Allforio Cyfeirnodau i Word

Ar Ddiwrnod 1 ychwanegom ap sy’n helpu wrth weithio ar ddogfennau Word ar ein dyfeisiau. Os wnaethoch chi osgoi’r cam yma gallwch ychwanegu’r ap o’ch desg fwrdd Mendeley drwy glicio ar Offer a Lawrlwytho ap sy’n helpu wrth weithio ar ddogfennau Word.

Mendeley Ribbon Tab in word

Byddwch yn gweld bod nifer o arddulliau ar gael, gan gynnwys rhai safonol fel Vancouver ac APA 6th Edition. Mae mwy na 1200 o arddulliau cyfeirnodi wedi eu mewnosod ym Mendeley felly os na allwch weld yr arddull sydd ei angen arnoch ar Fwrdd Gwaith Mendeley, cliciwch ar View, wedyn Citation Style ac wedyn dewiswch yr arddull sydd ei hangen arnoch.

I ychwanegu cyfeirnod i’ch dogfen, ewch i’r man yn y testun lle rydych yn dymuno rhoi’r mynegai cyfeirnodi. Cliciwch ar References ac yna ar Insert Citation. Os ydych yn dymuno cynnwys rhestr cyfeirnodau wrth i chi deipio, cliciwch ar Insert Bibliography.

Bydd y cwarel canlynol yn agor.

 

Mendeley search for citation box

Teipiwch rai manylion am yr eitem yr ydych yn dymuno ei mewnosod. Pan fydd yr eitem yn weladwy, dewiswch hi a chlicio ar OK.

Mendeley searching for citation box

Mae’n bwysig nodi bod gan Brifysgol Abertawe arddull Vancouver benodol i Abertawe, felly bydd angen gwneud ychydig o adolygiadau. Mae’r canllawiau ar gyfer arddull benodol Abertawe yn ein canllawiau llyfrgell ar gyfer peirianneg yma.