Rydym yn dy annog i weithio'n galed a gwneud dy orau tra byddi di yn y brifysgol, ond mae hefyd yn bwysig cymryd amser i ymlacio a chael hwyl. Mae gan ein campysau amrywiaeth o fannau i fyfyrwyr astudio a chymdeithasu. Gwnaethon ni ganolbwyntio ar y mannau astudio yn y llyfrgelloedd ar Ddiwrnod 3; heddiw rydym yn edrych ar sut gallwn ni gefnogi dy les.
Darllen yn Well – darllen er pleser a lles
Mae wedi'i brofi bod darllen er pleser yn ffordd o leddfu straen, felly gall cymryd amser i ddarllen rhywbeth ar wahân i lyfrau testun eich cyrsiau fod yn dda i'ch lles. Mae gan y dudalen Darllen yn Well ddolenni i gael rhagor o wybodaeth am fanteision darllen ac awgrymiadau o lyfrau y gallwch chi eu benthyca o'r llyfrgell.
Yn ogystal, mae gan y dudalen Darllen yn Well ddolen i'r Casgliad Lles. Dyma gasgliad o lyfrau hunangymorth ar amrywiaeth o bynciau megis rheoli straen, cysgu, anhwylderau bwyta, y menopos a hyd yn oed llyfrau coginio. Mae'r Casgliad Lles ar gael i bob myfyriwr ac aelod o staff. Gallwch ddod o hyd i'r llyfrau yn yr Ardal Astudio ar Lefel 1 - Gorllewin yn Llyfrgell Parc Singleton ac yn y Gornel Les gerllaw'r pod astudio grŵp yn Llyfrgell y Bae. Hefyd, mae fersiynau e-lyfr ar gael i rai ohonynt. Mae tystiolaeth dda y gall bibliotherapi – sef defnyddio llyfrau ar gyfer therapi hunangymorth – fod yn effeithiol iawn, ond cysylltwch â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr y brifysgol os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi.
Cegin myfyrwyr
Mae gan lyfrgelloedd Campws y Bae a Champws Parc Singleton gyfleusterau cegin i ti eu defnyddio. Gelli di helpu dy hun i ddŵr poeth i wneud paned neu nwdls; mae dŵr yfed os bydd angen i ti lenwi dy botel; ac mae microdonau os bydd awydd cynhesu bwyd arnat ti (paid â gadael microdonau pan fyddant ar waith a phaid â chynhesu metel!). Rydym yn hapus i ti fwyta bwyd oer unrhyw le yn y llyfrgell, ond, os wyt ti'n bwyta bwyd poeth, gofynnwn i ti wneud hyn yn y gegin. Gall myfyrwyr ym Mharc Dewi Sant ddefnyddio'r microdonau a’r dŵr berw yn yr ystafell gyffredin i chi gael rhywbeth poeth i fwyta a phaned hefyd!