Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Casgliad Maes Glo De Cymru

This page is also available in English

Casgliad Maes Glo De Cymru

undefined

Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn adnodd ymchwil sy'n bwysig yn rhyngwladol. Mae'r casgliad yn rhoi darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y meysydd glo ar ddiwedd y 19eg a'r 20fed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion o undebau llafur, yn enwedig Undeb Cenedlaethol y Glowyr (ardal De Cymru), sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol, ac unigolion sy'n gysylltiedig â'r gymuned lofaol.

Mae'r casgliad wedi ei rannu ar draws dau safle—

Gallwch bori drwy'r wefan i chwilio am Gasgliad Maes Glo De Cymru gan ddefnyddio Gwefan Deunyddiau We’r  Meysydd Glo a gwefan Casgliad Maes Glo De Cymru. Am gyngor ar chwilio, a mwy o wybodaeth am gofnodion a phynciau ymchwil, cysylltwch â ni trwy archives@abertawe.ac.uk.

Cymdeithasau lles a chymdeithasau cyfeillgar

Roedd institiwts y glowyr yn ganolbwynt cymdeithasol a diwylliannol i'r glowyr a'u teuluoedd, gan ddarparu cyfleusterau addysgol, darpariaethau lles a gweithgareddau hamdden, gan gynnwys eisteddfodau a galas y glowyr.

Roedd yr institiwts yn adlewyrchu’n gryf rôl y gymuned, ond daethant hefyd yn ganolbwynt ar gyfer eu hardaloedd. Fe'u hariannwyd yn bennaf gan y glowyr eu hunain, nes i Ddeddf Lles y Glowyr gael ei chyflwyno yn 1920 a oedd yn cynnig mwy o gymorth.

Mae'r cofnodion yn cynnwys institiwts y glowyr, cymdeithasau lles, cymdeithasau cyfeillgar, cronfeydd tlodi, ac ysbytai gweithwyr.

Cofnodion Co-operative Society

Mae gan y mudiad cydweithredol yng Nghymru hanes hir a nodedig. Gan ddilyn ôl traed y ‘Rochdale Society of Equitable Pioneers’, sy’n cael ei hystyried fel y fenter gydweithredol lwyddiannus gyntaf, cafwyd presenoldeb cydweithredol cyson yn ne Cymru ers y 1860au. Ers dros ganrif roedd wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn diwylliant lleol, ac roedd yn ffenomen economaidd a chymdeithasol sylweddol.

Mae gennym gofnodion Cymdeithasau Cydweithredol oedd wedi eu lleoli yn ardaloedd glofaol rhanbarth De Cymru o'r ‘Co-operative Union Limited’. Mae hyn yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol. Yn ogystal, mae'r archif hefyd yn cynnwys cyfnodolion, bwletinau a deunydd print arall a gyhoeddwyd gan Y ‘Co-operative Wholesale Society Limited’ a’r Co-operative Union Limited, a oedd ar gyfer y mudiad cydweithredol yn ei gyfanrwydd.

Lluniau

Mae'r casgliad o luniau yn cynnwys dros 4,000 o luniau sy'n ymwneud â sawl agwedd ar y diwydiant glo a bywyd cymunedol De Cymru.

Maent yn dangos anghydfodau a streiciau o anghydfod y ‘Cambrian Combine’ yn 1910-1911 i Streic y Glowyr yn 1984-1985. Mae llawer o'r lluniau’n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr (ardal De Cymru) ac yn cynnwys delweddau o arweinwyr, dirprwyaethau, institiwts ac aelodau cyfrinfeydd. Ceir hefyd luniau o dîmau chwaraeon lleol, corau, cymdeithasau dramatig ac o weithgareddau cymdeithasol eraill yn y cymunedau gan gynnwys galas ac eisteddfodau.

 Yn ogystal, ceir lluniau o byllau glo, gwirfoddolwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen a lluniau topograffig o gymoedd De Cymru. Rydym hefyd yn cadw casgliadau ffotograffig personol, gan gynnwys rhai Arthur Horner a Glyn Williams

Casgliadau Personol

Mae'r casgliadau personol yn cynnwys deunydd archifol sydd wedi'i gyflwyno i ni gan bobl a oedd yn gysylltiedig â Maes Glo De Cymru. Daw'r deunydd o amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys Aelodau Seneddol a'r rhai oedd yn gweithio yn y pyllau glo.

Mae'r casgliadau yn adlewyrchu bywydau a diddordebau pobl oedd yn gysylltiedig â Maes Glo De Cymru a'i gymunedau. Mae enghreifftiau yn cynnwys gohebiaeth, papurau newydd, copïau o areithiau, nodiaduron ac eraill.

Undeb Cenedlaethol y Glowyr

Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr (MFGB) ym 1889 ac wedi hynny daeth yn Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) ar 1 Ionawr 1945. Datblygodd yn sgil blynyddoedd lawer o weithgareddau undebau llafur glofaol rhanbarthol a’u gofynion, ac mae'n parhau i fod yn sefydliad gweithredol heddiw.

  • 1888: Sefydlwyd strwythur cenedlaethol ar ffurf yr MFGB
  • 1898: Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF, a elwir yn gyffredin 'Y Ffed') i wrthwynebu cryfder perchnogion glo a chwmnïau glo lleol
  • 1945: Gyda datblygiad tuag at wladoli'r diwydiant glo, ail-ffurfiodd yr MFGB ei gyfansoddiad, a daeth yn Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM)
  • 1945: Daeth SWMF yn NUM (Ardal De Cymru), un o 20 ardal a sefydlwyd.

Mae cofnodion gweinyddiaeth ganolog NUM (Ardal De Cymru) yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon, a gohebiaeth yn ymwneud ag ystod eang o bynciau sy'n effeithio ar y diwydiant glofaol.

Cofnodion Cyfrynifeydd

Roedd gan bob glofa (neu bwll) Gyfrinfa neu Gangen, sef canghennau cyswllt lleol Undeb Cenedlaethol y glowyr (a'i ragflaenydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF). Roedd y gyfrinfa’n cynrychioli’r gweithwyr gerbron y rheolwyr, ac roedd yn ganolbwynt economaidd a bargeinio trefnus iddynt ar lefel leol.

Mae'r papurau'n cynnwys llyfrau cofnodion, gohebiaeth, papurau ariannol ac ati.