Skip to Main Content

Ysgoloriaeth Dysgu ac Addysgu (SOTL): Llenyddiaeth lwyd

This page is also available in English

Llenyddiaeth lwyd

Mae llenyddiaeth lwyd yn cyfeirio at ddeunydd ymchwil wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi nad yw ar gael yn fasnachol.
papurau o gynadleddau/trafodion cynadleddau

  • traethodau ymchwil
  • treialon clinigol
  • cylchlythyron
  • pamffledi
  • adroddiadau
  • ffeiliau ffeithiau, bwletinau
  • dogfennau’r llywodraeth
  • arolygon
  • cyfweliadau
  • gwaith cyfathrebu anffurfiol (e.e. blogiau, podlediadau, e-byst)

Mae llenyddiaeth lwyd yn gallu bod yn ffynhonnell orau ar gyfer yr ymchwil ddiweddaraf i rai testunau. Er hynny, sylwer na chaiff llenyddiaeth lwyd ei hadolygu gan gymheiriaid fel arfer, ac mae’n rhaid ystyried hynny wrth ei gwerthuso.

Rhowch wybod inni os ydych chi’n dod o hyd i ffynhonnell a fyddai’n werth ei chynnwys yn y canllawiau yn eich tyb chi.

Ble i ddod o hyd i lenyddiaeth lwyd

Mae rhai o'n cronfeydd data'n cynnwys llenyddiaeth lwyd megis papurau cynhadledd a thraethodau ymchwil yn ogystal ag erthyglau mewn cyfnodolion. Mae'n bosib y bydd y ffynonellau isod yn ddefnyddiol wrth ddod o hyd i lenyddiaeth lwyd hefyd.

Traethodau hir a theses ôl-radd

Traethodau hir a theses ôl-radd

Mae’r Llyfrgell yn cadw holl draethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel ddoethuriaeth a rhai enghreifftiau meistr hefyd. Nid ydym fel arfer yn cadw prosiectau na thraethodau trydedd flwyddyn. Cedwir y rhan fwyaf o’n traethodau hir ar glo ar Gampws Parc Singleton.

Ceir gwybodaeth am yr holl draethodau ymchwil a dderbynnir gan y llyfrgell yn iFind, catalog y llyfrgell. 

Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.

I gyfeirio atynt yn unig mae traethodau hir ac ni ddylid eu cymryd allan o’r llyfrgell.

Gofynnwch wrth y Ddesg Wybodaeth os hoffech ddarllen y traethawd hir.

Chwilio'n effeithiol gyda Google

Gall Google fod yn offeryn defnyddiol at ddiben dod o hyd i wybodaeth ar-lein. Fodd bynnag, gall fod yn anodd nodi'r ffynonellau mwyaf perthnasol a dibynadwy o wybodaeth o restr o filoedd neu filiynau o ganlyniadau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y rhai gorau ar frig y rhestr! Bydd y strategaethau canlynol yn eich helpu i chwilio'n fwy effeithiol ar Google.

Chwilio ar wefan neu grŵp o wefannau

Defnyddiwch eich allweddeiriau a'r gorchymyn site:url i ddod o hyd i ganlyniadau o un wefan neu grŵp o wefannau. Er enghraifft, bydd chwilio am cyfnod sylfaen site:gov.wales yn dod o hyd i wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen o wefan Llywodraeth Cymru. Gallech ddefnyddio site:ac:uk i chwilio gwefannau academaidd.

Chwilio am fath penodol o ddogfen

Defnyddiwch y gorchymyn filetype: i gyfyngu'ch chwiliad i fath penodol o ddogfen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am fath penodol o wybodaeth. Er enghraifft, os ydych yn meddwl bod dogfennau'r llywodraeth yn fwy tebygol o gael eu cyhoeddi ar ffurf PDF, gallech ddefnyddio filetype:pdf i gyfyngu'ch canlyniadau i ffeiliau PDF a'i gwneud yn haws dod o hyd i'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Mae data rhifiadol yn debygol o ymddangos mewn taenlen, felly gallech ddefnyddio filetype:xls i chwilio am ddogfennau Excel.

Mae Google Scholar yn chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd megis erthyglau mewn cyfnodolion a chrynodebau, ond efallai y bydd yn anodd dod o hyd i destun llawn y deunydd yn eich canlyniadau. Bydd cysylltu'ch cyfrif Google Scholar â Phrifysgol Abertawe yn helpu gyda hyn. Ewch i'r eicon gosodiadau ar frig y sgrin.  

Wedyn ewch i Library Links i ddod o hyd i Brifysgol Abertawe.

Pam defnyddio cronfeydd data'r llyfrgell yn lle Google Scholar?

Er bod Google Scholar yn gallu bod yn ddefnyddiol, mae gan iFind a chronfeydd data pwnc eraill, megis Science Direct, rai manteision allweddol:

  • Y gallu i nodi erthyglau sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid

  • Mynediad hawdd i grynodeb o'r erthygl

  • Mynediad hawdd i'r erthygl lawn, os yw ar gael, heb unrhyw gost ychwanegol.

  • Dyfyniadau a rhestrau o gyfeiriadau ar gyfer pob erthygl - yn ddefnyddiol ar gyfer ehangu'ch deunydd darllen.

  • Y gallu i chwilio am destunau cyn eu cyhoeddi.

  • Y gallu i fod yn fwy trefnus - opsiynau i e-bostio, lawrlwytho ac integreiddio â rheolwyr llyfryddiaeth (fel EndNote).

Dod o hyd i Ddata ac Ystadegau