Mae tri deg naw o faneri yn y SWCC. Mae dau ddeg saith ohonynt yn dod o Gyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), tra bod y deuddeg arall o nifer o wahanol grwpiau. Mae’r rhain yn cynnwys baner gan y Krasnaya Presna Working Women a ddygwyd yn ôl o’r Undeb Sofietaidd gan ddirprwyaeth o lowyr dan arweiniad A J Cooke ym 1927, a baner gan ddirprwyaeth o lowyr Tsieineaidd.
Mae'r baneri wedi'u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau, yn amrywio o sidan a melfed i blastig a hyd yn oed cynfas gwely ysbyty. Maent yn amrywio o ran maint; o'r mwyaf yn mesur 247 x 274cm, y lleiaf yn 22 x 30cm.
Mae'r rhestr wedi'i strwythuro fel bod holl faneri'r NUM yn cael eu rhestru yn gyntaf, a'r baneri gan gyrff eraill wedi'u rhestru nesaf. Dylid nodi nad yw llawer o'r baneri hyn yn perthyn i'r Brifysgol, ond eu bod wedi'u gosod yn garedig yno gan yr NUM (Ardal De Cymru).