Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cwmpasu llawer o hen siroedd Morgannwg, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a rhan o De Sir Benfro ac yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr ardal yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif. Fe'i cedwir rhwng yr Archifau a Llyfrgell Glowyr De Cymru (SWML):
Os oedd unigolyn yn ffigwr amlwg yn ei gymuned neu undeb llafur, neu’n ymwneud â digwyddiad penodol, megis trychineb glofaol, efallai y bydd cyfeiriad ato yng Nghasgliad Maes Glo De Cymru. Gall y casgliad hefyd fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer darganfod gwybodaeth gefndir am y cymunedau ym maes glo De Cymru. Fodd bynnag, nid ydym yn cadw cofnodion personél mwyngloddio.