Dyma ein horiau agor:
Mawrth 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Iau 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Bydd uchafswm o 4 darllenydd yn cael mynd i mewn ar yr un pryd, a bydd angen archebu lle yn yr Ystafell Ddarllen ymlaen llaw ac archebu dogfennau dri diwrnod gwaith cyn eich ymweliad. Er enghraifft, os oes gennych apwyntiad ar ddydd Mawrth, archebwch eich dogfennau erbyn 5pm ar y dydd Iau blaenorol; os oes gennych apwyntiad ar ddydd Iau, archebwch eich dogfennau erbyn 5pm ar y dydd Llun blaenorol. Gofynnwn i bob darllenydd gysylltu â ni yn archives@abertawe.ac.uk neu 01792 295021 cyn eich ymweliad er mwyn trafod eich gofynion.
Mae rhagor o wybodaeth am ailagor ar gael yma.
Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth ateb ymholiadau.
Eich Tîm Archifau
Archifyddion: Katrina Legg, Stacy O'Sullivan, Emily Hewitt
Cynorthwywyr Archif: Sarah Thompson, Stephanie Basford-Morris
Oriau agor:
Mawrth 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Iau 10yb – 12.30yh a 1.30yh – 4yh
Lleoliad: Llyfrgell Parc Singleton
Croeso i dudalennau Archifau. Mae Archifau yn dewis, yn diogelu ac yn cynnig mynediad i bawb i’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd neu a gafaelwyd gan y Brifysgol. Mae ein casgliadau ar gael i fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr allanol eu defnyddio yn ein hystafell ddarllen. Maent yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol Cymru a thu hwnt.