Skip to Main Content

LLGDC - Llyfrgell Glowyr De Cymru: Streic y Glowyr 1984-1985

This page is also available in English

Streic y Glowyr 1984-1985

Mae 2024-2025 yn nodi 40 o flynyddoedd ers un o'r anghydfodau diwydiannol mwyaf arwyddocaol a welwyd erioed ym Mhrydain - Streic y Glowyr 1984-1985.

I goffáu'r garreg filltir hon, bydd y canllaw hwn yn arddangos y deunyddiau a gedwir yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Abertawe mewn perthynas â Streic y Glowyr, gan gynnwys:

  • Casgliad Maes Glo De Cymru - adnodd ymchwil o bwys rhyngwladol, sy'n darparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Mae'n cynnwys cofnodion undebau llafur, yn bennaf Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion â chysylltiadau â'r gymuned lofaol. Mae'r Casgliad wedi'i rannu ar draws dau safle:

Gallwch bori drwy gynnwys Casgliad Maes Glo De Cymru a chwilio ynddo drwy ddefnyddio'r wefan Coalfield Web Materials a gwefan Casgliad Maes Glo De Cymru

  • Casgliad Raissa Page - Daeth Raissa Page yn ffotograffydd dogfennol a addysgodd ei hun ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol. Mae ei ffotograffiaeth yn gofnod o fywydau grwpiau ar yr ymylon mewn cyfnodau o newid cymdeithasol yn ystod blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys Streic y Glowyr 1984/85. Roedd hi'n un o aelodau sefydlu FORMAT Photographic Agency, sef asiantaeth arloesol menywod yn unig yn y 1980au.

Grŵp o gyfrinfa Fernhill a'u baner mewn gwrthdystiad yn Llundain yn ystod Streic y Glowyr 1984-1985, 24 Chwefror 1985. Hawlfraint Norman Burns (Cyf.SWCC/PHO/DIS/105)

Oriel - Martin Shakeshaft, Streic y Glowyr 1984-1985

Empty chairs outside a colliery with a sign with a skull and crossbones on it.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Two men with sacks of potatoes and tins behind them.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Four people wearing mining helmets with a sign that says ‘coal for Britain not dole for miners’.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Outside of a coal mine.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Group of women holding a sign that says ‘The Maerdy Womens Support Group, your fight is our fight’.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Casgliadau Ffotograffig - Archifau Richard Burton

Four women wearing aprons and a child walking forward.

'We made them ourselves' Windhill and Woolley Edge Souper women, aelodau o Grŵp Gweithredu Gwragedd Glowyr Barnsley yn ystod streic 84-85 [Cyf. DC3/6/1/120] 

Ffotograff gan Raissa Page. Wedi’i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

 

Casgliadau Ffotograffig

  • Casgliad Martin Shakeshaft: mae ffotograffau Martin Shakeshaft, ffotonewyddiadurwr a dynnodd luniau o streic 1984-1985, ar gael i'w gweld ar-lein, gan gynnwys oriel ffotograffau Strike84 a'r arddangosfa ôl-syllol Look Back in Anger. Mae ffotograffau yn y casgliad yn cynnwys:
    • lluniau o fenywod, plant a glowyr yn cymryd rhan mewn gwrthdystiadau
    • Margaret Thatcher yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol
    • Arthur Scargill yn rali'r glowyr yn Nhreorci ac yng Nghynhadledd y TUC yn Brighton
    • lluniau o drais yng ngweithfa glo golosg Orgreave
    • picedwyr yng Ngwaith Dur Port Talbot a Glofa Marine
    • glowyr ar streic yn casglu glo o'r tomennydd
    • gwragedd glowyr yn paratoi pecynnau bwyd. (Cyf. SWCC)
  • Ffotograffau o'r streic o gasgliad personol Kim Howells: dros 150 o luniau'n dangos gwrthdystiadau, cyfarfodydd, dyletswydd bicedu a dosbarthu bwyd ar gyfer glowyr ar streic. Mae'r ffotograffau hefyd yn cynnwys cloriau cylchlythyron a rhaglenni digwyddiadau a drefnwyd i godi arian a chefnogaeth ar gyfer glowyr ar streic. (Cyf. SWCC/PHO/PC/9/3)
  • Albwm ffotograffau personol a gyflwynwyd i Lowyr De Cymru gan Gefnogwyr Southampton (Cyf.SWCC/PHO/DIS/107)
  • Ffotograffau a dynnwyd gan Rob Huibers, ffotograffydd proffesiynol Iseldiraidd yn y Rhondda, yn dangos tirweddau a chymunedau yn y cwm, glofeydd a glowyr, plant, grwpiau menywod yn gorymdeithio yn erbyn cau'r pyllau glo ac i gefnogi'r glowyr ar streic etc. Mae'r cymunedau yn y ffotograffau yn cynnwys Maerdy, Blaenllechau a Ferndale (Cyf. SC/713)
  • Casgliad Raissa Page: mae'r casgliad yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn ystod y streic (Cyf. DC3/6), pan fu'r ffotograffydd dogfennol, Raissa, yn cofnodi gorymdeithiau a gwrthdystiadau ledled Prydain. Maent yn cynnwys llawer o luniau o fenywod yn ystod y streic, a hithau wedi treulio amser gyda grwpiau o wragedd glowyr. Maent hefyd yn cynnwys lluniau a dynnwyd mewn pyllau a phentrefi glofaol yn union ar ôl i'r streic ddod i ben (tua 1985-1987). Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o luniau o wrthdystiadau gwleidyddol, anghydfodau diwydiannol a gweithgarwch  Undebau Llafur yn y DU (Cyf. DC3/24)

