Yr Atodyn Cipio Data o Wefannau

​Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho’r mewnforiwr gwe. Gellir cael gafael ar hwn yn https://www.mendeley.com/reference-management/web-importer#id_1 . O’r dudalen hon, rydych yn dewis pa borwr yr hoffech ei ddefnyddio ar gyfer y dasg hon (byddaf yn defnyddio Chrome) ond maent i gyd yn gweithio mewn ffordd debyg.

Dewiswch Install Chrome browser extension ac ar y dudalen ganlynol Add to Chrome.

Dylech weld wedyn yr eicon canlynol yn ymddangos ar bwys eich bar cyfeiriadau. Mae’r broses osod felly wedi’i chwblhau.

Mendeley web importer next toaddress bar

Cadw Cyfeirnod Tudalen We ac Ychwanegu dogfennau

Pan fyddwch wedi chwilio a dod o hyd i wefan yr ydych yn dymuno ei hychwanegu at eich Llyfrgell Mendeley, cliciwch ar yr eicon Mendeley yn y bar offer.

Bydd y ffenest ganlynol wedyn yn ymddangos. Cliciwch ar Save. Bydd yn lawrlwyrtho unrhyw ffeiliau PDF sydd ar gael. Dad-ddewiswch y blwch os ydych yn dymuno hepgor y broses hon.

Mendeley web importer library pop up

Mae llawer o wefannau yn dangos y neges ganlynol, os nad ydynt yn cynnwys erthyglau cylchgronau na dogfennau gan nad ydynt yn cynnwys unrhyw metadata llyfryddiaethol

Bydd y dudalen hon yn caniatáu i chi gwblhau ffurflen â gwybodaeth y wefan a fydd, wrth ei harbed, yn anfon yr wybodaeth i’ch cyfeirnod Mendeley. Caiff rhai ffurflenni eu llenwi yn fwy nag eraill.

Trefnu eich llyfrgell Mendeley o fewn eich Bwrdd Gwaith Mendeley

Mae’r cwarel ar y chwith yn eich Rhaglen Mendeley yn caniatáu i chi drefnu a hidlo eich llyfrgell. Ceir hidlwyr safonol megis Recently Added, Recently Read a Favourites.

Mae’n hawdd creu ffolderi. Yr hyn sy’n bwysig i’w nodi yw bod creu Ffolderi yn newid golwg eich llyfrgell ac yn rhoi “tags” ar eich dogfennau ond nid yw’n symud y cyfeirnod i’r llyfrgell mewn gwirionedd. Bydd hyn yn golygu y gellir symud yr un cyfeirnod (nid copi) i ffolderi lluosog a gellir ychwanegu ffolderi a’u dileu heb effeithio ar y cyfeirnod gwreiddiol.

I ychwanegu ffolder, cliciwch ar Create Folder… ac yna rhowch enw ystyrlon iddo.

Mendeley library right-hand pane

Chwilio ym Mendeley

Bydd y blwch chwilio yn chwilio drwy’r holl fanylion llyfryddiaethol y byddwch yn eu dewis â saeth y gwymplen (wedi’i huwcholeuo isod)

Mae’n bwysig nodi y bydd y blwch chwilio yn chwilio yn y llyfrgell yr ydych wedi’i dewis yn unig.

Os mai is-ffolder yw eich prif gwarel, bydd y chwilio yn gyfyngedig i’r ffolder penodol hwnnw. Felly os na allwch ddod o hyd i gyfeirnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis All Documents.

Hidlo yn ôl Tag

Mae’r tagiau yn caniatáu i chi roi labeli ar gyfeirnodau er mwyn gallu eu rhoi mewn grwpiau yn hawdd. I ychwanegu tag, ewch i’r cwarel ar y dde yn eich Bwrdd Gwaith Mendeley (efallai y byddai angen i chi sgrolio i lawr i’r cwarel). Gallwch ychwanegu mwy nag un tag drwy rannu bob un â gwahannod ;

I adalw tagiau, bydd angen i chi fynd i’r Hidl ar waelod Bwrdd Gwaith Mendeley ar y chwith a dewis Filter by My Tags.

Mendeley Filter by My Tags

Wrth chwilio am dagiau mae’n bwysig cadw o fewn y ffolder a ddewiswyd neu o fewn All Documents.