Drwy gydol yr 20fed ganrif, bu pamffledi yn gyfrwng pwysig i drafod materion gwleidyddol, cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol allweddol eu dydd.
Gyda dros 8,000 o bamffledi sy’n dod â chorff o ffynonellau sylfaenol at ei gilydd ar gyfer astudio ffactorau cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd sy’n effeithio ar dde Cymru’r 20fed ganrif.
Gellir chwilio casgliad cyffredinol pamffledi Casgliad Maes Glo De Cymru gan ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell.
Ewch i Chwiliad manwl a defnyddiwch y gwymplen i ddewis 'classmark' yna piciwch i mewn enw'r casgliad yr hoffech ei weld e.e. A. L. Horner