Skip to Main Content

Llyfrgell Glowyr De Cymru (LlGDC)

This page is also available in English

Deunyddiau Grwpiau Cymorth i Ferched

Women’s Support Groups

Women’s Support Group Banners

  • BAN/28 - Brent NALGO - Dulais Valley
  • BAN/52 - Aberystwyth Supports the Miners'
  • BAN/50 - Bersham Women's Support Group
  • BAN/38 - London Congress in support of the Mining Communities
  • BAN/67 - Neath, Dulais and Swansea Valley Support Group
  • BAN/55 - Tower Lodge Support Group

Images available!

Casgliad Ursula Masson

Roedd Ursula Masson yn fenyw a wnaeth i bethau ddigwydd.  Yn falch o'i galw ei hun yn ffeminydd, roedd hi'n ysgolhaig gwych ac yn athrawes ysbrydoledig yr oedd ei hymrwymiad angerddol i fenyw ac i wleidyddiaeth yn amlwg i bawb oedd yn ei hadnabod.

Cafodd ei geni ym Merthyr Tudful a'i haddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Keele. Fel darlithydd hanes ym Mhrifysgol Morgannwg o 1994 ymlaen, daeth yn ffigwr blaenllaw ym maes hanes merched, yn enwedig hanes gwleidyddol merched Cymru. Sefydlodd hi, gyda'r Athro Jane Aaron, y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Bu hefyd yn allweddol wrth sefydlu Archif Menywod Cymru/Women’s Archive of Wales. Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn cadw llyfrgell lyfrau Ursula Masson, cyfanswm o 758.

Casgliad Val Feld

Ganed Val Feld yn Valerie Breen Turner ym 1947 ym Mangor, gogledd Cymru. Daeth Val Feld yn newyddiadurwr yn y BBC, ac yn ddiweddarach treuliodd 10 mlynedd yn Swydd Gaerhirfryn yn gweithio ar weithgareddau cymunedol a chymdeithasol. Ym 1981, ar ôl i’w phriodas chwalu, dychwelodd i Gymru a sefydlu Swyddfa Shelter Cymru yn Abertawe. 9 mlynedd yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Shelter Cymru, ac yn 1989 daeth yn gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru, swydd y bu ynddi am 10 mlynedd nes iddi gael ei hethol yn AC. Dechreuodd Val Feld ei gyrfa wleidyddol fel cynghorydd Llafur yn Chorley, Swydd Gaerhirfryn. Gweithredodd fel Trysorydd yr ymgyrch 'Ie dros Gymru', a frwydrodd am bleidlais 'ie' yn refferendwm 1997 ar greu Cynulliad i Gymru. Bu'n Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe o sefydlu'r Cynulliad ym 1999 hyd at ei marwolaeth ym mis Gorffennaf 2001. Roedd ei diddordebau penodol yn cynnwys datblygu economaidd, tai ac addysg. Roedd hi’n un o aelodau uchaf ei pharch o’r Cynulliad, ar draws pob plaid wleidyddol, a gweithiodd yn galed i hybu rôl menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ym mis Mai 2001, ymddiswyddodd Val Feld fel Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd, a dechreuodd leihau ei dyletswyddau ychwanegol oherwydd salwch. Bu farw ar 17 Gorffennaf 2001.

Rydym yn cadw Llyfrgell lyfrau Val Feld yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.