This page is also available in English
Mae Llyfrgell Banwen yn llyfrgell gymunedol fach gyfeillgar, ac fe’i cefnogir gan Lyfrgell Glowyr De Cymru a Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe.
Defnyddir y Llyfrgell gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe, ond gall pob aelod o'r gymuned leol ei defnyddio. Mae Llyfrgell Banwen yn gweithredu polisi AGORED I BAWB.
Lleolir y llyfrgell yng Ngweithdy DOVE, canolfan gymunedol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu yn y gymuned.
Mae Llyfrgell Banwen yn gangen o Lyfrgell Glowyr De Cymru ac mae wedi'i leoli yn y Gweithdy DOVE, Banwen, 25 milltir o Abertawe yng Nghwm Dulais.
Agorwyd hyn ym 1989 i gefnogi Prifysgol Cymuned y Cymoedd arloesol. Cafodd y llyfrgell ei ehangu a'i hadnewyddu ym 1993 a 2002.
Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol yn Banwen:
Mae'r Llyfrgell ar agor bob dydd Mercher 9.30am - 3pm
HYSBYSIAD PWYSIG: Bydd y Llyfrgell ar gau ddydd Mercher 1af Mai, 2024
I gysylltu â'r llyfrgell | Ffôn: 01639 700024, (pwyswch 1 a gofynnwch am y llyfrgell) | Ebost: miners@swansea.ac.uk
Cyfeiriad: Llyfrgell Banwen | Gweithdy DOVE | Ffordd Rufeinig | Banwen | Castell-nedd | SA10 9LW