Croeso i Heriau Darllen yn Well! I gymryd rhan, darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob categori a restrir yn yr her. (Os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!) Mae cysylltiadau â’r her bresennol a’r un flaenorol isod. Gwnewch yr un ddiweddaraf neu ewch yn ôl ac ail-ymweld â hen heriau!
Rydym wedi awgrymu rhai teitlau efallai yr hoffech roi cynnig arnynt ar gyfer pob categori. Gallwch fenthyg y llyfrau rydym wedi’u hawgrymu o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe. Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrau eich hun hefyd – rhannwch eich syniadau gan ddefnyddio #paDarllenYnWell.