Croeso i’r LibGuide ar gyfer Ysgoloriaeth Addysgu a Dysgu ar gyfer staff neu fyfyrwyr sy’n dymuno darganfod, defnyddio a chreu llenyddiaeth ymchwil am addysgu a dysgu ym maes Addysg Uwch. Gallai hyn fod ar gyfer y Gymdeithas AAU neu TAR, neu i ymchwilio i addysgu ym maes Addysg Uwch.
Mae’r canllaw hwn yn trafod addysgu a dysgu ym maes Addysg Uwch – mae gennym ganllaw Addysg hefyd sydd â therfynau ehangach i gynnwys ysgolion a mwy.
Mae gan bob ysgol a choleg dîm o lyfrgellwyr pwnc i gefnogi eich ymchwil. Cysylltwch gyda’ch llyfrgellwyr i gael ychydig o gyngor ar ba gronfeydd data i’w defnyddio a sut i chwilio’n fwy effeithiol.
Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT) yn cyfoethogi profiad dysgu myfyrwyr trwy rannu a hybu arfer dda mewn dysgu ac addysgu, noddi a hyrwyddo ymchwil addysgeg, a gwella proffil dysgu ac addysgu ar draws y sefydliad.
Y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer (CRIP) yw prif lwybr y Brifysgol ar gyfer cynnal ymchwil addysgol. Mae’r Ganolfan wedi cael ei sefydlu ar adeg o ddiddordeb newydd mewn ymchwil addysgol a’r ymgyrch ar gyfer arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Wrth wneud ymchwil, mae'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod wedi ymrwymo i werthoedd craidd y Brifysgol, sef proffesiynoldeb, cydweithio a gofal.
Mae gan y Ganolfan bedwar nod:
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.