Skip to Main Content

Llyfrgell Glowyr De Cymru (LlGDC)

This page is also available in English

Dysgu yn y LlGDC

Rydym yn awyddus i gynnig cefnogaeth ar gyfer addysgu a dysgu. Rydym bob amser yn frwdfrydig i gael staff a myfyrwyr yn cyrchu a defnyddio ein casgliadau a gallwn hwyluso mynediad a chyd-destun i'n daliadau. Rydym, yn y gorffennol, wedi cefnogi myfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac rydym yn awyddus i wneud hynny eto. Rydym bob amser yn chwilio am fwy o ffyrdd o ymgysylltu’r cyhoedd yn ehangach â’n casgliadau a’r mewnwelediad y maent yn ei gynnig i hanes y maes glo ac i lyfrgellyddiaeth.