Allforio Cyfeirnodau i Word
Ar Ddiwrnod 1 ychwanegom ap sy’n helpu wrth weithio ar ddogfennau Word ar ein dyfeisiau. Os wnaethoch chi osgoi’r cam yma gallwch ychwanegu’r ap o’ch desg fwrdd Mendeley drwy glicio ar Offer a Lawrlwytho ap sy’n helpu wrth weithio ar ddogfennau Word.
Byddwch yn gweld bod nifer o arddulliau ar gael, gan gynnwys rhai safonol fel Vancouver ac APA 6th Edition. Mae mwy na 1200 o arddulliau cyfeirnodi wedi eu mewnosod ym Mendeley felly os na allwch weld yr arddull sydd ei angen arnoch ar Fwrdd Gwaith Mendeley, cliciwch ar View, wedyn Citation Style ac wedyn dewiswch yr arddull sydd ei hangen arnoch.
I ychwanegu cyfeirnod i’ch dogfen, ewch i’r man yn y testun lle rydych yn dymuno rhoi’r mynegai cyfeirnodi. Cliciwch ar References ac yna ar Insert Citation. Os ydych yn dymuno cynnwys rhestr cyfeirnodau wrth i chi deipio, cliciwch ar Insert Bibliography.
Bydd y cwarel canlynol yn agor.
Teipiwch rai manylion am yr eitem yr ydych yn dymuno ei mewnosod. Pan fydd yr eitem yn weladwy, dewiswch hi a chlicio ar OK.
Mae’n bwysig nodi bod gan Brifysgol Abertawe arddull Vancouver benodol i Abertawe, felly bydd angen gwneud ychydig o adolygiadau. Mae’r canllawiau ar gyfer arddull benodol Abertawe yn ein canllawiau llyfrgell ar gyfer peirianneg yma.
Dewch i #ToolTimeTuesday yn y Llyfrgell - dysgwch am declyn defnyddiol i wella eich sgiliau wrth chwilio am wybodaeth o ansawdd uchel. Galwch draw i’r sesiwn galw heibio yn Llyfrgell Parc Singleton (Dydd Mawrth 11-1) neu dewch i’r sesiwn 15 munud ar-lein – archebwch drwy Raglen Sgiliau’r Llyfrgell i weld beth sydd ar gael.
Pryd: Dydd Mawrth 26ain Tachwedd
Pa offeryn: EndNote
Mae EndNote yn offeryn gwych a all eich helpu i storio a threfnu'r cyfeiriadau y byddwch yn dod o hyd iddynt yn ystod eich ymchwil. Yna gallwch chi fewnosod dyfyniadau a rhestr gyfeirio wedi'i fformatio'n llawn yn eich dogfennau Word.
Mae EndNote yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho fel myfyriwr neu aelod o staff, bydd yn rhoi mynediad i chi i amrywiaeth o arddulliau cyfeirnodi, gan gynnwys APA (7fed arg.), Vancouver a MHRA.
Cyfrifiaduron personol ar y campws
Oddi ar y campws
Galwch draw ddydd Mawrth a byddwn yn dangos manteision defnyddio'r offeryn hwn i chi. Methu ei wneud? Gwyliwch ein tiwtorial ar-lein Dechrau arni gyda EndNote yn lle hynny.