This page is also available in English
Bydd pob eitem a fenthycir o Lyfrgell y Glowyr a llyfrgelloedd eraill Prifysgol Abertawe yn cael cyfnod benthyca o bedair wythnos. Yn Llyfrgell y Glowyr nid ydym yn codi unrhyw ddirwyon, fodd bynnag efallai y codir ffioedd arnoch mewn llyfrgelloedd eraill os na fyddwch yn dychwelyd eitemau a alwyd yn ôl.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe.
Bydd llyfrau nawr hefyd yn adnewyddu'n awtomatig oni bai bod defnyddiwr arall yn gofyn am hynny. Bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch cyfrif e-bost Prifysgol Abertawe i'ch hysbysu os nad yw'ch llyfr wedi'i adnewyddu'n awtomatig a bod yn rhaid ei ddychwelyd o fewn y saith diwrnod nesaf. Y ffordd orau o fonitro'r llyfrau ar eich cyfrif yw mewngofnodi i'ch cyfrif iFind yn rheolaidd.
Byddwch yn derbyn 'Datganiad Cyfrif Llyfrgell' misol sy'n atgof defnyddiol o ba eitemau sydd gennych ar fenthyg.
Ar ôl i chi darganfod yr eitemau cywir efo iFind, gwnewch nodyn o'r rhif alwad. Defnyddiwch yr arwyddion ar ddiwedd pob silff i arwain chi at yr adran gywir, wedyn dylech ddilyn y rhifau alwad tan weld yr un sy'n cyfateb. Os nid ydych yn gallu gweld yr eitem, neu angen unrhyw help, peidiwch ag oedi - gofynnwch aelod o staff.
Mae prif gasgliad y SWML ar y llawr cyntaf. Mae troi i'r chwith ar ben y grisiau yn mynd â chi i'r rhan sy'n cwmpasu BF - HQ, tra bod parhau ymlaen yn cynnwys HQ-Z.
Mae'r Ffolios [y llyfrau hynny sy'n rhy fawr i'w gosod ar silffoedd arferol] Pamffledi a deunyddiau Clyweledol hefyd wedi'u lleoli ar y llawr cyntaf. Cedwir cyfnodolion, cyfeirlyfrau ac eitemau Casgliad Maes Glo ar y llawr gwaelod.
Mae rhan fwyaf o'n llyfrau electronig ar iFind. Mae'r e-llyfrau yn dod o dri gwefan penodol: VLE, EBSCO aProquest. Mae'r tabs yn ddarparu mwy o wybodaeth am y cronfeydd data yma. I fewngofnodi, defnyddiwch eich cyfrif-enw/cyfrinair Prifysgol Abertawe.
Mae platfform VLeBooks yn darparu ystod o e-lyfrau ar nifer fawr o bynciau.
Mae casgliad helaeth EBSCO o deitlau e-lyfrau ar EBSCOhost yn caniatáu profiad chwilio cynhwysfawr a grymus. Gyda phob chwiliad, ymddengys teitlau e-lyfrau yn uniongyrchol ochr yn ochr â’ch cronfeydd data EBSCO eraill. Mae hyn yn datgelu i ddefnyddwyr wir ddyfnder cynigion eich llyfrgell a chynyddu defnydd a gwelededd o gasgliad cyfan eich llyfrgell.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Mae ein casgliad cyfnodol [wedi'i leoli ar y llawr gwaelod] yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfnodolion ar draws nifer o bynciau. Mae'r rhain yn cynnwys Hanes, Llenyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Addysg ac Astudiaethau Merched.
Mae llawer o gyfnodolion ar gael ar-lein, chwiliwch ar iFind - catalog y llyfrgell.
Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Dyma rhai cronfeydd data allweddol i leoli erthyglau perthnasol. Defnyddiwch y tab 'Erthyglau a mwy' ar iFind i chwilio am erthyglau o amrywiad o gyhoeddiadau a ffynonellau neu hidlwch eich canlyniadau (dyddiad cyhoeddi, awdur, lleoliad) os mae angen bod yn fwy penodol gyda'ch ymchwil.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae Cylchgronau Cymru'n darparu mynediad i gylchgronau'n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2007. Mae'r teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.
iFind yw'r catalog mae pob Llyfrgell Prifysgol Abertawe yn defnyddio. Defnyddiwch y tab sy'n gollwng i lawr ar y dde i benderfynu os ydych eisiau chwilio am lyfrau, erthyglau, Cronfa (ymchwil staff) neu bopeth.
Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif iFind. Cliciwch ar 'Mewngofnodi' ar y top-dde cornel o'r tudalen, ac ysgrifennwch eich enw-cyfrif a'ch cyfrinair. Byddwch wedyn yn gallu gweld y 'Fy Nghyfrif' tab, sydd yn dangos benthyciadau presennol, benthyciadau hanesyddol, ceisiau ar lyfrau a dirwyon.