Croeso i 5 Niwrnod o Mendeley
Mae Mandeley yn declyn am ddim a all fod o gymorth i rai ohonoch storio a threfnu’r cyfeiriadau yn ystod eich ymchwil. Gellir defnyddio’r wybodaeth cyfeirio wedyn i fewnosod mynegai cyfeiriol a rhestr gyfeirio wedi ei fformatio’n llawn i’ch dogfennau Word. Mae Mendeley hefyd yn cynnwys cymuned cyfryngau cymdeithasol wych wedi ei dylunio ar gyfer ymchwilwyr. Serch hyn, byd pum diwrnod o Mendeley yn canolbwyntio ar gyfeirio.
Mae’n bwysig nodi bod yr adnodd hwn yn un a gynigir am ddim ac felly ni all Prifysgol Abertawe gynnig cymorth technegol ar ei gyfer ac os oes unrhyw broblemau, dylid rhoi gwybod i Mendeley yn uniongyrchol. Mae Prifysgol Abertawe yn tanysgrifio i Endnote, dull o gyfeirnodi sydd â chymorth technegol.
Fodd bynnag, oherwydd y ceir llawer o ymholiadau am Mendeley mae’r fersiwn Bwrdd Gwaith ar gael gan y bwrdd gwaith cyffredin ynghyd â’r ategyn Word.
Mae pum Diwrnod o Mendeley wedi cael ei greu mewn ymateb i nifer o ymholiadau am y teclyn cyfeirio ac nid cymryd lle Endnote yw’r bwriad.
Ewch i: www.mendeley.com
Dewiswch Download Desktop App
Heddiw byddwn yn edrych ar greu Cyfrif Mendeley a sefydlu’r feddalwedd briodol (os nad yw wedi cysylltu i’r desgfwrdd cyfunol). Pwrpas y cyfarwyddiadau isod yw creu Defnydd Desgfwrdd a chyfrif Mendeley yn ogystal. Gallwch ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o Mendeley. Mae posib cysylltu’r fersiwn Mendeley ar-lein. Mae’r broses yn hawdd iawn ac mae’n rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich cyfeiriadau.
I gael rhagor o wybodaeth am Mendeley ac Endnote, anfonwch neges e-bost i buslib@swansea.ac.uk neu engineeringlib@swansea.ac.uk
Dechrau defnyddio
Mae gan Mendeley lai o fynegai cyfeiriol o’i gymharu ag Endnote, ac ar hyn o bryd nid yw’n cynnwys Vancouver y dull Vancouver (Abertawe). Mae’n cynnwys APA a Vancouver sylfaenol yn y llyfrgell gyfeiriol.
Bydd y ffeil yn lawrlwytho. Ar ôl iddi lawrlwytho cliciwch ar Run (gallai fod yn cuddio yng nghornel chwith isaf eich sgrin).
Cewch wedyn eich gwahodd i gofrestru gyda Mendeley ac Elsevier.
Cewch eich gwahodd i ychwanegu’r ategyn mynegeion cyfeirnodi ar gyfer creu cyfeirnodau. Bydd hyn yn ychwanegu tab newydd yn Word a fydd yn eich galluogi i greu mynegeion cyfeirnodi a chyfeirnodau yn y testun.
Cliciwch ar Install now.
Ychwanegu Cyfeirnodau â Llaw
Bydd blwch New Document yn ymddangos (mae’n agor Journal Article fel rheol). Defnyddiwch saeth y gwymplen i ddewis eich cyfrwng a chwblhau’r wybodaeth berthnasol. Cliciwch ar Save.
Caiff y cyfeirnod yr ydych chi wedi ei ychwanegu ei restru yn My References.
Yfory, byddwch yn dysgu sut i fewnforio gwybodaeth gyfeirio o iFind .