Oriel Baneri - Llyfrgell Glowyr De Cymru

Undeb Cenedlaethol y Glowyr, Ardal De Cymru - BAN/17

Slogan: Forward to Socialism / Ymlaen i Sosialaeth
Ar frig y faner, gwelir llun o lofa a'r cyffiniau, gan gynnwys tafarn o'r enw The Dragon. Isod i'r chwith gwelir llun o löwr hen ffasiwn â lamp glöwr a chaib. Isod i'r dde gwelir glöwr modern â dril mecanyddol a lamp trydan. Rhwng y ddau löwr ceir pwll glo. Isod yn y canol ceir cylch melyn â lamp glöwr, cenhinen a thŵr weindio glofa, yn dangos arwyddlun Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), wedi'i amgylchynu gan blethdorch lawryf.

Baner Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe BAN/67

Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe Shoulder to Shoulder

Neath Dulais & Swansea Valley Support Group. Shoulder to Shoulder. Shows a pit wheel, a woman in traditional welsh dress and daffodils

Undeb Cenedlaethol y Glowyr De Cymru Abernant BAN/2

Lamp glöwr mewn pwll glo â fflamau oddi tani, wedi'i hamgylchynu gan gylch ag ymyl du (y ddwy ochr).

Ar yr ochr hon o'r faner, gwelir y geiriau: 'Abernant. UCG De Cymru'. Ar yr ochr arall ceir: 'Abernant S Wales NUM'.

A miner's lamp in a mine with flames underneath it, surrounded by a circle with a black border (both sides).

BAN/52 Baner Aberystwyth yn Cefnogi'r Glowyr, 1984-5

Dywed y testun 'Aberystwyth Supports the Miners, 1984-5 Cefnogwch y Glowyr'. Ar y cefn gwelir y geiriau 'Join Us'

Image of two hands shaking on a red background. Text reads Aberystwyth supports the miners. Cefnogwch y glowyr.

Grŵp Cefnogaeth Menywod Bersham BAN/50

Arni gwelir y geiriau: 'Bersham Women's Support Group' Mae wedi’i haddurno â baneri Cymru a sawl bathodyn.

Baner Plaid Lafur Chichester, 1984 Ban/37

Baner goch â'r geiriau Chichester Labour Party arni. O 1984 i gefnogi'r Streic

BAN/28 Baner Brent NALGO / Glowyr Cwm Dulais

Baner goch â’r geiriau Brent NALGO Dulais Valley Miners arni.Yn y canol ceir pâr o ddwylo wedi'u plethu ynghyd (yn cynrychioli undod) ac yn y gornel dde isaf ceir dwrn caead.

https://dkou0skpxpnwz.cloudfront.net/accounts/88755/images/brent_nalgo.jpg

Grŵp Cefnogaeth Cyfrinfa'r Tower - BAN/55

Ar y faner ceir y geiriau Tower Lodge Support Group. Never underestimate the power of a woman. Testun coch ar gefndir tywyll. Llun o fenyw a glöwr yn eistedd cefn wrth gefn, yn cefnogi ei gilydd.

