Ydych chi wedi cymryd rhan yn ein heriau Darllen yn Well? Maent yn ffordd wych o amrywio eich darllen a dod o hyd i awduron a genres newydd. Rydyn ni’n lansio un newydd yr wythnos hon!
Darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod.
- Llyfr sy’n cael ei gyfieithu
- Llyfr sain
- Llyfr rydych wedi dechrau arno ond byth wedi’i orffen
- Stori fer
- Barddoniaeth
- Llyfr a osodwyd mewn gwlad and ydych chi erioed wedi ymweld â hi
Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd ar gyfer pob awgrym. Mae awgrymiadau'n cynnwys e-lyfrau a llyfrau clyweled y gallwch gael mynediad atynt am ddim.
Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio #paDarllenYnWell.
Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter a Instagram.
Cynhelir yr her tan 22 Medi 2023.
Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, sef amser i gydnabod a dathlu'r cyfraniad a wneir gan bobl dduon yn ein cymunedau a'r tu hwnt. Wedi’i hysbrydoli gan thema eleni sef Anrhydeddu ein Chwiorydd, mae gan Lyfrgell Parc Singleton arddangosfa o lyfrau gan fenywod duon o fri o'n casgliad yn ogystal â llyfrau amdanynt. Gallwch chi hefyd bori'r rhestr ddarllen Hanes Pobl Dduon ar ein tudalennau Amrywio casgliadau'r llyfrgell.
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth da i'w ddarllen, cadwch lygad am yr arddangosfeydd ffuglen yn llyfrgelloedd y Bae a Singleton. Mae gennym ni ddetholiad o nofelau gan awduron duon i chi bori drwyddynt a'u benthyg y mis hwn.