This page is also available in English
Mae staff Llyfrgell y Glowyr yma i helpu chi cael y gorau allan o adnoddau'r llyfrgell...plis gofynnwch!
- Yr Hawliau Benthyciwr ar gyfer y categorïau gwahanol yw :
Staff | 30 eitem | 12 wythnos benthyciad |
Ol-raddedig | 20 eitem | 12 wythnos benthyciad |
Is-raddedig | 15 eitem | 4 wythnos benthyciad |
Allanol | 5 eitem | 4 wythnos benthyciad |
O.N. Nid yw benthyciadau cyfyngedig neu archebu llyfrau ar gael i ddarllenwyr tu fas i Brifysgol Abertawe.
Cyfnodau Benthyg - Y cyfnod benthyg arferol ar gyfer llyfrau, cylchgronau (heb law am y rhifyn diweddaraf - na ellir eu benthyg) a materion sain-gweledol yw pedwar wythnos, ond bydd rhaid i'r eitemau dod 'nôl o fewn un wythnos os mae defnyddiwr arall yn ceisio'r llyfr.
Benthyciadau Cyfyngedig - Mae rhai llyfrau poblogaidd ar fenthyciad cyfyngedig ac ar fenthyg am un wythnos yn unig.
Mae gennym beiriant hunan-wasanaeth wrth y ddesg gwasanaeth. Gallwch fenthyg, dychwelyd ac adnewydda llyfrau yma.
Mae un llungopïwr / argraffydd amlbwrpas yn ardal y ddesg gyhoeddi. Gallwch ddefnyddio hwn i gopïo, argraffu a sganio mewn Lliw a D&G.
Gost y copïau yw: A4 D&G - 5c; A4 Lliw - 30c. A3 D&G - 10c; A3 Lliw - 60c.
Gallwch ychwanegu at eich cerdyn myfyriwr wrth y Ddesg Cyhoeddi neu ar-lein.
I ychwanegu at ar-lein ewch i : https://printing.swansea.ac.uk/user
Os yw pob copi o lyfr ar gael ar fenthyciad, gellir rhoi cais ar iFind system gatalog y llyfrgell, gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell. Yna caiff y llyfr ei ad-dalu gan y benthyciwr presennol a phan ddychwelwyd hi, anfonir hysbysiad atoch i gasglu o'r llyfrgell.
Adnewyddu Awtomatig
Cofiwch i wneud cais ar eitemau rydych angen. Mae adnewyddu'n awtomatig yn wych, ond, os ydych eisiau eitem sydd ar fenthyciad i rywun arall, mae rhaid gwneud cais. Os nad ydych, bydd ei benthyciad yn ymestyn. Mae gwneud cais yn haws ac na ddylech aros am fwy na 7 diwrnod am yr eitem - os mae'r defnyddiwr gwreiddiol yn dychwelyd ei eitem ar amser.
Yn ogystal â dwy ystafell cyfrifiaduron, mae yna nifer o dablau ddarllen yn y llyfrgell. Hefyd, mae yna fan mawr ar gyfer astudio'n dawel yn Ystafell 3 ar y llawr gwaelod.
Parcio - Parcio am ddim tu fas i Lyfrgell y Glowyr, a hefyd o gwmpas yr adeilad Emily Phipps.
Rhyngrwyd Di-Wifr -Mae rhyngrwyd di-wifr ar gael yn y llyfrgell. Mae yna mwy o wybodaeth am sut i gofrestri i'r Gwasanaeth Di-Wifr Abertawe yma.
Cyfrifiadura - Mae gennym dwy ystafell cyfrifiadur gyda chyfrifiaduron Mynediad Agored ar gyfer myfyriwr ac ymwelwyr. Mae'r ystafelloedd cyfrifiaduron wedi'i lleoli ar y llawr gwaelod (Ystafell 4) ac yn yr ardal llofft ar y llawr cyntaf (Ystafell 16).
Sain a Gweledol - Mae gennym amrywiad o recordyddion casét, setiau teledu, chwaraewyr fideo a DVD, darllenwyr microfiche a microreel, taflunyddion a sgriniau i'w defnyddio yn y llyfrgell.
Cymerwch hoe - Yn anffodus NID oes gennym unrhyw gyfleusterau gwerthu yn y llyfrgell, felly os oes gennych ddiwrnod astudio wedi'i gynllunio, dewch â'ch diodydd a'ch byrbrydau eich hun, mae gennym ddigon o le i chi gael egwyl.
Toiledau & Loceri - Mae'r toiled dynion, menywod ac anabl yn agos i'r fynedfa ac mae yna hefyd loceri i ddefnyddio efo blaendal ad-daladwy
Gallwch dalu unrhyw ddirwyon a ffioedd at unrhyw ddesg gwasanaeth yn y llyfrgelloedd. Neu trwy gerdyn debyd dros y ffon (ond nid at Lyfrgell y Glowyr).