Banner reads Tower Lodge Support Group. Never underestimate the power of a woman. Red text on a dark back ground. Image of a woman and a miner sitting

Baneri, Posteri a Bathodynnau yn Llyfrgell Glowyr De Cymru

Baneri

Mae gan Amgueddfa Glowyr De Cymru 57 o faneri yn ei chasgliad, y daeth y rhan fwyaf ohonynt o gyfrinfeydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ardal De Cymru. Mae'r baneri'n symbolau gweledol o hunaniaeth dosbarth gydlynol mewn cymunedau diwydiannol. Cânt eu benthyca'n rheolaidd ar gyfer digwyddiadau, cyflwyniadau, arddangosiadau a chynyrchiadau. Cafodd llawer o'r baneri eu defnyddio mewn gwrthdystiadau a gorymdeithiau yn ystod Streic y Glowyr, er i'r rhan fwyaf ohonynt gael eu creu cyn y streic. Roedd yr oriel uchod yn cynnwys enghreifftiau a gafodd eu creu yn ystod Streic 1984-85. Nid eiddo i'r Brifysgol yw'r baneri hyn, maent wedi cael eu benthyca drwy garedigrwydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru).

I ddysgu rhagor am y baneri, ewch i'n harddangosfa ar-lein, 'Gwawrio Oes Newydd' - https://collections.swansea.ac.uk/s/banner-exhibition-cy/page/welcome

neu ewch i wefan Casgliad Meysydd Glo De Cymru a chwilio drwy'r baneri: https://lisweb.swan.ac.uk/swcc/  

Baneri Grwpiau Cefnogaeth

Roedd grwpiau cefnogaeth yn rhan allweddol o Streic y Glowyr ac o gadw'r gweithredu'n gryf. Mae nifer o faneri grwpiau cefnogaeth yng nghasgliad Llyfrgell y Glowyr gan gynnwys:

BAN/28 - Brent NALGO - Cwm Dulais

BAN/52 - Aberystwyth yn Cefnogi'r Glowyr

BAN/50 - Grŵp Cefnogaeth Menywod Bersham

BAN/38 - London Congress yn Cefnogi'r Cymunedau Glofaol

BAN/67 - Grŵp Cefnogaeth Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe

BAN/55 - Grŵp Cefnogaeth Cyfrinfa'r Tower

I ddysgu rhagor, ewch i'n harddangosfa, Menywod Blaenllaw Cymru: Grwpiau Cymorth

Posteri

Mae ein casgliad o bosteri'n cynnwys deunydd o amrywiaeth eang o ffynonellau a sefydliadau, gan gynnwys Streic y Glowyr 1984-85. Mae'r rhain yn ffordd weledol arall o archwilio Streic 1984-85. Hefyd, mae gennym gasgliad o fathodynnau Undeb Cenedlaethol y Glowyr a bathodynnau eraill y streic sydd i'w weld yng Nghasgliad Mair Francis a Chasgliad Ian Isaac.

Posteri a Bathodynnau

40ain Pen-blwydd

Y Cyfryngau

  • Gwnaeth We're Not Going Back, cynhyrchiad gan Red Ladder Theatre Company ac Unite the Union er teyrnged i fenywod streic 1984/85, ddefnyddio lluniau o Gasgliad Raissa Page ar gyfer eu gweithgareddau cysylltu â'r wasg.

Arddangosfeydd 

  • Trefnodd Llyfrgell Glowyr De Cymru arddangosfa am Streic y Glowyr 1984/85 i nodi 40 o flynyddoedd ers y Streic.
  • Cynhaliwyd y digwyddiad yng  Ngweithdy DOVE yn ystod yr wythnos 12 - 15 Mawrth 2024.
  • Roedd yr arddangosfa yn cynnwys ffilm, baneri, ffotograffau, posteri, pamffledi a llyfrau a gyflenwyd gan y casgliadau arbennig a gedwir yn y llyfrgell.
  • Daeth nifer mawr o bobl i'r digwyddiad ac roedd hi'n wych clywed y straeon a'r atgofion.


 

O'r chwith i'r dde: Ann Jones (Grŵp Cefnogaeth Cyfrinfa'r Tower) Siân James AS (Grŵp Cefnogaeth Castell-nedd, Dulais a Chwm Tawe) a Mair Francis (Gweithdy DOVE) yn yr arddangosfa 13/03/024.

Arddangosfa ar-lein Streic y Glowyr 40

Mae gan Archifau Richard Burton nifer o luniau o Faes Glo De Cymru yr hoffen ni wybod rhagor amdanynt - felly rydym yn gofyn am eich help i lenwi'r bylchau! Rydym yn gofyn i ymwelwyr glicio ar y lluniau a chofnodi eu hymateb a'u hatgofion personol.

