Ddoe fe sefydlom gyfrif Menedeley a lawrlwythom Mendeley ac ap sy’n helpu wrth weithio ar ddogfennau Word ar ein dyfeisiau. Creom gyfeiriadau â llaw hefyd.
Mae’n bwysig eich bod yn gallu creu cyfeiriadau â llaw ond yn fwy na dim rydych eisiau gallu dosbarthu cyfeiriadau’n fewnol.
Heddiw byddwn yn edrych ar ddosbarthu cyfeiriadau o iFind, dosbarthu o gronfa ddata academaidd yn ogystal â chreu cyfeiriadau o PDFau sydd wedi eu harbed ar eich dyfais i Mendeley.
Heddiw byddwn yn edrych ar ddosbarthu cyfeiriadau o iFind, dosbarthu o gronfa ddata academaidd yn ogystal â chreu cyfeiriadau o PDFau sydd wedi eu harbed ar eich dyfais i Mendeley.
Creu Cyfeirnodau o ffeiliau PDF sydd wedi eu cadw ar eich dyfeisiau.
Dewiswch Add Folder o’r botwm Add ar ben uchaf y sgrin ar y chwith.
Caiff y ffeil PDF wedyn ei hychwanegu i’ch llyfrgell cyfeirnodau ynghyd â manylion y mynegai cyfeirnodi.
Bydd hyn yn gweithio dim ond ar gyfer dogfennau lle mae’r wybodaeth wedi ei mewnosod yn y PDF. Fel arfer, y rheini â doi.
Mewnforio un cyfeirnod i Mendeley o iFind
Pan fyddwch yn dod o hyd i eitem yn iFind yr ydych yn dymuno ei hychwanegu.
Dewiswch Actions ac yna Export to RIS (wedi’i uwcholeuo isod).
Bydd ffenestr Import to Citation Manager yn agor. Cliciwch ar DOWNLOAD.
Gallwch naill ai Llusgo a Gollwng y ffeil RIS i mewn i gwarel All Documents ym Mendeley neu gadw’r ffeil RIS ac wedyn clicio ar Add File... ym Mendeley.
Ychwanegu Cyfeirnod o’n Cronfeydd Data Academaidd
Gallwch hefyd ychwanegu cyfeirnodau o’r rhan fwyaf o’n cronfeydd data academaidd. Mae pob Cronfa Ddata yn gweithio ychydig yn wahanol.
Chwiliwch am ddolen Cite this (neu debyg)
Bydd angen i chi wedyn ddewis y fformat yr ydych chi’n dymuno eu lawrlwytho. Yn yr enghraifft uchod cewch BibTex. Weithiau, yr opsiwn y mae angen i chi ei ddewis fydd RIS. Mewn cynhyrchion Elsevier fel ScienceDirect fe welwch chi Export to Mendeley. Dewiswch hwn ac yna cliciwch ar Download article citation data.
Wedyn gallwch naill ai Llusgo a Gollwng y ffeil i gwarel All Documents ym Mendeley neu fynd yn ôl i Mendeley a chlicio ar Add File...
Ychwanegu PDF neu ddogfen i’ch Cyfeirnod
Ar y pwynt hwn rydych chi wedi creu cyfeirnod i’ch llyfrgell. Gallwch hefyd atodi PDF yr erthygl i’ch llyfrgell. Er mwyn gwneud hyn:
Dewiswch yr erthygl. Yn y cwarel manylion dewiswch Add File…
Bydd ffenestr Attach Files Mendeley yn agor. Dewiswch y ffeil yr ydych yn dymuno ei hychwanegu a chliciwch ar Open.