiedig â changen Abertawe Cynghrair Rhyddid y Menywod a mudiadau ffeministaidd a rhyddfrydol eraill.

'The Vote' , 4 Gorffennaf 1930 (Cyf. LAC/58/A/4)

Raissa Page 

Roedd Raissa Page (Cleone Alexandra Smilis) yn hanu o Ganada, gan symud i'r DU yn y 1950au. Ar ôl gyrfa fel gweithwraig gymdeithasol yn Llundain, gan arbenigo mewn plant sy'n derbyn gofal, daeth Page yn ffotograffydd dogfennol yng nghanol ei phedwardegau. Cafodd ei gwaith ffotograffig ei lywio'n fawr gan ei ffeministiaeth a'i chredoau gwleidyddol. Ymgymerodd â gwaith drwy gomisiwn ar gyfer llawer o gyhoeddiadau gan gynnwys Social Work Today, The Observer Magazine a Spare Rib, ymhlith llawer o rai eraill. Ym 1983 daeth yn un o sylfaenwyr Format, asiantaeth ffotograffig i fenywod yn unig.

undefined

Llun o Raissa Page, 1980au cynnar, ffotograffydd anhysbys (Cyf. DC3 / 16/1/213)

Mae'r casgliad yn cynnwys printiau ffotograffig, negatifau a thryloywluniau yn bennaf a gynhyrchwyd rhwng 1977 a 1993. Ymhlith y pynciau y mae:

  • gofal cymdeithasol plant, pobl hŷn a'r rheiny yr oedd iechyd meddwl gwael yn effeithio arnyn nhw
  • streic glowyr 1984-5
  • Gwersyll heddwch Comin Greenham, 1980au
  • delweddau o aseiniadau ffotograffig dramor - gan gynnwys i Israel, Tsieina, Ciwba ac UDA.

I weld rhagor o enghreifftiau o waith Raissa Page mynnwch gip ar bostiadau blog y prosiect a phorthiant Twitter (@RaissaPage).

Delweddau gan Raissa Page

Sefydliadau a Chymdeithasau

Cymdeithasau Lles Glowyr a Sefydliadau Gweithwyr

Mae'r gofrestr o archebion neuadd ar gyfer Cymdeithas Lles Glowyr Ystradgynlais, 1938-1940, yn cynnwys cofnodion ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd Cronfa Cleifion Ynyscedwyn, Tŷ Ynyscedwyn, Tŷ Ystradfawr, Cyngor y Crefftau a Llafur, Adran y Menywod (Plaid Lafur), Clinig Lles Plant, Gwnïadyddiaeth System Haslem ac ati a’r defnydd achlysurol o’r neuadd gan sefydliadau megis Gwasanaeth Amddiffyn Gwirfoddol y Menywod, Y Gymdeithas Nyrsio, Cymorth i Sbaen ac ati (Cyf. SWCC / MNA / I / 41/46).

Urddau Cydweithredol y Menywod

Ym 1883 sefydlwyd Urdd Gydweithredol y Menywod. Sefydlwyd yr Urdd i ledaenu gwybodaeth am ddiben cwmnïau cydweithredol a'u gwerth i'r gymuned a'r genedl gyfan; roedd hefyd yn hyrwyddo menywod ac yn gwella’u statws yn y gymdeithas.