Deunydd Archifol - Archifau Richard Burton

  • Gohebiaeth, cofnodion, derbynebau a phapurau eraill sy'n ymwneud â chefnogaeth yn ystod y streic, gan gynnwys Grŵp Cefnogaeth Gwragedd Abergwynfi a Blaengwynfi; Pwyllgor Streic Rhydaman; Cronfa Fwyd Gwent; Grŵp Cefnogaeth Glowyr Castell-nedd a'r Ardal; a Chyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glo (Cyf. SWCC/MND/25/1)
  • Papurau personol David Sutton: yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Rhymni a gododd filoedd o bunnoedd ar ffurf arian parod a bwyd ar gyfer teuluoedd y glowyr ar streic (Cyf.SWCC/MNC/PP/28)
  • Cylchlythyron, taflenni etc sy'n berthnasol i Streic y Glowyr 1984-5 (Cyf.SWCC/MND/8/1)
  • Deunydd cyfrinfeydd megis llyfrau cofnodion neu gofnodion ariannol sy'n ymwneud â chyfnod y streic e.e. Cyfrinfa Oakdale Navigation (Cyf. SWCC/MNC/NUM/l/25) a Chyfrinfa Penallta (Cyf. SWCC/MNC/NUM/L/27)
  • Papurau Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru) gan gynnwys pamffled yn ymwneud â budd-daliadau a hawliau'r glowyr ar streic (Cyf. SWCC/MNC/NUM/3/19) a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol ac adroddiad y Gynhadledd Cynrychiolwyr Arbennig, Tachwedd-Rhagfyr 1984 (Cyf. SWCC/MNC/NUM/373)

SWCC/PHO/ED/2/32/41: Cerdyn Nadolig Grŵp Cefnogaeth Glowyr Cwm Nedd, Cwm Dulais a Chwm Tawe 1984

Oriel - Menywod a Gwrthdystio

Group of women sitting holding protest signs with policemen in the background.

Llun o fenyw yn gwrthdystio yn erbyn Margaret Thatcher yn ystod streic 1984/85 Hawlfraint Martin Shakeshaft (https://martinshakeshaft.com/) (Cyf. SWCC/DIS/106/39)

Group of women with their arms in the air.

‘Here we go for the women of the working class’, Gwragedd Glowyr yng Nghynhadledd Genedlaethol Gyntaf Menywod yn erbyn Cau Pyllau Glo Sheffield, 17 Awst 1985. DC3/6/1/29)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd; cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Ffotograff o gasgliad personol Kim Howells (Cyf.) SWCC/PHO/PC/9/3 (31of157)

'Raising money at Wakefield Miners' Gala 84' (Cyf. DC3/6/1/256)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i warchod gan hawlfraint. Ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd; cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Women in the struggle: Cynheidre, Tachwedd 1984

Hawlfraint - Cyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glofaol. Llyfrgell Glowyr De Cymru

Adnoddau Sain a Fideo yn Llyfrgell Glowyr De Cymru

Mae gan Lyfrgell Glowyr De Cymru gasgliad helaeth o gyfweliadau hanes llafar.

Yn rhan o'r casgliad hwnnw y mae Astudiaeth Streic y Glowyr 1984-85. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar streic y glowyr 1984-85, gan gynnig adroddiadau unigryw, o lygad y ffynnon, o ddigwyddiadau yn ystod y streic ac ar ei hôl. Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar farn y diwydiant glo - arweinwyr a glowyr - ynghylch canlyniad y streic.
(33 Cyfweliad)

Yn ogystal, mae'r canlynol gennym:

  • Cyfweliadau sain â swyddogion undeb, glowyr ar streic, gweithredwyr Grwpiau Cefnogaeth Menywod ac eraill. Mae'r rhain yn manylu ar agweddau amrywiol ar y streic, megis y cyd-destun gwleidyddol a diwydiannol cefndirol, tactegau, gweithgareddau codi arian, plismona a phrofiadau personol. Gweler yn benodol, Astudiaeth Streic y Glowyr 1984-85 (https://lisweb.swan.ac.uk/swcc/audio/strike84.htm), ac Astudiaeth Cyngor Cymru ar gyfer Rhyddidau Sifil a Gwleidyddol (https://lisweb.swan.ac.uk/swcc/audio/wccpl.htm).
  • Ffilmiau a fideo sy'n ymwneud â'r streic, gan gynnwys rhaglenni dogfen megis Smiling and Splendid Women; cyfweliadau â glowyr, swyddogion undeb ac aelodau o Grwpiau Cefnogaeth Menywod; ffilm o Rali Undeb Cenedlaethol y Glowyr yng Nghanolfan Chwaraeon Afan Lido, Port Talbot, ym 1984; a ffilm o Drafodaeth Cyngres yr Undebau Llafur ar Streic y Glowyr, 1984. (https://lisweb.swan.ac.uk/swcc/video/video.htm)

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru hefyd yn gartref i Gorneli Clip Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda chynnwys a ddarlledwyd gan y BBC, ITC ac S4C.

Deunyddiau Argraffedig

Ffynonellau a gedwir mewn mannau eraill