This page is also available in English
Mae'r tudalen yma yn darparu gwybodaeth, cysylltiadau a chanllawiau ar gyfer yr adnoddau allweddol sydd ar gael i chi fel myfyrwyr Addysg Oedolion. P'un a ydych eisiau Cwestiynau Cyffredin am y llyfrgell, gwybodaeth am gysylltu eich dyfais i'r Wi-Fi neu'r cronfeydd mwyaf perthnasol i'ch astudiaethau, dyma'r lle i edrych.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae ProQuest One Literature yn cynnwys 3 miliwn o ddyfyniadau llenyddiaeth o filoedd o gyfnodolion, monograffau, traethodau hir, a mwy na 500,000 o weithiau cynradd - gan gynnwys testunau prin ac aneglur, fersiynau lluosog, a ffynonellau anhraddodiadol fel comics, perfformiadau theatr, a darlleniadau awduron.
Mae Project Muse yn rhoi testun llawn o flynyddoedd diweddar o tua 150 o gylchgronau o ansawdd uchel a adolygwyd gan gymheiriaid yn y Dyniaethau. Mae cyfran uchel iawn yn ymwneud â llenyddiaeth. Mae hefyd yn rhoi mynediad rhwydd i gannoedd o eLyfrau.
Mae MLA International Bibliography yn rhoi manylion y rhan fwyaf o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau ar ieithoedd modern a'u llenyddiaeth (gan gynnwys Saesneg) o'r 1920au hyd y presennol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau am ieithyddiaeth, llên gwerin a ffilmiau. Nid yw'n cynnwys adolygiadau o lyfrau. Mae'n rhan o Wasanaeth Cronfa Ddata Proquest ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau.
Mae Cylchgronau Cymru'n darparu mynediad i gylchgronau'n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2007. Mae'r teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.
Hwn yw'r prif lyfryddiaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer y Canol Oesoedd (c.400-1500). Mae'n cynnwys manylion dros 300,000 o erthyglau a gyhoeddwyd ers 1967 mewn cyfnodolion, trafodion cynadleddau, casgliadau o draethodau, Festschriften a chatalogau arddangosfeydd. Mae'n cynnwys pob agwedd ar astudiaethau canoloesol.
Mae Archif Hanesyddol y Mirror yn darparu mynediad i destun llawn (ffacsimili tudalen lawn) y Mirror a Sunday Mirror o 1903 i 2000.
Mae Archif The Times yn cynnwys papur newydd The Times yn ei gyfanrwydd, o'i ddechrau ym 1785 hyd at 2019, gan gynnwys erthyglau, ffotograffau, llythyron a hysbysebion.
Mae’r safle UKPressOnline yn rhoi mynediad i destun llawn (ffacsimilïau tudalen lawn) i'r Daily Express o 1900 hyd heddiw. Mae’n cynnwys hefyd y Sunday Express a Daily Star (o 2000 hyd heddiw) a Star Sunday (o 2002 hyd heddiw). Gellir gweld pob rhifyn fel y byddai wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol (ynghyd â ffotograffau, lluniau, hysbysebion etc.).
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Gwasanaeth e-bapurau newydd llyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe yw PressReader. Mae’n rhoi mynediad at restr gynyddol o 8,000+ o bapurau newyddion a chylchgronau cynnwys llawn. Mae’n cynwys The Guardian, The South Wales Evening Post a’r Cymro. Os ydych eisoes yn aelod o lyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, bydd gennych fynediad awtomatig i’r gwasanaeth hwn – bydd angen i chi lawrlwytho ap PressReader o’ch siop apiau. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgelloedd cyhoeddus, gallwch gyflwyno cais i ymuno ar-lein. Cliciwch ar y ddolen PressReader uchod am fwy o wybodaeth.
Mae casgliad y 19th Century British Library Newspapers yn cynnwys cyfresi llawn o 70 papur newydd a ddetholwyd gan y Llyfrgell Brydeinig i gynrychioli Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n cynnwys papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol, a gall fod yn hynod ddefnyddiol os ydych yn ymchwilio i hanes lleol neu deuluol.
Mae Welsh Newspapers Online yn cynnig mynediad am ddim i thua 120 o bapurau newydd Cymreig gan ddyddio’n ôl i 1919. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o The Cambrian rhwng 1804 a 1910.
Mae cronfa ddata Mynegai'r Cambrian yn cynnwys cannoedd ar filoedd o gofnodion papur newydd sy'n ymwneud â phobl a digwyddiadau.
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Mae gwefan ‘Croniclo America’ yn cynnwys dros 10 miliwn o dudalennau o bapurau newydd a ddigideiddwyd yn dyddio rhwng 1836 ac 1922. Mae’n Llyfrgell Gyngres ac yn Waddoliad Cenedlaethol ar gyfer y prosiect Dyniaethau (rhan o Raglen Papurau Newydd Digidol Cenedlaethol –NDNP).
Adnodd sy’n croes chwilio Casgliad Burney o’r 17eg-18fed Ganrif, Cyfnodolion y DU o’r 19eg Ganrif, Papurau Newydd y Llyfrgell Brydeinig, Picture Post ac Archif Ddigidol The Times.
Mae’r Picture Post Historical Archive yn archif gyflawn o rifynnau’r Picture Post, o’r rhifyn cyntaf ym 1938 i’r olaf ym 1957 - y cyfan wedi’i drosi i fformat digidol mewn lliw. Mae Picture Post yn rhoi cipolwg difyr iawn ar fywyd ym Mhrydain o’r 1930au i’r 1950au, gyda miloedd o ffotograffau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.