Mae ‘5 niwrnod o Mendeley yn gwrs ar-lein i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Cynhelir y cwrs rhwng 18 a 22 Tachwedd.
Sut bydd y cwrs yn gweithio
Bob dydd, bydd blog newydd a fydd yn eich tywys drwy ddefnyddio Mendeley. Byddwn yn dechrau gydag egwyddorion sylfaenol creu cyfrif. Erbyn diwedd yr wythnos, byddwch yn gallu defnyddio Mendeley i gynnwys dyfyniadau a rhestrau o gyfeiriadau yn eich dogfennau Word.
Bydd y cwrs yn ymdrin â:
- Creu cyfrif ‘Mendeley Desktop’ a Mendeley Online
- Mewnforio cyfeiriadau
- Trefnu a rhannu’ch cyfeiriadau
- Defnyddion Mendeley yn Microsoft Word
- Mendeley ar-lein a mewnforio ac alforio eich llyfrgell ar yr Mendeley Web Importer
I gymryd rhan yn y cwrs hwn, cofrestrwch i ddilyn y blog hwn drwy e-bost.