Croeso i Ddiwrnod 5 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell! Heddiw, rydyn ni'n mynd i roi gwybod i chi am y cymorth sydd ar gael i chi yn y llyfrgell, gan gynnwys y staff sydd yma i helpu.
Tîm Llyfrgelloedd MyUni
Mae staff Llyfrgelloedd MyUni yno i'ch helpu yn ein hadeiladau ac wrth ddefnyddio cyfleusterau'r llyfrgell. Gallant helpu os oes gennych gwestiynau am eich cyfrif llyfrgell hefyd. Dyma rai o'r pethau y gallant eich helpu gyda nhw:
Llyfrau a deunyddiau eraill y llyfrgell
Adnodau electronig y llyfrgell
Benthyciadau rhwng llyfrgelloedd
Gwasanaethau argraffu, copïo a sganio'r llyfrgell
Benthyca gliniaduron o'r llyfrgell
Cadw lle astudio yn y llyfrgell
Dyroddi ac amnewid cardiau adnabod
Trefnu teithiau o'r llyfrgell
Byddwch yn gweld aelodau o'r tîm wrth Ddesg Llyfrgelloedd MyUni yn Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton yn ystod oriau agor â staff. Gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy e-bost, sgwrs fyw, ffôn, a Desg Gymorth ar-lein y Llyfrgell. Gweler y dudalen Cysylltu â'r Llyfrgell am fanylion.
Cymorth Pwnc gan y Llyfrgell
Ar ôl i chi ymsefydlu yn eich cwrs efallai bydd angen rhywfaint o help arnoch i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion a gwybodaeth arbenigol ar gyfer eich aseiniadau. Efallai byddwch am wneud yn siŵr y gallwch werthuso ffynonellau yn feirniadol ar gyfer ansawdd a chyfeirnodi popeth yn iawn. Gall eich llyfrgellwyr pwnc helpu! Dyma rai o'r ffyrdd gorau o wella eich sgiliau:
Edrychwch ar ein Canllawiau'r Llyfrgell, eich porth i adnoddau a gwybodaeth arbenigol ar gyfer eich pwnc. Dewch o hyd i'r Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc i weld ble gallwch bori am lyfrau ar eich pwnc, awgrymiadau ar chwilio'n effeithiol a manylion cyswllt ar gyfer eich llyfrgellwyr pwnc.
Cofrestrwch ar Hanfodion Llyfrgell MyUni, cwrs ar-lein o diwtorialau, fideos a gwybodaeth cryno i'ch helpu i gael y gorau o'r llyfrgell a'n gwasanaethau. Mae pedair adran – Defnyddio'r Llyfrgell, Ymchwilio, Cyfeirnodi a Ceisio Cymorth. Mae Defnyddio'r Llyfrgell yn arbennig o dda i fyfyrwyr newydd, ond gallwch wneud y cwrs fel y mae'n addas i chi – gan weithio drwy'r holl adrannau neu dim ond y rhai yr hoffech chi gael help ychwanegol gyda nhw.
Porwch drwy ddosbarthiadau Sgiliau’r Llyfrgell a chofrestru ar gyfer cynifer ag y dymunwch. Mae llyfrgellwyr pwnc yn cynnig dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn, ac maent ar agor i bob myfyriwr. Mae'r dosbarthiadau'n cwmpasu amrywiaeth o sgiliau ac mae rhaglen ymsefydlu dreigl sy'n cynnwys y pynciau mwyaf poblogaidd – Cyflwyniad i'r Llyfrgell, Cyflwyniad i iFind ac E-lyfrau, Awgrymiadau ar gyfer Chwilio, Cyflwyniad i Gronfeydd Data, Gwerthuso Ffynonellau a Chyfeirnodi ag APA7. Fe'u cynhelir bob mis y tymor hwn, felly mae gennych chi ddigon o gyfleoedd i wella eich sgiliau!